'Anghredadwy': Ymateb ffoaduriaid Wcráin i groeso Cymru

  • Cyhoeddwyd
Kataryna ac Olena a'u plant
Disgrifiad o’r llun,

Mae Olena Andrshchuk a Kateryna Halenda wedi dod i adnabod ei gilydd ar ôl cael lloches yn un o wersylloedd yr Urdd

Ers mis Ebrill, mae ffoaduriaid o Wcráin wedi cael lloches yn un o wersylloedd yr Urdd. Erbyn hyn, mae wedi tyfu'n gymuned unigryw o dros 220 o bobl.

Dydy'r safle ddim yn cael ei enwi am resymau diogelwch ond cafodd Mared Ifan gyfle i ymweld â'r ganolfan un bore i ddysgu mwy am fywydau'r bobl sy'n byw yno.

Wrth i ni gyrraedd gwersyll yr Urdd y bore hwnnw, mae'r haul yn gwenu ac mae sŵn plant yn chwerthin a chwarae gyda staff yr Urdd yn cario o'r caeau chwarae.

Maen nhw'n chwarae gêm sy'n eu dysgu nhw am enwau lliwiau ac yn dawnsio i gân Hei, Mr Urdd (wrth gwrs!)... ac mae hyd yn oed y dyn ei hun, yn ei goch, gwyn a gwyrdd, yn ymuno yn yr hwyl.

Mae'n fyd gwahanol i'r erchyllterau nôl adref, lle roedd rhieni yn gorfod cadw eu plant tu fewn rhag perygl bomiau byddin Rwsia.

Yma maen nhw'n cael rhyddid i fod y tu allan a chymdeithasu gyda phlant eraill. Ac mae'n rhaid gwneud y mwyaf o'r gweithgareddau lu hefyd wrth gwrs - o ddringo i'r ceirt modur.

'Fy ngŵr wnaeth wneud i ni fynd'

Disgrifiad o’r llun,

"Fe wnaethon ni benderfynu gadael jyst i ddod o hyd i le diogel i fy mhlant," meddai Kateryna

Dwi'n cael cyfle i sgwrsio â dwy fam, a gyrhaeddodd y gwersyll ddechrau mis Mehefin.

Doedd Olena Andrshchuk a Kateryna Halenda ddim yn adnabod ei gilydd cyn cyrraedd Cymru, ond gyda'u plant tua'r un oedran, maen nhw wedi tyfu'n ffrindiau.

Mae'r ddwy yn gefn i'w gilydd, ar ôl gorfod gadael eu gwŷr nôl adref yn Wcráin.

"Fe wnaethon ni aros am 100 diwrnod oherwydd doedden ni ddim eisiau gadael ar y dechrau ond gwnaeth fy ngŵr i ni fynd," meddai Kateryna, 32 oed, sy'n athrawes.

"Doedd hi ddim yn ddiogel. Roeddem mor aml yn ein llawr isaf oherwydd y seirenau cyrch awyr drwy'r amser, gan gynnwys gyda'r nos pan oedd rhaid i fi ddeffro fy mhlant.

"Fe wnaethon ni benderfynu gadael jyst i ddod o hyd i le diogel i fy mhlant."

Disgrifiad o’r llun,

Olena: "... gadawais er mwyn fy mhlant."

Fe wnaeth gŵr Olena, Pavlo, hefyd wneud i'w wraig adael eu cartref yn y brifddinas Kyiv er mwyn ei diogelwch hi a'u dau blentyn.

"Dyw hi ddim yn ddiogel o hyd," meddai'r fam 36 oed, sy'n ysgrifennu cynnwys ar gyfer gwefannau nôl yn Wcráin.

"Yr union ddiwrnod roedden ni'n gadael, yn agos iawn at ble rydyn ni'n byw, fe ddeffrais i ganol nos oherwydd bomio mawr iawn.

"Doedd hi dal ddim yn benderfyniad hawdd i adael oherwydd roedd yn rhaid i mi adael fy nhref enedigol, fy ngŵr, popeth sydd gennyf o hyd - ond gadawais er mwyn fy mhlant."

Er eu bod nhw wedi dod o hyd i noddfa yma yng nghefn gwlad Cymru, mae'r rhyfel a'u teulu nôl adref yn dal i fod ar eu meddyliau bob amser.

Disgrifiad o’r llun,

Oleh, sy'n parhau yn Wcráin, wnaeth fynnu bod ei wraig a'i blant yn gadael. Maen nhw'n ei ffonio yn gyson i weld os yw'n ddiogel

Mae gan Kateryna ap ar ei ffôn sy'n rhoi gwybod iddi hi pryd mae seirenau nôl adref yn rhybuddio pobl i gysgodi rhag perygl y bomiau.

Mae'n dweud ei fod yn helpu iddi wybod pryd yw'r amser gorau i ffonio ei gŵr, Oleh, i weld os yw e'n ddiogel.

Ysgol i gynnig 'normalrwydd'

Drwy gefnogaeth y cyngor sir lleol, mae ysgol ar y safle, lle mae'r plant yn cael gwersi bob dydd, gan gynnwys gwersi Cymraeg a Saesneg.

Mae'n rhan o ymdrech i geisio cynnig sefydlogrwydd mewn cyfnod mor anodd.

Disgrifiad o’r llun,

Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, gyda rhai o'r plant sy'n cael gwersi yn yr ysgol

"Mae'n bwysig bod y plant yma yn cael normalrwydd tra bod nhw mewn sefyllfa gwbl anghyffredin iddyn nhw," meddai Sian Lewis, prif weithredwr yr Urdd.

"Mae'r broses o fynd i'r ysgol bob dydd, cael addysg, cael gweithgareddau hamdden yn bwysig iawn iddyn nhw, a hefyd i'w rhieni nhw."

Mae tua 100 o blant yma - y ieuengaf yn fabi wyth mis oed. Mae'r oedolyn hynaf yn ei 70au cynnar.

Tra bod y plant yn yr ysgol, mae'r oedolion yn cael help ymarferol - o helpu i lenwi ffurflenni pwysig fel fisas, cael mynediad at fudd-daliadau a chymorth i ddod o hyd i waith.

Mae yna hefyd weithgareddau hamddenol i bawb - o dwmpath dawns, fydd yn gyfarwydd i lawer o Gymry sydd wedi aros mewn gwersyll, i wersi ioga a theithiau lleol o'r ardal.

'Erioed wedi profi'r fath letygarwch'

Rydym ni'n ymweld â'r safle ar yr un diwrnod y mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, yma i gwrdd â rhai o'r lletywyr.

Disgrifiad o’r llun,

Marta yn siarad gyda'r prif weinidog Mark Drakeford

Mae troi'r gwersyll yn loches i ffoaduriaid yn rhan o gynllun Llywodraeth Cymru a sicrhau bod Cymru'n 'genedl noddfa'.

"Dydyn ni i erioed wedi profi'r fath letygarwch," meddai'r cyn athrawes Marta Burak, 64, wrth Mr Drakeford, sydd yma gyda'i merch a'i hwyrion.

Mae'r diolch yn glir ar ei hwyneb ond mae'n dal i ofidio am ei theulu y mae hi wedi gorfod gadael ar ôl.

"Dyw hi ddim yn hawdd i fi achos mae hanner fy nghalon ar ôl yn Wcráin - fy mab, fy merch yng nghyfraith a fy mab yng nghyfraith - tad fy wyrion," meddai.

"Ond rydym ni'n ddiogel fan hyn, dyna'r peth pwysicaf i ni. Yn syth ar ôl i ni gyrraedd yma, roedden ni'n teimlo hynny, teimlo'n ddiogel."

Disgrifiad o’r llun,

Marta

Ac wrth deithio i'r gwersyll, roedd gweld baneri Wcráin yng ngerddi a thai pobl yn sioc mawr iddi.

"I ddechrau roeddwn i'n gofyn, 'Oes 'na Wcráiniaid yn byw yma?' a'r ateb oedd, 'Na, mae e jyst yn arwydd o gefnogaeth'.

"Roedd yn anghredadwy. Mae pobl ar ochr arall y byd yn ein cefnogi ni."

'Roedd hi am ein hachub ni'

Wrth holi efeilliaid Anhelina ac Iryna Matusevych, 22 oed, beth maen nhw'n gweld ei eisiau mwyaf am bod nôl adref - mae'r ateb yn dod yn syth gan Iryna: "Dwi'n gweld eisiau y prydau bwyd oedden ni'n cael fel teulu.

Disgrifiad o’r llun,

Anhelina ac Iryna

"Roedden ni'n cael swper bob nos ar yr un amser. Roedd e'n lyfli. Roedden ni'n siarad am ein diwrnod a bwyta bwyd mor flasus."

Ychwanegodd ei chwaer, Anhelina: "Roedd yn rhan o'n trefn dyddiol. Y cwbl sydd gyda ni nawr yw galwad ar Viber (ap sgwrsio) am 20 munud a ry'n ni methu hyd yn oed cofleidio, y peth mwya' hanfodol."

Cyrhaeddodd y ddwy y gwersyll ar 4 Mai, ar ôl i'w mam-gu a thad-cu eu gorfodi i adael.

"Nid ein penderfyniad ni oedd gadael. Fe wnaeth ein mam-gu a'n tad-cu benderfynu bod angen i ni adael. Doeddwn i ddim am eu gadael nhw," meddai Iryna.

"Fe wedes i wrth fy mam-gu bod yn well gen i farw gyda hi na byw rhywle arall yn Ewrop ond fe wedodd hi wrtha i fy mod i'n ferch fach ffôl! Ond roedd hynny'n dangos caredigrwydd wrth gwrs."

"Roedd hi am ein hachub ni," mae Anhelina yn ychwanegu.

"Roedd yn daith hir (i gyrraedd Cymru), i gyd ar drên. Cawsom ni drên o Warsaw i Berlin a wedyn o Berlin i Paris wedyn o Baris i Lundain ac o Lundain i Gaerdydd a wedyn cawsom ni dacsi i fan hyn," meddai.

Mae'r ddwy yn gobeithio cael lle i astudio cwrs meistr yn Rhydychen, ond roedden nhw'n awyddus yn gyntaf i ddangos eu gwerthfawrogiad i bobl Cymru.

"Byddwn ni ddim yn gadael Cymru am sbel," ychwanegodd Anhelina.

"Maen nhw wedi gwneud cymaint i ni ac rydym ni'n gwerthfawrogi'r help. Rydym ni wedi bod yn dysgu'r iaith ac am y diwylliant."

Nôl yn yr ysgol, ac mae'r plant yn dysgu canu Lawr ar Lan y Môr.

Maen nhw wedyn yn canu yn Wcreineg - darn a gomisiynwyd yn arbennig ar y cyd ag ysgol leol am blant yn 'sefyll gyda'i gilydd'.

A phan fydd hi'n bryd i'r teuluoedd symud ymlaen at lety arall, fe fydd y croeso a'r caredigrwydd yn y rhan fach hon o gefn gwlad Cymru, yn aros yn y cof.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig