Anafiadau difrifol i ddyn ar ôl neidio o raeadr yn y Bannau
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd y dyn ei achub a'i gludo i'r ysbyty yn hofrennydd Gwylwyr y Glannau
Mae dyn wedi cael ei anafu'n ddifrifol ar ôl neidio o raedr ym Mannau Brycheiniog.
Dywedodd y tîm achub iddo dorri ei goesau ac o bosib anafu ei gefn yn Sgwd Gwladys ger Glyn-nedd brynhawn Sadwrn.
Fe ddaeth timau achub mynydd Bannau Brycheiniog i'w achub.
Cafodd y dyn ei gludo i'r ysbyty yn hofrennydd Gwylwyr y Glannau o Sain Tathan.
Caniatáu cynnwys Facebook?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Facebook Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyma oedd y canfed ymdrech achub y tîm canolog eleni.
Roedd gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru hefyd yn rhan o'r ymdrechion.