Cymru ar draws y byd

  • Cyhoeddwyd
Nid Patagonia yw'r unig ran o'r byd ble mae na gysylltiadau Cymreig parhaol
Disgrifiad o’r llun,

Nid Patagonia yw'r unig ran o'r byd ble mae 'na gysylltiadau Cymreig parhaol

Mae dylanwad Cymry yn teithio ymhell tu hwnt i Glawdd Offa. Mae'r rhan fwyaf ohonoch chi wedi clywed am y cysylltiadau Cymreig yn Y Wladfa, Patagonia ond dyma olwg gyflym ar y dylanwad Cymreig ar enwau llefydd mewn sawl rhan arall o'r byd:

Llandovery, Jamaica

Mae Llandovery wedi'w lleoli yn ardal St Ann yn Jamaica, ac mae afon gerllaw o'r un enw. Mae'r dref yn adnabyddus am y 'One-Penny Stamp', dolen allanol, ac am y felin siwgr gyfagos. Mae 'na ddyfalu mai dylanwad y morleidr enwog Syr Harri Morgan sydd tu ôl i'r enw. Roedd o'n Lywodraethwr yn Jamaica am gyfnod yn ystod teyrnasiad Siarl yr Ail. Mae ardal o'r enw Llanrhumney hefyd ar yr ynys. Cafodd Morgan ei eni yn ardal Llanrhymni ar gyrion Caerdydd.

Disgrifiad o’r llun,

Llandovery, Jamaica

Ffynhonnell y llun, Pauline E/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Neuadd y Dref, Llanymddyfri, Sir Gâr

Pontypool, Ontario, Canada

Cafodd yr ardal ei henwi gan, dolen allanol dri gŵr o dde ddwyrain Cymru. Nid yn annisgwyl, roedd John Jennings, William Ridge Sr., a James Leigh yn hannu o Bontypŵl.

Disgrifiad o’r llun,

Pontypool, Ontario

Ffynhonnell y llun, Jaggery/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Marchnad Pontypŵl, Torfaen

Llandudno, De Affrica

Yn rhan o ddinas Cape Town cafodd Llandudno Beach, dolen allanol ei henwi fel treflan yn 1903. Mae'n ardal freintiedig iawn, ac mae rhai o'r tai mwya' costus yn Dde Affrica gyfan yno. Mae'n debyg bod hi wedi ei henwi oherwydd y tebygrwydd rhwng y ddwy ardal lan môr. Edrychwch ar y lluniau - 'dych chi'n gweld y tebygrwydd?

Disgrifiad o’r llun,

Llandudno Beach, Cape Town

Ffynhonnell y llun, Gerald England
Disgrifiad o’r llun,

Llandudno, Sir Conwy

Yuzovka neu Hughesovka, Wcrain (Donetsk erbyn heddiw)

Mae Donetsk yn un o'r dinasoedd mwyaf yn Wcrain, gyda hanes o ddiwydiant trwm. Cymro o Ferthyr Tudful, John James Hughes, sefydlodd y ddinas. Cafodd Yuzovka neu Hughesovka ei enwi ar ei ôl. Pan ddaeth Stalin i rym cafodd enw'r ddinas ei newid i Stalino. Cafodd yr enw Donetsk ei fabwysiadu yn 1961.

Disgrifiad o’r llun,

Yuzovka, fel ag yr oedd yn nyddiau John Hughes ynghanol yr unfed ganrif a'r bymtheg

Disgrifiad o’r llun,

Donetsk, y ddinas ddiwydiannol fel y mae hi heddiw

Cardiff, Taranaki, Seland Newydd

Dyma i chi Cardiff sydd yn Ynys y Gogledd, Seland Newydd, gyda mynydd enwog Mount Taranaki yn y cefndir, dolen allanol. Mae 'na sawl lle arall yn y byd sy'n rhannu ei enw gyda phrifddinas Cymru gan gynnwys Cardiff, Alberta, Canada a Cardiff, Alabama. Cafodd Cardiff-by-the-sea yng Nghaliffornia ei henwi yn 1911 gan ddynes oedd yn hannu o Gaerdydd yng Nghymru. Ei gŵr oedd yn gyfrifol am godi tai yn yr ardal.

Disgrifiad o’r llun,

Cardiff, Taranaki

Ffynhonnell y llun, Commission Air
Disgrifiad o’r llun,

Caerdydd o'r awyr

Nanty Glo, Pennsylvania, UDA

Mewnfudodd miloedd o Gymry i dalaith Pennsylvania yn America yn yr ail ganrif a'r bymtheg ar ôl cael addewid gan y Crynwr William Penn y buasen nhw'n cael sefydlu eu trefedigaeth eu hunain yno. Mae'r olion Cymreig yn dal yn gryf iawn ac mae ardal yn Nanty Glo, dolen allanol yn edrych yn debyg iawn i fel roedd rhai o gymunedau glofaol De Cymru tan yn ddiweddar.

Disgrifiad o’r llun,

Gwaith haearn Natyglo yn Sir Fynwy ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif.

Carnarvon, Awstralia

Wedi'w lleoli 904km i'r gogledd o Perth, mae tref arfordirol Carnarvon yng ngorllewin Awstralia, dolen allanol yn mwynhau dipyn o haul, gyda'r tymheredd ar gyfartaledd yn 26C. Cafodd ei henwi ar ôl pedwerydd Iarll Carnarvon a oedd yn Ysgrifennydd y Trefedigaethau yn Oes Victoria.

Disgrifiad o’r llun,

Carnarvon, Awstralia: Tebyg i Ddinas Dinlle?

Disgrifiad o’r llun,

Castell Caernarfon, Gwynedd

Bagwyllydiart, Sir Henffordd, Gorllewin Canolbarth Lloegr

Mae nifer o lefydd yn Lloegr ag enwau Cymraeg, yn enwedig ar y ffin. Yn eu plith mae Bagwyllydiart, dolen allanol, 10 milltir o Henffordd.

Disgrifiad o’r llun,

Bagwyllidiart: 'Sgwn i sut hwyl mae'r bobl leol yn ei gael ar ynganu hwnna?

Bangor, Gogledd Iwerddon

Does yna ddim cysylltiad Cymreig rhwng Bangor, Gwynedd a Bangor, Gogledd Iwerddon, ond dyma i chi eglurhad pam eu bod yn rhannu'r un enw.

Tref o dros 60,000 o bobl yn Sir Down, Gogledd Iwerddon yw Bangor, dolen allanol. Mae hi deirgwaith yn fwy na dinas Bangor yng Ngwynedd. Mae'r enw Bangor yn deillio o'r gair Gwyddeleg Beannchor (neu Beannchar yn y ffurf fodern) sy'n golygu tro sy'n debyg i gorn anifail. Fe welwch yn y llun bod bae Bangor yn debyg iawn i gyrn teirw. Ar y llaw arall, mae Bangor, Gwynedd, wedi ei henwi ar ôl hen air Cymraeg am "glawdd plethiedig" oedd yn amgylchynnu safle wreiddiol y gadeirlan.

Disgrifiad o’r llun,

Bangor, Gogledd Iwerddon

Ffynhonnell y llun, David Stowell/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Bangor, Gwynedd

*Cafodd yr erthygl yma ei gyhoeddi gyntaf ar 16 Awst, 2017.