Giggs: 'Cael fy arestio oedd profiad gwaethaf fy mywyd'

  • Cyhoeddwyd
Ryan GiggsFfynhonnell y llun, PA Media

Mae Ryan Giggs wedi dweud mai'r noson a dreuliodd yng nghelloedd yr heddlu ar ôl cael ei arestio am ymosodiad honedig yn erbyn ei gyn-gariad oedd "profiad gwaethaf fy mywyd".

Ddydd Mercher clywodd y llys am berthynas dymhestlog Ryan Giggs a'i gyn-gariad Kate Greville yn y misoedd cyn iddi ei gyhuddo o ymosod arni mewn digwyddiad yn ei gartref yn Nhachwedd 2020.

Mae cyn-seren Manchester United a Chymru, 48, wedi'i gyhuddo o reoli Kate Greville drwy orfodaeth, ac o ymosod arni hi a'i chwaer Emma Greville.

Mae Mr Giggs yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.

'Llinell denau' wrth gael rhyw

Cafodd Mr Giggs ei holi am yr ail ddiwrnod yn Llys y Goron Manceinion, gan fargyfreithiwr yr amddiffyniad Chris Daw QC.

Gofynnwyd iddo beth oedd wedi ei wneud gyda lluniau a fideos preifat ohono ef a Kate Greville ar adegau pan oedd eu perthynas nhw ar saib.

"Dwi'n meddwl nes i eu dileu nhw," meddai, gan ddweud ei fod wedi gofyn i Ms Greville yn ddiweddarach am eu hanfon yn ôl iddo.

Wrth gael ei holi am ei yrfa bêl-droed, dywedodd mai dim ond unwaith mewn dros 1,000 o gemau y cafodd gerdyn coch, a hynny dros Gymru - ond nid am ymddygiad ymosodol.

Ychwanegodd ei fod o hyd yn cael ei "weindio fyny gan gefnogwyr" timau eraill, ond nad oedd erioed wedi ymateb yn dreisgar i hynny.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r ail ddiwrnod i Ryan Giggs ei hun roi tystiolaeth yn Llys y Goron Manceinion

Dywedodd nad oedd ganddo "unrhyw gof" o dorri rhywbeth yn fflat Kate Greville, na chwaith rhoi pwysau arni i gael rhyw.

"Pryd bynnag roedden ni'n cael rhyw roedd y ddau ohonom ni wastad yn cydsynio," meddai.

Yna fe aeth Mr Daw drwy gyfres o negeseuon rhwng Mr Giggs a Ms Greville yn 2017, gan gynnwys un ble roedd Ms Greville yn dweud ei bod hi eisiau rhyw "caled" fyddai'n "brifo ychydig".

Ymateb Mr Giggs oedd ei fod "ofn dy frifo di", a'i bod yn "llinell denau".

Ar adeg arall, fe wnaeth Mr Giggs anfon neges at Ms Greville yn cyfeirio at grafiad ar ei wddf wedi iddyn nhw gael rhyw, gyda Ms Greville wedyn yn ymateb gan gyfeirio at glais ar ei braich.

"Roedd natur y peth fel oedd o wastad wedi bod - bywyd carwriaethol iachus oedd weithiau'n gallu bod yn galed (rough)."

Ffraeo ar ôl yfed

Gofynnwyd i Mr Giggs am ddigwyddiad yng ngwesty Stafford yn Llundain ym mis Rhagfyr 2019, ble roedden nhw'n aros yn dilyn parti Nadolig ei asiant.

Mae Kate Greville yn honni bod Mr Giggs wedi ei hel hi o'r gwely y noson honno gan ei chicio yn ei chefn, a'i fod wedi taflu bag gliniadur ati a'i gorfodi allan o'r stafell wely yn noeth.

Ond wrth gael ei holi dywedodd Mr Giggs na wnaeth o daflu unryw beth ati nac ymosod arni yn gorfforol.

Roedd Ms Greville wedi ei gyhuddo yn gynharach yn y noson o fflyrtio gyda chyflwynydd chwaraeon benywaidd, ac yntau'n ddiweddarach yn dweud iddo adael y digwyddiad ar ôl gweld Ms Greville yn dawnsio gyda chyflwynydd chwaraeon gwrywaidd.

Wedi i Ms Greville ei ddilyn yn ôl i'r gwesty tua awr yn ddiweddarach, dywedodd Mr Giggs ei fod wedi dweud wrthi am gysgu ar y soffa, a thaflu ei bag ar y gwely.

Ond gwadodd ei fod wedi gwneud unrhyw beth corfforol iddi, a dywedodd eu bod "mwy neu lai wedi cymodi'r noson honno".

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Wrth roi tystiolaeth yn gynharach yn yr achos, cyfaddefodd Ryan Giggs ei fod yn "fflyrt" oedd ddim yn ffyddlon i'w bartneriaid

Clywodd y llys bod saib wedi bod ym mherthynas y ddau wedyn nes iddyn nhw fynd ar wyliau i Dubai ym mis Chwefror 2020.

Y diwrnod cyn iddyn nhw adael fe wnaethon nhw gwrdd â ffrind Ms Greville am ginio yng ngwesty Burj Al Arab, a bu'r ddau yn "yfed gwin drwy'r prynhawn".

Dechreuodd ffrae yn y tacsi wrth deithio yn ôl i'r gwesty ar ôl i Mr Giggs alw ei gariad yn Stacey, enw ei gyn-wraig.

Camgymeriad oedd hynny, meddai, ond cafodd Ms Greville ei phechu, ac wedi i'r ffrae barhau yn ôl yn y gwesty fe adawodd Ms Greville ac aros yn Dubai gyda ffrindiau.

Yr honiad ydy bod Mr Giggs wedi ceisio ei hatal hi rhag gadael drwy gydio yn y bag oedd hi'n ei gario, wnaeth achosi iddi syrthio ac anafu ei braich a'i phenglin.

Dywedodd Mr Giggs ei fod "efallai wedi ei stopio hi rhag gadael ond dydw i ddim yn cofio unrhyw gyswllt corfforol rhyngof i a Kate".

'Cyfarfod tîm' am y peiriant golchi llestri

Fe symudodd Ms Greville i fyw gyda Mr Giggs yng nghyfnod clo cyntaf y pandemig ym mis Mawrth 2020, profiad yr oedd Ms Greville wedi ei ddisgrifio fel "uffern".

Dywedodd Mr Giggs ei fod wedi bod yn "gyfnod hapus iawn o fy safbwynt i", a'u bod wedi "cecru" ond heb gael "unrhyw ffrae fawr".

Yn gynharach yn yr achos roedd Ms Greville wedi dweud bod Mr Giggs wedi gwneud iddi deimlo'n "dwp ac annigonol" am bethau fel peidio llwytho'r peiriant golchi llestri yn iawn.

Dywedodd Mr Giggs fod y peiriant ymlaen sawl gwaith y dydd oherwydd bod ei ferch a'i chariad yn aros gyda nhw'r rhan fwyaf o'r amser, a bod ei fab hefyd yno'n aml.

"Bydden i'n agor y peiriant a byddai'r llwyau te wyneb i waered," meddai.

"Byddai hynny'n fy weindio i fyny achos byddai'n rhaid i mi wneud nhw i gyd eto, felly 'nes i alw cyfarfod tîm i ddweud 'all pawb roi'r llwyau te y ffordd iawn os gwelwch yn dda. Doedd o ddim yn ffrae fawr, jyst y ffordd 'nes i esbonio'r peth."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond unwaith yn ei yrfa bêl-droed y cafodd Ryan Giggs gerdyn coch, er iddo ddweud bod cefnogwyr yn ei "weindio" yn aml

Clywodd y llys fod y berthynas rhwng y ddau wedi dirywio erbyn Mehefin 2020 a'i bod hi wedi symud allan.

Wedi hynny, fe aeth Ms Greville ar drip gwaith i'r Alban a phenderfynu nad oedd Mr Giggs am ddod gyda hi, ac fe arweiniodd hynny at Giggs yn anfon ebost ati gyda gair sarhaus yn y teitl.

Cyfaddefodd Mr Giggs ei fod wedi defnyddio "iaith gwbl ofnadwy" yn ei neges, a bod "dim esgus o gwbl" am hynny.

Wrth gael ei holi am gynlluniau Ms Greville i sefydlu cwmni PR, dywedodd Mr Giggs ei fod yn "hollol gefnogol", gan wadu ei fod erioed wedi ceisio rheoli ei harian na'i pherthnasau gyda theulu a ffrindiau.

Clywodd y llys bod Ms Greville wedi dweud wrth Mr Giggs ym mis Hydref 2020 bod ei prawf rhwbiad wedi dangos "celloedd canser" yn hytrach na datgelu ei bod hi wedi tynnu coil atal cenhedlu.

Wrth roi tystiolaeth cyfaddefodd Ms Greville ei bod hi wedi dweud celwydd ar y pryd er mwyn cael Mr Giggs "oddi ar ei chefn", fel nad oedd o eisiau cael rhyw gyda hi - gan wadu mai ei bwriad oedd mynd yn feichiog.

Dywedodd Mr Giggs ei fod yn "poeni a oedd Kate yn iawn" pan glywodd am yr esboniad canser, ac nad oedd hi wedi dweud wrtho am y "gwir reswm" dros fynd i'r ysbyty.

Ychwanegodd eu bod wedi parhau i gael rhyw heb amddiffyniad atal cenhedlu o'r pwynt yna nes 1 Tachwedd, dyddiad yr ymosodiad honedig.

'Taro yn erbyn ein gilydd'

Ar 1 Tachwedd fe wnaeth Ryan Giggs a Kate Greville ffraeo eto ar noson allan yng ngwesty'r Stock Exchange ym Manceinion, tra bod Emma Greville ei chwaer yn gwarchod eu ci yn eu cartref yn Worsley.

Fe aeth Kate Greville yn ôl i'r tŷ, a phan aeth Ryan Giggs yn ôl yn ddiweddarach mae'n dweud ei fod wedi gweld caets Mac y ci yng nghefn car.

"'Nes i weithio allan eu bod nhw'n trio cymryd Mac," meddai.

Dywedodd eu bod wedi dweud wrth y ddwy chwaer am adael ond nad oedden nhw'n cael mynd â Mac, gan mai "fy nghi i ydy o, mae'n byw fan hyn".

Wedi hynny fe ddywedodd ei fod ef a Kate Greville wedi cael ffrwgwd dros eu ffonau symudol, ac ar ôl i'r ddau ohonyn nhw faglu ac yntau'n disgyn arni, bod Kate Greville wedi ei gicio yn ei ben chwe neu saith gwaith.

Wedi iddo godi daeth o hyd i'w ffôn ei hun ac un Kate Greville, a rhoi'r ddau yn ei boced, gan ei fod yn credu ei bod hi wedi cymryd ei ffôn ef yn gynharach.

Parhaodd y ffrwgwd yn un fwy "ymosodol", ac fe wnaeth y ddau "daro ein pennau yn erbyn ein gilydd", meddai Mr Giggs.

"Roeddwn i'n gallu gweld yn glir ei bod hi wedi brifo," meddai, gan ddweud bod hi wedi ei gyhuddo o daro ei ben yn ei herbyn.

Ond gwadodd Mr Giggs ei fod wedi rhoi ei ddwylo ar ei hysgwyddau a tharo ei ben tuag ati mewn ffordd "grymus a bwriadol".

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Ryan Giggs yn cyrraedd Llys y Goron Manceinion ddydd Mercher

Daeth dagrau i lygaid Mr Giggs wrth iddo sôn am y noson honno yng ngelloedd yr heddlu - "profiad gwaethaf fy mywyd".

Dywedodd ei fod "ofn" wrth i'r heddlu gyrraedd ei gartref, am ei fod yn gwybod y byddai'n cael ei gyhuddo o daro Kate Greville gyda'i ben.

Ond fe arhosodd wrth y drws amdanynt, meddai, ac ni cheisiodd ffoi ar unrhyw adeg.

Wrth cael ei groesholi gan Peter Wright QC ar ran yr erlyniad, awgrymwyd wrth Mr Giggs fod ganddo "ochr wahanol" i'w bersonoliaeth i'r un roedd y cyhoedd yn ei weld.

Dywedodd Mr Wright mai'r "Ryan Giggs blin" oedd yr un gafodd ei glywed yng nghefndir yr alwad 999, ond mynnodd Mr Giggs mai "ofn" oedd arno.

Cafodd Mr Giggs hefyd ei holi am ei dymer a'r geiriau "sarhaus" a ddefnyddiod tuag at Ms Greville, gan gyfaddef yn y diwedd ei fod gallu bod yn benboeth "yn achlysurol".

'Byddai'n dy ddilyn di'

Clywodd y llys bod Ryan Giggs wedi anfon llu o negeseuon at Kate Greville pan geisiodd hi ddod â'r berthynas i ben, gan droi i fyny yn ei chartref, swyddfa a champfa.

Darllennodd Mr Wright negeseuon gan Mr Giggs yn dilyn un ffrae, ble mae'n cynnig iddi symud i mewn ato, cael ci neu gael babi.

Os nad yw hi'n cysylltu yn ôl, meddai Mr Giggs yn y neges, "byddai'n dy ddilyn di i bobman a ti'n gwybod pa mor dda ydw i am wneud hynny".

Dywedodd Mr Giggs ei fod yn derbyn y gwnaeth o hynny, a'i fod yn chwarae gyda'i hemosiynau ar adegau, ond gwadodd ei fod yn "hunanol", "narsisaidd" nac yn rheoli Kate Greville.

Cafodd neges arall gan Mr Giggs ei ddarllen, yn dilyn amheuaeth ganddo bod Ms Greville mewn perthynas â rhywun o'r gwaith.

"Wyt ti'n ff**** gweld Rob? Os wyt ti, dyna'r diwedd i ti," meddai.

Wrth cael ei groesholi dywedodd Mr Giggs nad oedd yn gwybod beth yr oedd wedi ei olygu, ond bod y neges yn fygythiol a'i bod hi wedi ypsetio, gan ei bod hi "wir yn gwerthfawrogi" ei swydd a'i gyrfa.

Mae'r achos yn parhau.