Dewch i gwrdd â'r Deian a Loli newydd
- Cyhoeddwyd
Deian a Loli yw un o'r rhaglenni mwyaf poblogaidd i blant Cymru, ac mae dau actor ifanc o ogledd Cymru wedi eu henwi fel y pâr newydd i actio fel yr efeilliaid direidus.
Fe gurodd Moi Williams, o Gaernarfon, a Lowri Llewelyn o Fangor (y ddau yn 10 oed) dros 600 o ddarpar actorion ifanc eraill i gipio rhannau Deian a Loli yn y gyfres ar S4C.
Maent yn cymryd yr awenau oddi wrth Ifan Henri, 11 oed, sy'n byw yn Abersoch, a Lleucu Owain, 12 oed, o Gerrigydrudion ger Corwen, sy'n gadael y rhaglen ar ôl tyfu'n rhy hen i'r cymeriadau.
Pennod arbennig y Nadolig
Bydd y ddeuawd newydd yn ymddangos am y tro cyntaf pan fydd y newid yn digwydd yn ystod pennod Nadolig arbennig a fydd yn cael ei darlledu dros gyfnod yr ŵyl.
Yn debyg i Doctor Who, mae'r cast cyfan yn cael ei adfywio gydag actorion newydd yn chwarae rhan rhieni'r efeilliaid hefyd.
Mae Sion Eifion, sy'n hanu o Lanfaelog ger Rhosneigr a Fflur Medi Owen, o Dregarth ger Bangor, yn cymryd lle Rhys ap Trefor a Sara Lloyd.
Mae Cwmni Da o Gaernarfon sy'n cynhyrchu'r rhaglen eisoes wedi dechrau ar y gwaith o ffilmio pedwaredd gyfres Deian a Loli ar gyfer cynulleidfa ifanc Cyw ar S4C.
Mae ffilmio hefyd wedi bod yn digwydd ar leoliad ac mae'r cast a'r criw wedi bod yn rhedeg o amgylch y coed ym Mharc Glynllifon ger Caernarfon tra bod golygfeydd tu mewn i gartref Deian a Loli wedi cael eu ffilmio mewn pentref ger Penygroes.
Yn ogystal â bod â llu o wylwyr ifanc brwd ym mhob rhan o Gymru, mae'r gyfres hefyd wedi bod yn boblogaidd iawn gyda beirniaid teledu.
Mae'r rhaglen wedi ennill gwobrau lu gan gynnwys tair Gwobr BAFTA Cymru ac wedi cael ei gwerthu'n rhyngwladol, gyda nifer o lyfrau Deian a Loli hefyd yn cael eu cyhoeddi gan Y Lolfa.
'Hoff iawn o'r cyffro'
Mae Moi yn ddisgybl yn Ysgol y Gelli yng Nghaernarfon, ac meddai: "Rwyf wedi bod i Ysgol Glanaethwy ym Mangor ac wedi actio a chanu yno ond dim byd arall. Mae'r sgrîn werdd yn llawer mwy nag oeddwn i'n meddwl y byddai ond mae actio yn her rwy'n ei mwynhau'n fawr.
"Dw i'n dod i arfer efo'r ffilmio rŵan a dw i'n hoff iawn o'r cyffro i gyd."
Yn wahanol i'w gyd-seren, mae Lowri sy'n mynychu Ysgol y Garnedd ym Mangor, eisoes wedi cael ychydig o brofiad actio.
Meddai: "Mae gen i dri brawd ac rydan ni wedi cynnal pantomeimiau a sioeau eraill adeg y Pasg i'n rhieni a nain a taid. Ond dydw i erioed wedi gwneud unrhyw beth fel hyn o'r blaen. Rwy'n mwynhau'n fawr a dw i'n meddwl ei fod o'n wych."