Teyrnged i 'fachgen arbennig', 4 oed, o Grymych
- Cyhoeddwyd

Mae teulu bachgen bach pedair oed o Grymych fu farw yn sydyn wedi rhoi teyrnged i'w "bachgen arbennig".
Wrth agor cwest i'w farwolaeth ddydd Gwener, fe glywyd fod Ifan Owen-Jones yn chwarae tu allan i'w gartref ym Mlaen-ffos ar nos Sul, 7 Awst.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 17:30 ar ôl iddo fynd ar goll. Cafodd ei gorff ei ddarganfod mewn llyn yn ddiweddarach.
Mae'r cwest wedi ei ohirio wrth i'r ymchwiliad barhau.
'Ar goll hebddo'
Dywedodd teulu Ifan Owen-Jones ei fod yn fachgen "hardd, hapus ac iach".
"Roedd ganddo'i anawsterau gyda rhai pethau gan yr oedd yn awtistig, ond roedd e'n anhygoel yn gwneud pethau eraill," ychwanegon.
"Roedd wrth ei fodd â'r wyddor, cyfrif a lliwiau. Byddai'n gwylio Sam Tân dro ar ôl tro."
Ychwanegon eu bod fel teulu "ar goll hebddo."
"Ifan oedd ein byd, ry'n ni i gyd wirioneddol wedi'n torri."
Dywedon eu bod am ddiolch am gefnogaeth, caredigrwydd a haelioni eu teulu, ffrindiau a'r gymuned leol.
Bydd ei angladd yn cael ei gynnal ym Flaen-ffos fore Sadwrn ac mae anogaeth i'r gynulleidfa wisgo lliw glas er cof amdano.