Pobl Carrog 'wedi cael llond bol' o broblem parcio
- Cyhoeddwyd

Doedd dim modd i'r injan dân basio'r ceir yng nghanol argyfwng yn y pentref yn ddiweddar
"'Dan ni wedi cael llond bol" yw neges pobl sy'n byw yng Ngharrog ger Corwen oherwydd y problemau parcio.
Yn ddiweddar cafodd injan dân drafferthion mawr gan fod ceir yn parcio ar ddwy ochr y ffordd gul ger y bont hynafol sy'n arwain i'r pentref.
Mewn tywydd braf, mae nifer o bobl yn hel at yr afon, ond mae'r ceir yn achosi problemau mawr.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych eu bod yn cydweithio gyda phartneriaid i reoli'r cynnydd yn nifer yr ymwelwyr a gallai'r rhai sy'n parcio yn anghyfrifol wynebu dirwy.

Mae Tanya Mortimer yn byw yn lleol a dywedodd bod sefyllfa'r ceir yn "beryg"
Mae Tanya Mortimer yn byw yng Ngharrog. Mae'n dweud bod problemau mawr yn ystod y gwyliau.
"Mae'r ffordd sy'n dod i mewn i'r pentref yn gul ofnadwy a mae 'na gornel gudd," dywedodd.
"Y broblem sydd gennom ni ydy pan gawn ni geir ar ddwy ochor y ffordd, 'dan ni ddim yn medru gweld a mae'n le peryg."
'Llond bol'
Dywedodd fod tân wedi bod yn y pentref yn ddiweddar a bod y ceir wedi achosi problem ddifrifol.
"Oedd y trigolion wedi ffonio'r injan dân i ddod i helpu ac oeddan nhw'n methu dod i fewn efo'r injan... ceir bob ochr i'r ffordd... yn gorfod stopio, yn gorfod galw lawr at yr afon i'r teuleuoedd oedd wedi dod i lawr am y diwrnod, i ofyn pwy bia'r ceir i'w symud nhw.
"Mae'r broblem yn cychwyn o gwmpas y Pasg a mae'n para tan ddiwedd yr haf pan mae'r plant yn mynd yn ôl i'r ysgol. 'Dan ni wedi cael llond bol."

Dyma'r afon sy'n denu pobl yn ystod y gwyliau
Mewn ymateb, fe ddywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych eu bod yn cydweithio gyda phartneriaid i reoli'r cynnydd yn nifer yr ymwelwyr yng Ngharrog ac y gallai'r rhai sy'n parcio yn anghyfrifol wynebu dirwy.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd yn apelio ar yrwyr i ystyried a yw'n bosib i gerbyd LGV basio wrth iddyn nhw barcio.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd8 Awst 2020