Torri record trwy gneifio 902 o ddefaid mewn naw awr

  • Cyhoeddwyd
Lloyd Rees yn ystod yr her gneifioFfynhonnell y llun, Ruth Rees Photography
Disgrifiad o’r llun,

Lloyd Rees yn ystod yr her gneifio ym Mhowys ddydd Gwener

Mae cneifiwr o'r canolbarth wedi torri'r record Brydeinig ar ôl cneifio 902 o ddefaid mewn naw awr.

Fe wnaeth Lloyd Rees, sy'n 28 oed ac yn gweithio o Aberhonddu, gwblhau'r fer yn Fferm Blaenbwch, Llanfair-ym-Muallt ddydd Gwener.

Fe gneifiodd 203 o ddefaid yn y ddwy awr gyntaf, ac yna rhwng 174, 171, 177 a 177 yn ystod y sesiynau canlynol er mwyn cyrraedd targed roedd wedi gosod i'w hun, sef 900.

Mae ei ymdrechion wedi codi dros £1,700 hyd yn hyn ar ran elusennau Parkinson's UK Cymru ac Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae'n cneifio ers yn 16 oed ac yn gweithio ar draws y DU a thramor, gan gwblhau ei ddegfed tymor yn Seland Newydd ym mis Chwefror.

Dywedodd bod y gefnogaeth a gafodd er mwyn anelu am y record yn "anhygoel".

Dim ond wythnos diwethaf y cafodd y record flaenorol, 882, ei gosod.

Pynciau cysylltiedig