Pa rôl i'r Gymraeg wrth ddenu ymwelwyr i Gymru?
- Cyhoeddwyd
Rhoi hwb i'r iaith Gymraeg a'i diwylliant, a gwella profiad ymwelwyr yr un pryd.
Dyna ydy nod Cyngor Sir Conwy wrth iddyn nhw ymchwilio i farn busnesau ac ymwelwyr am y Gymraeg, a'r profiad maen nhw'n ei gael pan yn ymweld â'r sir.
Menter Iaith Conwy sy'n cydlynu'r ymchwil, a'r nod yn ôl Meirion Davies, prif weithredwr y fenter, ydy rhoi mwy o amlygrwydd i'r Gymraeg yn niwydiant twristiaeth y sir.
Dywedodd Mr Davies mai'r gobaith ydy "edrych ar faint o werth ydy'r Gymraeg yn gallu bod i'r diwydiant twristiaeth".
"'Dan ni isio profi mewn ffordd, fod o o fudd a fod o'n rhywbeth positif fase pobl yn gallu ei weld i gryfhau y profiad naws am le pan ma' nhw'n dod draw i Gymru.
"Ond hefyd dwi'n meddwl bod o'n bwysig bod o'n edrych ar y marchnadoedd penodol lle mae pobl isio gweld a chlywed y Gymraeg.
"Siaradwyr Cymraeg er enghraifft, neu pobl sydd yn dysgu Cymraeg o ar draws y byd - dwi'n meddwl bod 'na botensial mawr i hynna hefyd."
Ychwanegodd: "Mae angen rhywbeth i 'neud i ni sefyll allan, dwi'm yn meddwl bod gan Gymru y pethau hawdd 'na fel sydd gan Iwerddon neu'r Alban.
"Ond mae o'n gyfle rŵan... i ail-frandio'n hunain a bod bach mwy hyderus am y Gymraeg."
Mae Wyn Williams yn cadw siop sglodion Tir a Môr yn Llanrwst. Mae'n credu bod gan y Gymraeg bwysigrwydd mawr, a bod twristiaid wrth eu boddau yn ei gweld a'i chlywed.
"Mae'r Gymraeg yn bwysig iawn i ymwelwyr weld lle ma' nhw wedi dod, i dref Gymraeg.
"De ni'n gwneud popeth - fel y fwydlen a phopeth sy'n mynd i fyny ar y waliau - yn ddwyieithog, wrth gwrs, ond Cymraeg yn gyntaf bob tro.
"Mae'r ymwelwyr yn ei weld o'n ddiddorol, dwi'n meddwl bod nhw'n licio bach o banter am y Gymraeg weithiau ac isio trio ambell i air Cymraeg felly."
'Isio amlygu Cymraeg Conwy'
Tebyg ydy profiad Sioned Davies o Siop Sioned yn Llanrwst, sy'n gwneud defnydd o'r iaith wrth werthu nwyddau i'r cartref.
"Mae 'na angen i Gymry Cymraeg sydd isio cynnyrch i'w cartrefi, ond hefyd twristiaid sy'n dod, mae gynnon nhw ddiddordeb i ddysgu ambell i air yma ac acw."
Ychwanegodd ei bod yn sicr wedi gweld cynnydd mewn diddordeb ac awydd i ddysgu mwy am yr hanes a'r iaith.
Hyd yn hyn, mae busnesau yng Nghonwy wedi derbyn holiaduron fel rhan o'r ymchwil, gyda'r bwriad o "weithio hefo nhw yn y dyfodol i gryfhau", meddai Mr Davies.
Yn ogystal â rhai ymwelwyr gafodd eu holi, mae siaradwyr rhugl a dysgwyr hefyd wedi cael cyfle i roi eu barn. Mae pobl yn cael eu hannog i ateb holiaduron, dolen allanol.
Gobaith Mr Davies ydy y bydd yr ymchwil yn arwain at gydweithio o fewn y sir i ddenu ymwelwyr o bob math.
"Mae gennych chi y twristiaid cyffredinol, dwi'n meddwl allwn ni ddefnyddio'r Gymraeg i roi profiad bach yn wahanol i bobl, ond mae gennych chi dwristiaeth lle mae pobl isio clywed y Gymraeg.
"Dwi'n gwybod, yn bersonol, os 'swn i'n mynd i ran wahanol o'r wlad, 'swn i isio mynd i rhywle lle dwi'n gallu clywed a gweld y Gymraeg."
Ychwanegodd: "O'r ymchwil dwi 'di 'neud hyd yn hyn, trafod 'efo grwpiau dysgwyr yn Lloegr, be' maen nhw'n d'eud ar hyn o bryd ydy y bysan nhw'n osgoi Conwy a mynd draw i Wynedd a Môn, achos bod nhw ddim yn gweld o fel lle mor Gymreigaidd.
"Ond wrth gwrs mae 'na lot fawr o Gymraeg yn Sir Conwy a mae isio amlygu hynny."
Mi fydd y gwaith ymchwil gan Menter Iaith Conwy yn para tan ganol Medi, ac wedyn bydd adroddiad manwl yn cael ei baratoi ar gyfer y cyngor sir.
Y disgwyl ydy y byddan nhw'n gweithredu ar yr argymhellion yn gynnar y flwyddyn nesaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd24 Mai 2022