Treth twristiaeth: Cefnogi cymunedau neu hoelen yn arch busnesau?

  • Cyhoeddwyd
PorthmadogFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe fyddai treth twristiaeth lle byddai ymwelwyr yn gorfod talu cost ychwanegol i aros dros nos yn "troi pobl ffwrdd o Gymru", yn ôl cadeirydd y Cyngor Twristiaeth.

Fe fydd Llywodraeth Cymru'n ymgynghori yn ei gylch yn yr Hydref - ac maen nhw'n dweud bod tollau o'r fath yn beth cyffredin ar draws y byd.

Dywedodd perchennog un gwesty wrth Newyddion S4C y byddai treth o'r fath yn "just gormod".

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y byddai treth twristiaeth yn creu incwm i gynghorau lleol, a all gael ei ddefnyddio i gadw traethau a phalmentydd yn lan, cynnal parciau, toiledau a llwybrau lleol.

Roedd gwariant sy'n gysylltiedig â thwristiaeth yn werth dros £5bn i Gymru yn 2019.

Ond yn ôl Suzy Davies, Cadeirydd Cyngor Twristiaeth Cymru, dydy treth ychwanegol ar ymwelwyr ddim yn syniad da.

"Wel dydyn nhw [y busnesau] ddim yn edrych ymlaen at y syniad wrth gwrs achos 'dan ni'n sôn am dreth twristiaeth sy'n effeithio ar Gymru yn unig.

"Felly o gymharu 'efo pobl sy'n cael busnesau yn Lloegr neu yn Yr Alban mae e just yn rhywbeth arall sy'n troi pobl ffwrdd o Gymru oherwydd hynny.

"Os 'dan ni'n sôn am bob gwely dro nos, just i deulu normal mae hynny'n gallu totio lan yn glou iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Wrth i gostau "popeth dan haul" gynyddu, ni fyddai Richard Griffiths yn cefnogi treth ychwanegol

Eithaf tebyg ydy barn Richard Griffiths, perchennog Gwesty'r Richmond yn Aberystwyth.

"'Dan ni wedi cael blynydde ofnadwy yn ddiweddar. Mae costau ar hyn o bryd yn codi yn arw o ran tanwydd, staffio, popeth dan haul, ac i ofyn i ni wedyn ychwanegu'r gost ar ein cwsmeriaid i dalu treth ar dwristiaeth yn just gormod.

"A dydy o ddim yn deg ar ein staff sy'n gweithio i ni i ofyn iddyn nhw 'neud hynny ar ben popeth arall... Sefyll o flaen cwsmer a d'eud ar ben costau'ch bil, mae angen £5 neu beth bynnag, y person y noson, i dalu am dreth i'r llywodraeth, mae hwnnw'n mynd i roi straen ofnadwy arnyn nhw."

'Cefnogi cymunedau'

Ond nid pawb sy'n cytuno. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn fwy cefnogol i'r syniad o gael treth twristiaeth.

"Mae Cymdeithas eisiau gweld model newydd o dwristiaeth sydd yn fwy cynaliadwy ac yn gweithio'n dda i'n pobl," meddai Jeff Smith, cadeirydd y Grŵp Cymunedau Cynaliadwy.

"Dyma rywbeth lle mae cymunedau yn gallu cael mwy yn ôl o'r diwydiant pwysig yma a gobeithio bydd modd defnyddio'r arian i gefnogi ein cymunedau."

Mae ymgynghoriad y llywodraeth yn rhan o'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ardollau ymwelwyr yn gyffredin ar draws y byd, a chaiff y refeniw ei ddefnyddio er lles cymunedau lleol, twristiaid a busnesau.

"Byddwn yn ystyried pob sylw fel rhan o'r broses ymgynghori yr Hydref hwn.

"Bydd gofyn i'r Senedd gymeradwyo'r broses ofalus o ddatblygu cynigion ar gyfer ardoll, eu troi'n ddeddfwriaeth ac yna weithredu a bydd yn cymryd blynyddoedd lawer."

Pynciau cysylltiedig