Twristiaeth: Angen ail-frandio Cymru o 'ddefaid, glaw a rygbi'
- Cyhoeddwyd
Mae angen i Gymru ail-frandio a gwneud i ffwrdd â'r ddelwedd o "ddefaid, tywydd gwlyb a rygbi", yn ôl perchnogion busnes.
Dywedodd cyfarwyddwr Zip World, Sean Taylor y dylai'r wlad hyrwyddo twristiaeth, bwyd a diod lleol, a lleoliadau treftadaeth.
Clywodd Aelodau Seneddol ar y Pwyllgor Materion Cymreig gan arweinwyr busnes eraill hefyd, a ddywedodd y dylid canolbwyntio ar hybu diwylliant Cymreig a'r iaith Gymraeg.
Roedd awgrymiadau eraill gan benaethiaid twristiaeth yn cynnwys mwy o ddefnydd o enw Cymraeg y wlad 'Cymru', yn hytrach na'r fersiwn Saesneg, 'Wales'.
Y Frenhines, Loch Ness a Guinness
Dywedodd Mr Taylor fod Cymru "yng nghysgod" gwledydd eraill Prydain.
"Mae gennych chi'r Teulu Brenhinol yn Llundain, y tartan a'r Loch Ness yn Yr Alban ac yn Iwerddon mae gennych chi Guinness," meddai wrth yr ASau.
"Os edrychwch chi ar y brand yng Nghymru mae'n eithaf gwan o'i gymharu â rhai Iwerddon a'r Alban yn enwedig.
"Dwi'n credu y dylen ni yn bendant gwneud i ffwrdd â defaid, tywydd gwlyb a - er mod i'n llywydd ar fy nghlwb rygbi lleol - rygbi hefyd, oherwydd mae pêl-droed wedi dod i'r blaen erbyn hyn."
Ychwanegodd Mr Taylor fod angen "arfogi'r iaith" a'i gweld "fel mantais, nid bygythiad".
"Rwy'n teimlo bod yna gynodiadau negyddol am yr iaith yn aml. Ond mae ein hymwelwyr rhyngwladol a Saesneg wrth eu bodd â'r defnydd o'r Gymraeg," meddai.
"Rydyn ni'n cael grwpiau ysgol o Loegr ac erbyn iddyn nhw adael maen nhw'n gallu dweud 'bore da', 'prynhawn da', 'croeso'.
"Maen nhw wrth eu bodd. Maen nhw'n ei gofleidio."
Daw'r galwadau wrth i'r ffigyrau diweddaraf ar dwristiaeth ddangos effaith y pandemig coronafeirws.
Mae yna gwymp o 89% yn nifer yr ymwelwyr o dramor a arhosodd dros nos yng Nghymru yn 2021 o'i gymharu â 2019.
Roedd 116,000 o ymweliadau dros nos i Gymru, yn ôl ffigyrau Arolwg Teithwyr Rhyngwladol, a gyhoeddwyd gan Swyddfa'r Ystadegau Gwladol (ONS).
'Cyfle enfawr'
Dywedodd Ian Roberts o Bortmeirion fod ymwelwyr i'r pentref twristiaeth Eidalaidd ger Porthmadog yn mwynhau clywed Cymraeg yn cael ei siarad, clywed ei bod yn fywiog ac yn fyw.
"Rydyn ni wastad wedi rhoi pwyslais cryf ar y diwylliant, y traddodiad a'r iaith. Mae dros 90% o'r bobl sy'n gweithio ym Mhortmeirion yn siarad Cymraeg," meddai.
"Rydyn ni'n meddwl y gallai gael ei defnyddio mwy, gan gynnwys defnyddio'r term Cymru ac nid Wales."
Galwodd yr arweinwyr busnes, oedd yn cynnwys Paul Lewin o Reilffordd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru a phrif weithredwr Distyllfa Penderyn, Stephen Davies, ar Lywodraeth Cymru i gynyddu ei chyllideb dwristiaeth.
Maen nhw hefyd eisiau gwell cyfathrebu am hunaniaeth Cymru a pham y dylai pobl ymweld.
Dywedodd Mr Lewin, sy'n rheoli rheilffordd treftadaeth hiraf y DU: "Yr hyn sy'n gyffredin i holl atyniadau twristiaeth Cymru yw'r lleoliad.
"Dyma amgylchedd hyfryd, golygfeydd bendigedig a [mae angen dangos] pa mor hygyrch ydyw o'i gymharu â llawer o leoedd eraill."
Ychwanegodd Mr Davies o Penderyn, sy'n allforio wisgi Cymreig i dros 40 o wledydd, nad oedd yn cael y synnwyr bod Cymru'n "gwerthu ei hun".
"Mae yna gyfle enfawr i wella cyfathrebu gydag ymwelwyr sy'n dod i Gymru, oherwydd maen nhw wedi dod yma, maen nhw wedi gwneud yr ymdrech. Gadewch i ni eu cadw yma neu ddod â nhw yn ôl."
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am sylw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd25 Mai 2022
- Cyhoeddwyd24 Mai 2022