Clydach: Arestio dyn ar ôl dod o hyd i gorff menyw, 71, mewn tŷ
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n ymchwilio i lofruddiaeth ar ôl dod o hyd i gorff menyw 71 oed mewn tŷ yng Nghlydach, Abertawe.
Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ ar Heol Tanycoed, Clydach toc ar ôl 08:20 fore Mawrth.
Mae dyn 55 oed yn y ddalfa wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Dywedodd Heddlu De Cymru nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r farwolaeth.
Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd dros dro, Mark Lewis, y bydd y digwyddiad yn "achosi sioc i gymuned glos Clydach".
"Bydd presenoldeb yr heddlu yn parhau yn yr ardal wrth i ni fwrw ymlaen â'n hymholiadau a cheisio tawelu meddyliau y gymuned."