Anfon rheithgor achos Giggs adref yn sgil salwch
- Cyhoeddwyd
Mae'r rheithgor yr achos yn erbyn cyn-reolwr tîm pêl-droed Cymru, Ryan Giggs, wedi cael eu hanfon adref wedi i un o'r aelodau fethu â bod yn y llys oherwydd salwch.
Maen nhw wedi bod yn ystyried eu dyfarniadau yn Llys y Goron Manceinion ers prynhawn Mawrth.
Mae Mr Giggs yn gwadu rheoli ei gyn-gariad, Kate Greville drwy orfodaeth ac o ymosod arni hi a'i chwaer, Emma Greville.
Bydd yr achos yn ailddechrau am 10:00 ddydd Gwener.
Dywedodd y Barnwr Hilary Manley wrth y rheithgor fore Iau: "Mae un o'ch plith wedi ffonio i ddweud ei fod yn sâl.
"Y gobaith yw y bydd yma yfory. Ni fyddwch chi'n gallu cyd-drafod heddiw."
Roedd y barnwr wedi gofyn i'r rheithgor a fyddai yna unrhyw "drafferthion anorchfygol" petai angen i'r achos barhau tan wythnos nesaf ac roedd pob un wedi cadarnhau mewn ysgrifen na fyddai hynny'n drafferth.
Aeth ymlaen i atgoffa'r rheithgor i ymatal rhag trafod yr achos na "chwilio am wybodaeth".
Ychwanegodd bod angen iddyn nhw gofio petawn nhw'n dod ar draws adroddiadau newyddion mai "crynodebau" yn unig yw'r rheiny na sydd o reidrwydd "yn hollol gywir", a bod dim i'w gymharu â'r dystiolaeth o flaen y llys.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Awst 2022
- Cyhoeddwyd22 Awst 2022
- Cyhoeddwyd19 Awst 2022