'Amser i Ryan Giggs dalu'r pris' medd yr erlyniad

  • Cyhoeddwyd
Ryan Giggs yn cyrraedd Llys y Goron Manceinion ddydd LlunFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Ryan Giggs yn cyrraedd Llys y Goron Manceinion ddydd Llun

Mae'r erlyniad yn achos Ryan Giggs yn dweud ei bod yn amser iddo "dalu'r pris".

Ar ddechrau trydedd wythnos yr achos mae'r ddwy ochr wedi bod yn crynhoi eu dadleuon i'r rheithgor yn Llys y Goron Manceinion.

Mae cyn-seren Manchester United a Chymru, 48, wedi'i gyhuddo o reoli Kate Greville drwy orfodaeth, ac o ymosod arni hi a'i chwaer.

Mae Mr Giggs yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.

'Neb ond ei hun i feio'

Dywedodd Peter Wright QC ar ran yr erlyniad fod negeseuon a yrrwyd gan Mr Giggs at Ms Greville yn dangos "camdriniaeth emosiynol a chorfforol" a bod "dau fersiwn gwahanol iawn o Ryan Giggs".

Ychwanegodd fod Mr Giggs yn "credu y gallai gwneud beth bynnag yr oedd eisiau" i Ms Greville ac na allai gael ei gosbi.

Ond dywedodd fod "pethau wedi dal i fyny ag ef" ar noson yr ymosodiad honedig fis Tachwedd 2020, a bod "ganddo neb ond ei hun i feio".

Ffynhonnell y llun, Julia Quenzler
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r rheithgor yn achos Ryan Giggs i ddechrau eu trafodaethau yn y dyddiau nesaf

Fe wnaeth Mr Wright atgoffa'r rheithgor o'r alwad 999 gan Emma Greville ar y noson honno, ble mae Mr Giggs i'w glywed yn y cefndir yn dweud mai Ms Greville wnaeth achosi'r digwyddiad.

Dywedodd fod hyn yn "microcosm o'r achos yn ei gyfanrwydd".

"Am sylw," meddai. "Nid 'camgymeriad oedd o' neu 'nes i ddim trio gwneud hynny'."

Gofynnodd hefyd pam nad oedd gan Mr Giggs atebion i nifer o'i gwestiynau, gan honni nad oedd ganddo "unrhyw eglurhad synhwyrol i'w wneud".

"Roedd y gwir mor niweidiol... yr unig beth arall i wneud oedd peidio â rhoi eglurhad," meddai Mr Wright.

'Ddim wedi'i gyhuddo o fod yn fflyrt'

Yn ei araith ef i'r llys dywedodd Chris Daw QC ar ran yr amddiffyniad fod Mr Giggs wedi cael "addysg gyfyngedig", a'i fod ar adegau â gormod o embaras i gyfaddef nad oedd yn deall rhai o gwestiynau'r erlyniad.

"Beth bynnag y gwnewch chi o hynny... cofiwch nad ei gyfrifoldeb ef yw profi ei fod yn ddieuog," meddai Mr Daw.

Ychwanegodd nad oedd y diffynnydd wedi gallu "ffeindio'r geiriau cywir" ond nad ydy hyn yn golygu ei fod yn "euog o unrhyw beth".

"Dyw o ddim wedi'i gyhuddo o fod yn fflyrt", nag o fod yn anffyddlon, meddai Mr Daw.

"Pe bai'r rheiny'n droseddau mae'n debyg y byddai'n euog o o leiaf rhai ohonynt," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ryan Giggs ydy un o'r pêldroedwyr mwyaf llwyddiannus yn hanes y gêm

Dywedodd fod "dim tystiolaeth" fod Mr Giggs wedi "rheoli unrhyw ran" o fywyd ei gyn-gariad, ac nad oedd anafiadau'r ddwy chwaer yn cyd-fynd â'r ffordd y maen nhw'n honni y digwyddodd yr ymosodiad.

"Meddyliwch am y peth," meddai Mr Daw. "Ergyd nerthol gyda'i ben i wyneb Ms Greville, sydd ond yn achosi anaf bach i'w gwefus? Rydyn ni'n awgrymu na allai hynny fod wedi digwydd."

Apeliodd hefyd ar y rheithgor i ystyried "cymeriad da" Mr Giggs, a'r ffaith nad oedd erioed wedi bod mewn trwbl gyda'r heddlu o'r blaen.

'Rhoi cydymdeimlad o'r neilltu'

Yn gynharach ddydd Llun fe wnaeth y Barnwr Hilary Manley roi cyfarwyddiadau i'r rheithgor yn Llys y Goron Manceinion.

Dywedodd bod yn rhaid iddyn nhw ddod i benderfyniad ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd a bod angen iddyn nhw benderfynu a oedd "y tyst yn un gonest".

Os oes unrhyw beth sy'n ymddangos yn anghywir rhaid ystyried a yw hynny o bwys i'r achos yn ei gyfanrwydd, meddai.

Ychwanegodd y Barnwr Manley bod Kate Greville a chyn-reolwr Cymru wedi cynhyrfu tra'n cyflwyno tystiolaeth ond bod yn rhaid i'r rheithgor roi "unrhyw gydymdeimlad o'r neilltu".

Fe'u hatgoffodd hefyd ei bod wedi dweud ar ddechrau'r achos bod yn rhaid rhoi unrhyw emosiwn i un ochr a bod yn "rhaid i hynny barhau".

Mae'r achos yn parhau.