Galw am gynnig rhagor o gyfleoedd i blant dros yr haf

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Plant yn chwarae yn yr awyr agoredFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nod rhaglen Haf o Hwyl ydy rhoi cyfle i blant "ail-adeiladu eu hyder" ar ôl y cyfnod clo

Mae tri sefydliad cenedlaethol yn galw ar i gyrff diwylliannol a chwaraeon Cymru ddod at ei gilydd er mwyn cynnig rhagor o gyfleoedd i blant dros yr haf wedi'r cyfnod clo.

Yn ôl Comisiynydd Plant Cymru, Chwaraeon Cymru a'r Urdd, dylai pob plentyn yng Nghymru gael "cyfleoedd hygyrch, di-dâl" i gymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol yn ystod gwyliau'r haf - boed yn chwaraeon neu'n weithgaredd gelfyddydol.

Mae'r alwad yn cynnwys cais i fuddsoddi'n sylweddol mewn gwasanaethau plant yn ystod y cyfnod ar ôl y pandemig, gan gynnwys cyllid penodol ar gyfer gweithgareddau fyddai â phwyslais ar iechyd meddwl.

Dywedodd yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru: "Mae un arolwg ar ôl y llall wedi dangos yr effaith sylweddol mae'r pandemig wedi'i chael ar fywydau plant a phobl ifanc ledled Cymru.

"Rydyn ni'n teimlo'n gryf y dylai fod lle canolog iddyn nhw yng nghynllun adferiad y llywodraeth, ac na ddylai'r adferiad hwnnw ganolbwyntio ar eu haddysg yn unig, ond ar agweddau eraill allweddol o'u bywydau, sydd wedi dioddef gwahanol effeithiau."

'Haf o Hwyl'

Mewn cynnig a rannwyd gyda'r llywodraeth, mae'r tri sefydliad yn galw am 'Haf o Hwyl' a fydd y cynnig:

  • O leiaf un wythnos o ddarpariaeth am ddim gyda mynediad at gyfleoedd chwarae, chwaraeon a chyfoethogi dwyieithog eraill;

  • Lefel uwch o ddarpariaeth ar gyfer y rhai y mae'r pandemig wedi effeithio'n anghymesur arnyn nhw, fel plant anabl a rhai o deuluoedd incwm isel;

  • Cyfle i'r rhai mewn addysg Gymraeg sydd wedi colli hyder yn eu sgiliau iaith i gymryd rhan mewn gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'r tri sefydliad mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynglŷn â'r syniad.

Bydd cyfarfod yn cael ei gynnal ym mis Ebrill ar gyfer sefydliadau ymbarél sydd â diddordeb mewn cefnogi a chyfrannu at y fenter.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sefydliadau yn galw am fuddsoddi'n sylweddol mewn plant yn ystod y cyfnod ar ôl y pandemig

Dywedodd Sarah Powell, prif weithredwr Chwaraeon Cymru: "Rydyn ni'n clywed mwy a mwy am yr effaith fydd pandemig coronafeirws yn ei gael ar ein plant.

"Rydyn ni'n ymwybodol fod gweithgarwch corfforol yn medru chwarae rôl enfawr mewn cefnogi lles corfforol a meddyliol ein pobl ifanc, drwy gynnig lleoliad hwyl a chymdeithasol, sy'n eu galluogi i gymysgu gyda ffrindiau a chreu perthnasoedd newydd."

'Ail-adeiladu eu hyder'

Ychwanegodd prif weithredwr yr Urdd, Siân Lewis: "Mae pob un plentyn, be bynnag eu cefndir a'u sefyllfa ariannol, yn haeddu'r cyfle i brofi'r wefr a'r rhyddid o wneud gweithgareddau hamdden yng nghwmni ffrindiau, ac i ail-adeiladu eu hyder.

"Byddai hwn yn ddull arloesol i sicrhau fod cenhedlaeth o ieuenctid yn cael cynnig cyfle i fwynhau'r gweithgareddau a'r profiadau a wrthodwyd iddynt yn y flwyddyn a fu."