'Dim cywilydd cyfaddef bod yn alcoholig'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

'Ma' ffydd yn fy atal i rhag cael y diod cyntaf 'na,' medd Elfed Wyn ap Elwyn

"Does 'na ddim cywilydd cyfaddef eich bod yn alcoholig ac heb os fe wnaeth cael cymorth proffesiynol fy helpu i ddeall gwraidd y broblem," medd Elfed Wyn ap Elwyn sydd bellach yn un o gynghorwyr Cyngor Sir Gwynedd.

"Ro'n i'n 22 pan sylweddolais i fy mod i'n alcoholig... o'n i wastad yn gwybod bod gen i ryw broblem efo alcohol," meddai wrth siarad ar raglen Bwrw Golwg, BBC Radio Cymru.

"Byddwn i'n deud wrth fy hun ddechrau'r noson, taeru efo fy hun bron i gael noson dawel ond be' fuasai'n digwydd y byddai un diod yn troi'n dri a tri yn troi'n naw a naw yn troi yn Duw a ŵyr yn y pen draw.

"Byddwn i'n teimlo'n sâl diwrnod wedyn a byddai'r euogrwydd neu'r blŵs yn para am bythefnos i fis.

"Dros y blynyddoedd byddai'r teimlad 'na o iselder ar ôl mynd allan yn mynd yn fwy a mwy."

Ond ar 29 Medi 2019 fe wnaeth bywyd Elfed Wyn newid wedi i'w fam drefnu y byddai rhywun o Alcoholics Anonymous Aberystwyth yn ei ffonio.

'Ofn cyfaddef'

Roedd e newydd gael noson o yfed trwm, wedi iddo fod yn sych am fis, a'i ffrindiau yn poeni am ei ddiogelwch wrth iddo feddwl dringo ar ben to adeilad uchel yn ei feddwdod.

Ffynhonnell y llun, Ifan James
Disgrifiad o’r llun,

'Ro'n i am fod yn wleidydd ac am sicrhau annibyniaeth i Gymru ond ofn cyfaddef bo fi'n alcoholig,' medd Elfed Wyn ap Elwyn

"Ro'dd Mam a fi eisoes wedi siarad am y peth a do'dd hi ddim yn flin - ac yna yr hyn a fu o gymorth mawr oedd geiriau arweinydd y grŵp AA," meddai.

"Na'th o i fi sylweddoli nad hen ddyn yn gorwedd ar fainc mewn dillad carpiog yn pi-pi yn ei drowsus oedd alcoholig, a bod alcoholiaeth yn gyflwr dynol lle ma'r corff yn creu gormod o gemegion pan mae rhywun yn yfed - cyflwr sy'n achosi rhywun i fynd yn gaeth iddo ac isio mwy a methu stopio.

"Ro'n i'n gwybod bo' fi isio bod yn wleidydd, eisiau annibyniaeth i Gymru - ond petawn yn cyfaddef fy mod yn alcoholig ro'n i ofn y byddai pobl yn edrych lawr arnai.

"Anghofiai fyth o'r dyn AA yn deud wrthai: 'Sut wyt ti'n disgwyl i Gymru fod yn annibynnol os nad wyt yn rhydd dy hun?'"

Disgrifiad o’r llun,

'Pan 'dach chi'n deffro i broblem alcoholiaeth dyna ddechrau eich bywyd newydd,' medd y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn

Dywed ei fod yn gwybod na fyddai wedi bod yn ŵr, tad na chynghorydd petai e ddim wedi cael cymorth.

"Fel na'th dyn yr AA ddeud wrthai, does yna ddim cywilydd. Mi all o ddigwydd i rhywun - ac wedi mynd yno fe ddaeth ryw don o ryddhad."

Ond mae'n dweud bod y broses o stopio yfed yn anodd.

"Nid jyst rhoi tap off ydy o. Mae rhywun yn gorfod chwalu'r strwythur ma' rhywun wedi ei adeiladu yn y lle cyntaf.

"Be o'dd yn cael fi yn fwy na dim o'dd yr hunllefau ro'n yn eu cael am dri mis ar ôl stopio. Ro'dd yr hunllef yr un fath bob noson - sef bo fi'n chwil a bod fy ffrindiau a phawb yn troi cefn arnai. 'Nes i gael tri mis o'r un freuddwyd bob un nos - o'dd o'n brofiad ofnadwy."

'Dyfnhau fy ffydd'

Ym mis Mehefin eleni rhoddodd Elfed Wyn neges ar Facebook yn nodi ei bod yn 1,000 diwrnod ers iddo stopio yfed, gan ddiolch i deulu a ffrindiau sydd wedi bod yn gefn iddo.

Disgrifiad o’r llun,

O ran ei ffydd dywed Elfed Wyn ap Elwyn bod yr hyn sydd wedi digwydd iddo yn wyrth

Dywedodd hefyd ei fod yn "diolch yn enfawr i Dduw am y cymorth, gan roi nerth i mi a dyfnhau fy nghrefydd, a chael y cryfder i orchfygu'r holl beth".

"Os byswn i wedi mynd ymlaen i yfad, Duw a ŵyr lle baswn i rŵan... ar ben fy hun yn unig, heb briodi Anwen, heb blant, heb llawer o obaith i unrhyw ddyfodol

"Os ydych chi'n rywun sy'n teimlo eich bod chithau'n sownd mewn trap neu bod gennych ffrind sy'n teimlo felly, plîs cysylltwch - mi fyswn yn falch iawn o gael rhoi cymorth," ychwanegodd.

Wedi cyhoeddi'r neges dywed bod nifer wedi cysylltu ag e - rhai yn dweud eu bod yn mynd drwy'r un broses ac eraill yn gofyn am gymorth, ac mae'n pwysleisio bod yn rhaid chwalu unrhyw deimlad o gywilydd sydd ynghlwm â'r cyflwr.

'Yn 22 oed teimlo bod bywyd yn ddi-werth'

O ran ei ffydd dywed bod yr hyn sydd wedi digwydd iddo yn wyrth.

"Ar ôl i fi gael cymorth ro'n i'n mynd i'r capel gyda phwrpas. Byddwn yn mynd i'r gwasanaeth misol yng nghapel Cwm Prysor ac yna byddwn yn dilyn y gweinidog i gapeli eraill ar hyd y fro.

"Mae darllen y Beibl yn helpu fi. Mae ffydd yn rhoi nerth a'r cyngor yna mae rhywun isio ei glywed.

"Dwi'n credu mewn nerth gweddi. Yn gynharach eleni fe gafodd ein hefeilliaid eu geni saith wythnos yn gynnar ac o'n i ofn eu colli nhw. Dwi'm yn gwybod sawl gwaith 'nes i weddïo y diwrnod hwnnw ym maes parcio'r ysbyty.

"Heb os mae gwyrthiau yn digwydd trwy bobl - drwy Mam, drwy ffrindiau."

Mae'n credu hefyd bod ei ffydd yn gymorth iddo "beidio cael y diod cyntaf 'na eto".

"Mae alcoholiaeth yn anodd iawn - un diod 'da chi ffwrdd o ddisgyn eto," mae'n pwysleisio.

"Y peth gorau 'nes i o'dd cyfaddef fy nghyflwr - yn 22 oed ro'n i'n teimlo yn hen fel petai fy mywyd i wedi llosgi allan yn barod, a bo' fi wedi tanseilio gweddill fy mywyd a bod dim pwynt iddo rywsut.

"Dyw e ddim bwys pryd mae rhywun yn deffro i'r broblem - yn eich ugeiniau neu yn eich saithdegau - ond pan 'dach chi'n deffro i'r broblem dyna ddechrau eich bywyd newydd."

Mae modd clywed y cyfweliad yn llawn ar rifyn Bwrw Golwg ddydd Sul 28 Awst ac yna ar BBC Sounds.

Mae cymorth a gwybodaeth ar gael ar Action Line y BBC.

Pynciau cysylltiedig