Gwaith tun Trostre'n ffynnu wedi 70 mlynedd o gynhyrchu

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Penblwydd y cwmniFfynhonnell y llun, Tata Steel
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n 70 mlynedd ers sefydlu gwaith tunplat Trostre Tata Steel

Mae'r cwmni sy'n gyfrifol am gynhyrchu caniau ffa pob Heinz yn dathlu 70 mlynedd o fod mewn busnes.

Daeth gwaith tunplat Trostre Tata Steel yn gwbl weithredol ym 1952 ac mae'n parhau i fod yn un o gyflogwyr mwyaf Llanelli.

Mae'n cynhyrchu pecynnau tun ar gyfer dwsinau o enwau cyfarwydd - o fwyd tun i aerosolau.

Dywedodd Laura Griffiths, rheolwr masnachol y cwmni fod y gwaith yn "bwysig iawn i Lanelli" gan gyflogi "mamau, tadau ac yna eu plant".

'Dechreuodd ar y diwrnod cyntaf'

Yn ddiweddar wrth i bobl bentyrru nwyddau yn sgil Brexit a Covid mae twf wedi bod yn y galw am nwyddau tun.

Mae'r cwmni yn cynhyrchu oddeutu 400,000 tunnell y flwyddyn o dun, crôm a dur sydd wedi'i orchuddio â pholymer.

Mae'r gwaith yn Nhrostre wedi darparu gwaith i genedlaethau o'r un teulu - yn eu plith tad a thad-cu Richard Jones.

Mae Mr Jones bellach yn bennaeth cymorth gweithredol y safle ond dechreuodd weithio yn yr adran dechnegol yn 1991 pan yn 16.

Richard Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwaith Trostre wedi bod yn bwysig i deulu Richard Jones am genedlaethau

Dywedodd: "Mae gwaith Trostre mor bwysig i'r gymuned - roedd fy nhad-cu yn gweithio yma.

"Dechreuodd ar y diwrnod cyntaf un. Felly mae cysylltiad wedi bod trwy gydol hanes Trostre gyda fy nheulu.

"Yna cym'rodd fy nhad y fantell honno a bu'n gweithio yma am 30 mlynedd hefyd ac yn ddiweddar dwi wedi gwneud yn well na'r ddau ohonynt ac wedi bod yma ers 31 mlynedd."

Tinopolis

Cafodd gwaith Trostre ei adeiladu ar ddiwedd y 1940au ar ôl i felinau tun lleol eraill gau gan adael miloedd o bobl yn chwilio am waith.

Roedd Llanelli a'r cyffiniau yn cael ei hadnabod fel Tinopolis oherwydd rôl y dref yn cyflenwi cynnyrch tunplat ar gyfer marchnadoedd y DU a marchnadoedd byd-eang.

Tunplat
Disgrifiad o’r llun,

Tunplat yn barod i gael ei ddosbarthu i gwsmeriaid

Mae Laura Griffiths o Rydaman yn rhelowr masnachol i'r cwmni.

Mae hi wedi gweithio i'r cwmni ers pum mlynedd ac yn dweud fod y ffatri yn rhan ganolog o'r gymuned.

Laura Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Laura Griffiths fod y ffatri yn rhan allweddol o'r gymuned

"Mae lot o famau a tadau ac yna eu plant yn dod i weithio fan hyn hefyd. Mae'n bwysig iawn i Lanelli."

Mae bron i 600 o bobl yn cael eu cyflogi yng ngwaith Trostre - yn prosesu tunelli o ddur o waith dur Port Talbot gerllaw a'i drawsnewid yn goiliau o dunplat.

Yna maent yn cael eu dosbarthu i gwsmeriaid gan gynnwys Heinz sy'n addasu'r tunplat i siâp can.

Er gwaethaf y dadlau ynghylch dyfodol cynhyrchu dur yng Nghymru mae gan y gwaith tunplat yn Nhrostre lyfr archebion iach wrth i'r galw am nwyddau tun gynyddu.

Dyfodol llewyrchus

Mae Sean Kenny wedi gweithio yn Nhrostre y rhan fwyaf o'i fywyd ac yn dweud ei bod hi'n "hyfryd gweld" pa mor brysur yw'r ffatri ar hyn o bryd.

"Fi wedi bod 'ma 40 blwyddyn nawr ac o hyd mae cymylau wedi bod dros Trostre - gyda plastics yn mynd i gymryd drosto, neu rywbeth arall - mae business plans yn newid a stwff.

"Ond pryd weles i y silffoedd i gyd yn wag a wedyn warws ni'n wag, o'n i'n gwybod bod dyfodol 'ma.

"Mae gwaith lot o ddynion o oedran fi, ti'n gwbod 58, ar fin dod i ben a mae 'na bois newydd yn dod mewn. Mae nhw mor keen ac maen nhw mor enthusiastic a mae'n lyfli i weld.

"Chi'n gw'bod mae 'na ddyfodol da yma."

Sean Kenny
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sean Kenny, rheolwr cymorth cwsmeriaid yn mwynhau gweld y ffatri mor brysur

Ychwanegodd fod pentyrru nwyddau gan ddefnyddwyr yn ystod Brexit a phandemig Covid - pan oedd y staff yn weithwyr allweddol - wedi cynyddu busnes yn Nhrostre.

"Hoff gwsmeriaid ni yw Prydain achos mae llai o transport costs i gael y steel, y tinplate iddyn nhw," ychwanegodd.

"Sofirst choice - Prydain.

"So aethon ni o, dwed, 40 neu 50% lan i 70% o'r market share 'na.

"Ac roedd cwsmeriaid ni'n hapus bod nhw'n gwybod bod y tinplate yn dod o'r ynys te - dim ishe becso am Brexit.

"A wedyn yr un peth efo Covid wedyn.

"O'n nhw'n cadw mynd so roedd rhaid i ni gadw fynd.

"Oedd e'n rili dda i ddyfodol Trostre - i bawb gael gweld pa mor pwysig ry'n ni i'r wlad."