Y Rhyl: Difrod i awyren Red Arrows ar ôl i aderyn ei tharo
- Cyhoeddwyd
Mae awyren Red Arrows wedi ei difrodi ar ôl i aderyn ei tharo yn ystod Sioe Awyr Y Rhyl ddydd Sul.
Fe rannodd David Montenegro, un o swyddogion y Red Arrows, neges ar Twitter yn dweud bod peilot awyren y Red 6 "wedi ei ysgwyd ond yn iawn".
Ychwanegodd fod y peilot wedi "ymateb yn gywir a gyda chefnogaeth ei gydweithwyr, wedi sicrhau canlyniad diogel".
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad wrth i'r awyrennau gloi'r sioe ddydd Sul yn Sir Ddinbych.
Wrth rannu neges ar Twitter, dywedodd y Red Arrows nad yw'r math o ddigwyddiad yn anghyffredin.
Ychwanegon bod peilotiaid wedi eu hyfforddi'n "arbennig o dda" ar ei gyfer.
"Yn yr achos hwn, ymatebodd Red 6 a'r tîm cyfan yn berffaith gyda'i gilydd, heb unrhyw risg pellach i'r peilot na'r awyren.
"Ry'n yn falch o ddweud bod y jet wedi glanio'n ddiogel a'r peilot heb ei anafu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Awst 2018
- Cyhoeddwyd27 Awst 2016