Cyhuddo dyn o lofruddio ei fam oedrannus ger Aberhonddu
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 57 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio ei fam oedrannus ger Aberhonddu.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi cael eu galw i ddigwyddiad yn ardal Llanfrynach am 21:25 nos Wener.
Cafodd Margaret Joyce Griffiths, 87, ei hedfan i'r ysbyty ond bu farw'r diwrnod canlynol.
Dywedodd yr heddlu fod ei mab, John Anderson Griffiths, wedi cael ei arestio a'i fod bellach wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth.
Fe wnaeth Mr Griffiths ymddangos yn Llys Ynadon Merthyr Tudful ddydd Mawrth, ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa.
Mewn datganiad dywedodd teulu Ms Griffiths y bydd yn cael ei chofio fel "mam, mam-gu, chwaer ac aelod ffyddlon a gweithgar o'r gymuned".
"Mae'r digwyddiadau trasig diweddar wedi torri calonnau'r teulu ac wedi achos cryn dipyn o sioc," meddai'r datganiad.