Y Bencampwriaeth: Caerdydd 1-2 Luton

  • Cyhoeddwyd
Luton yn dathlu gol Luke FreemanFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Chafodd yr Adar Gleision ddim buddugoliaeth adref yn erbyn Luton nos Fawrth ond doedd hi ddim yn berfformiad siomedig.

Roedd sawl cyfle i'r ddau dîm yn ystod yr hanner cyntaf, ond dim un yn dwyn ffrwyth.

Daeth gôl i'r gwrthwynebwyr funudau wedi chwiban yr ail hanner a Luke Freeman yn llwyddo i gyrraedd cefn y rhwyd gyda help Fred Onyedinma.

Daeth ail gôl i Luton wedyn o droed chwith Gabriel Osho.

Taro'n ôl wnaeth yr Adar Gleision funudau cyn diwedd y gêm gyda gôl gan Romaine Sawyers.

Felly mae Luton wedi sicrhau chwe phwynt yng Nghymru y tymor hwn a'r sgor terfynol nos Fawrth yn 1-2.