Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 3-1 Gateshead
- Cyhoeddwyd
Roedd hi'n noson fuddugoliaethus i Wrecsam adref ar y Cae Ras nos Fawrth.
Daeth dwy gôl o fewn y deng munud cyntaf - y naill i Ben Tozer a'r llall i Ollie Palmer.
Ceisio taro'n ôl wnaeth y gwrthwynebwyr, Gateshead, gyda gôl gan Owen Bailey yn yr hanner cyntaf.
Ond sicrhau un fach arall wnaeth Paul Mullin i'r tîm cartref cyn diwedd y gêm a'r sgor terfynol yn 3-1.