Simon Chandler a'i frwydr i warchod enwau Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae Simon Chandler yn gyfreithiwr o Lundain yn wreiddiol sydd wedi dysgu Cymraeg ac yn awyddus iawn i warchod enwau Cymraeg ar lefydd a thai. Mae e'n arwain grŵp cymdeithasol Cymraeg ym Manceinion ar gyfer siaradwyr a dysgwyr, ac mae e'n aelod o Gymdeithas yr Iaith.
Mae e wedi defnyddio ei wybodaeth gyfreithiol i helpu Cymdeithas yr Iaith i gychwyn cynllun o'r enw DIOGELWN sy'n anelu i warchod enwau Cymraeg ar lefydd a thai drwy'r gyfraith.
Mewn darn arbennig ar gyfer Cymru Fyw, mae Simon yn sôn am beth wnaeth ysbarduno ei waith i warchod enwau Cymraeg.
Cefais fy nenu at y Gymraeg yn y lle cyntaf gan straeon am ysbryd cymunedol y Cymry Cymraeg yn ystod ymweliad â cheudyllau llechi Llechwedd ger Blaenau Ffestiniog. Yr ysbryd hwnnw a arweiniodd yn y pen draw at gynllun DIOGELWN, sy'n diogelu enwau Cymraeg ar dai a thir.
Ar ôl i fi ddechrau dysgu'r iaith, un o'r pethau cyntaf a wnes i oedd ymaelodi â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg. O'r dechrau, roedd croeso cynnes gan y Gymdeithas, yn ogystal â theimlad braf o berthyn, ac o gydraddoldeb mewn cymuned gref.
Pwysleisiwyd bod pob aelod yn cael ei annog i gyfrannu at yr achos cyffredin (sef amddiffyn y Gymraeg) trwy ddefnyddio'i sgiliau'i hun. Felly, roeddwn ar fy ngwyliadwriaeth am ffyrdd o gyfrannu, er nad oedd hi'n amlwg bryd hynny beth 'oedd cyfreithiwr sy'n arbenigo mewn prynu, gwerthu a phrydlesu tir yn gallu'i wneud i helpu'r Gymdeithas a phobl Cymru.
Euogrwydd
Rhywbeth arall rwyf yn ei gofio o'r misoedd cyntaf o ddysgu'r iaith oedd teimlad o euogrwydd dirprwyol oherwydd pechodau fy hynafiaid yn erbyn y Gymraeg a diwylliant Cymru, yn ogystal ag edmygedd o gamp aruthrol y Cymry Cymraeg oedd wedi llwyddo i gynnal eu hiaith a'u diwylliant yn fyw ac yn iach yn wyneb gormes.
Hyd yn oed erbyn hyn, ar ddechrau pob ymweliad â Chymru, rydw i'n ei chael hi'n anodd dygymod â'r realiti caled bod y Gymraeg wedi'i darostwng i'r fath raddau gan y Saesneg, yn glywadwy ac yn weladwy.
Mewn ffordd, fe ddaeth yr holl ffactorau hynny at ei gilydd yn y foment y gwelais y trydariad hwn gan y bardd a'r awdur, Sian Northey, ar y 1af o Fehefin 2020: "Ydi o'n bosib rhoi cymal wrth werthu tŷ nad ydi'r enw i gael ei newid? (Dw i'n mynd o flaen gofid, ond mae cymaint o straeon am bobl yn gwneud ac mi fysa fo'n torri 'nghalon i)."
Cyfraniad
Yn fyr, fe welais gyfle i gyfrannu a gwneud gwahaniaeth trwy ddefnyddio'm harbenigedd a'm profiad i fel cyfreithiwr.
O fewn dim o dro, ar ôl sgyrsiau gyda Sian ei hun yn ogystal â'r cyfreithiwr a'r Prifardd Emyr Lewis, aelodau Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith a Chadeirydd y Gymdeithas ei hun (sef Mabli Siriol Jones), roedd fersiwn gwreiddiol cynllun DIOGELWN wedi ymffurfio.
Dau beth oedd wrth wraidd y cynllun yn ei fersiwn gwreiddiol: yn gyntaf (fel roedd Sian wedi'i ddychmygu) cyfamodau (sef addewidion ffurfiol) mewn cymal safonol i beidio â newid enwau Cymraeg (ar dai'n unig bryd hynny) ac, yn ail, ceidwad y gellid rhoi'r holl gyfamodau hynny iddo (sef y Gymdeithas).
Roedd gan y cynllun ddau brif amcan: un, darparu pobl Cymru gyda meddyginiaeth hunangymorth er mwyn eu galluogi nhw i ddiogelu'r enwau Cymraeg ar eu tai, a dau, annog Llywodraeth Cymru i warchod yr enwau hynny trwy ddeddfwriaeth yn hytrach na gadael i bobl Cymru geisio datrys y broblem eu hunain.
Wedyn, fis Ionawr eleni, digwyddodd rhywbeth a arweiniodd at ymestyn ystod y cynllun yn sylweddol. Ers canrif, Banc Cornicyll oedd yr enw ar ddeunaw erw o gaeau yng Ngorslas ger Llanelli, ond, ar ôl i dŷ newydd gael ei godi ar un o'r caeau hynny, ac ar ôl i'r Arolwg Ordnans ddiweddaru'i fapiau wrth gymryd enw'r tŷ newydd i ystyriaeth, fe ddisodlwyd yr enw hanesyddol, Cymraeg ar yr holl gaeau gan enw'r tŷ: Hakuna Matata.
Felly, fe addaswyd cynllun DIOGELWN ac, ar ei newydd wedd, fe ellir ei ddefnyddio i ddiogelu enwau lleoedd yn ogystal ag enwau ar dai.
Gwerthu
Os ydych chi'n bwriadu gwerthu'ch tŷ neu'ch tir (sydd ag enw Cymraeg), bydd angen i chi gyfarwyddo cyfreithiwr beth bynnag, a gellir gofyn iddynt lawrlwytho cymal penodol (yn Gymraeg neu yn Saesneg) oddi ar wefan Cymdeithas yr Iaith yn rhad ac am ddim a'i gynnwys yn y cytundeb gwerthu.
Hyd yn oed os nad ydych chi'n bwriadu gwerthu'ch tŷ neu'ch tir ar hyn o bryd, gellir gwneud defnydd o'r cynllun yn syth trwy lofnodi cytundeb yn uniongyrchol gyda Chymdeithas yr Iaith â chymorth eich cyfreithiwr.
Mae cynllun DIOGELWN yn seiliedig ar ddull cyfreithiol (sef cyfyngiad cofrestredig) sydd wedi'i ddefnyddio ers degawdau er mwyn diogelu sawl math gwahanol o gyfamod.
Mae yna elfen orfodol i'r cynllun, wrth gwrs, ond bydd e (o'i natur) yn ysgogi sgwrs wrth i'r gwerthwr egluro i'r prynwr ystyr ac arwyddocâd yr enw Cymraeg dan sylw a pham bod angen ei ddiogelu. Dyna gyfle euraidd i addysgu prynwyr (a, phwy a ŵyr, efallai i greu llysgenhadon newydd i'r iaith Gymraeg hefyd).
Wedi'r cwbl, rydw i'n gwybod o brofiad pa mor drawsffurfiol yw pŵer addysg: roeddwn i'n Sais anwybodus fy hun unwaith.