'Cyfrifoldeb ar bob un' i warchod enwau lleoedd yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr iaith wedi dweud bod "cyfrifoldeb" ar bawb yng Nghymru i warchod enwau lleoedd, a nid dibynnu'n unig ar ddeddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru.
Daeth yr alwad fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i gael pobl i gofrestru enwau eu tai a'u tir, fel nad oes modd eu newid hyd yn oes os yw'n cael ei werthu.
Wrth siarad mewn rali ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron, ychwanegodd Howard Huws o Gylch yr Iaith bod gwarchod enwau nodweddion daearyddol yr un mor bwysig â diogelu enwau tai.
"Mae'n rhan o'n gwead ni fel cenedl, ni sydd wedi rhoi'n henwau ni ar y dirwedd am fod y dirwedd yn berthnasol ac yn bwysig i ni," meddai.
'Tanseilio'n bodolaeth'
Cafodd cynllun Diogelwn ei lansio gan Gymdeithas yr Iaith y llynedd, sy'n annog pobl i lawrlwytho dogfen gyfreithiol all gael ei ddefnyddio i warchod enw eu tŷ os yw'n cael ei werthu nes ymlaen.
Bydd y cynllun nawr yn ymestyn i enwau tir hefyd, a hynny yn dilyn pryderon fod rheiny hefyd yn cael eu colli.
Defnyddiodd Mr Huws esiamplau Cwm Cneifion (Nameless Cwm), Ffos Clogwyn y Geifr (Devil's Appendix) a Llwybr Gwregys (Heather Terrace) fel llefydd yn Eryri oedd wedi cael enwau Saesneg ar fapiau diweddar, ac felly mae'r enw Cymraeg "yn cael ei golli ar lafar".
"Mae'n digwydd ar fynyddoedd ac afonydd, dyffrynnoedd ac ynysoedd," meddai.
"Mae unrhyw ymosodiad ar hynna yn tanseilio'n bodolaeth ni fel cenedl, a'n perthynas ni efo'r tir dan ein traed, felly mae'n rhaid gwarchod enwau lleoedd.
"Mae'n rhaid diogelu enwau lleoedd drwy ddeddf. Dyna'r unig ateb i'r broblem."
Nid defnyddio enwau yn y ddwy iaith er mwyn gwneud pethau'n haws i dwristiaid oedd yr ateb chwaith, meddai.
"Nid hwyluso pethau i ymwelwyr ydi hynny, ond rhoi ymdeimlad i bobl mai nhw biau'r lle.
"Ond nid nhw biau'r lle - ni biau'r lle, a'n henwau ni sydd ar y lle."
Dywedodd y cyfreithiwr Simon Chandler, sydd wedi gweithio gyda Chymdeithas yr Iaith ar y mater, eu bod nhw'n gobeithio gweld Llywodraeth Cymru'n cyflwyno deddfau cryfach maes o law.
"Mae bob person sy'n berchen ar dŷ, yn y bôn yn geidwad ar yr enw Cymraeg arno," meddai.
"Felly heb ddeddfwriaeth, neu heb i'r person yna wneud rhywbeth, ni fydd yna geidwad ar yr enw hwnnw wedyn ar ôl i berchnogaeth y person hwnnw ddod i ben.
"Mae'r cynllun yn ceisio adfer hynny yn y cyfamser wrth i ni aros am ddeddfwriaeth."
Ond yn ôl Howard Huws, rhaid peidio wastad dibynnu ar y llywodraeth i fod yn llwyr gyfrifol.
"Mae o'n gyfrifoldeb ar y llywodraeth, ac mae'n gyfrifoldeb arna ninnau hefyd - bob un ohonon ni," meddai.
Ar faes yr Eisteddfod - fel y disgwyl efallai - roedd y farn yn gytûn.
"Os ydyn nhw'n cyfieithu geiriau Cymraeg yn llythrennol weithiau 'dych chi'n colli rhywfaint ar hanes a threftadaeth y geiriau," meddai Heledd Llwyd, 28, o Gaerfyrddin.
Ychwanegodd Gwenno Ffrancon, 40, o Bontardawe bod newid enwau lleoedd yn cael "effaith negyddol iawn ar gymunedau".
"Mae enwau wedi bod yno ers canrifoedd, ac mae'n anodd iawn i genedlaethau'r dyfodol wybod yr hanes [os 'dych chi'n eu newid," meddai.
Symudodd David ac Anne Landon-Hogg i Geredigion dair blynedd yn ôl - a newid enw eu tŷ o'r Saesneg i'r Gymraeg.
"Naethon ni ddod o hyd i'r tŷ roedden ni eisiau a'r enw oedd Park View," meddai David, 69.
"Newidion ni fe i Tŷ ar Gynnydd gan ei fod e'n golygu 'house on the rise', oherwydd y golygfeydd hardd ac am ein bod ni nawr yn byw yng Nghymru am un antur olaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2022