Gemau rhagbrofol Cwpan y Byd: Groeg 0-1 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Gwyliwch gôl gyntaf Carrie Jones i'r tîm cenedlaethol yn erbyn Groeg

Mae gobeithion Cymru o sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle ar gyfer Cwpan y Byd 2023 yn parhau yn eu dwylo eu hunain wedi iddyn nhw drechu Groeg oddi cartref nos Wener.

Daeth unig gôl y gêm wedi ychydig dros hanner awr, gyda Carrie Jones yn manteisio ar ychydig o flerwch yn y cwrt cosbi i sgorio ei gôl gyntaf i'r tîm cenedlaethol.

Mae'r canlyniad yn cadw Cymru yn yr ail safle yng Ngrŵp I, wyth pwynt tu ôl i Ffrainc, ond yn allweddol, ddau bwynt ar y blaen i Slofenia - wnaeth drechu Kazakhstan o 2-0 ddydd Gwener.

Fe fydd Cymru nawr yn wynebu Slofenia yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth i benderfynu pa wlad fydd yn selio eu lle yn y gemau ail gyfle.

Bydd pwynt yn ddigon i Gymru, tra bo'r ymwelwyr angen buddugoliaeth i gipio'r ail safle o afael Cymru.

Fe fydd yr ornest honno'n cael ei chwarae o flaen y dorf fwyaf erioed i wylio tîm merched Cymru, gyda thua 10,000 o docynnau eisoes wedi'u gwerthu.