Y Bencampwriaeth: Abertawe 1-0 Queens Park Rangers

  • Cyhoeddwyd
Joël PiroeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Joël Piroe bellach wedi sgorio tair gwaith mewn tair gêm i'r Elyrch

Llwyddodd Abertawe i sicrhau eu buddugoliaeth gartref gyntaf o'r tymor brynhawn Sadwrn wrth iddyn nhw drechu Queens Park Rangers o 1-0.

Cafodd yr Elyrch gyfle euraidd i fynd ar y blaen ar ôl chwarter awr, wrth i Jimmy Dunne lawio'r bêl yn y cwrt cosbi gan arwain at gic o'r smotyn i'r tîm cartref.

Llwyddodd y golwr Seny Dieng i arbed ergyd Joël Piroe o 12 llath, ond o fewn munudau roedd Piroe wedi gwneud yn iawn am hynny trwy sgorio unig gôl y gêm yn dilyn gwaith da gan Ollie Cooper.

Mae'r canlyniad yn gweld yr Elyrch yn codi i'r 17eg safle yn y Bencampwriaeth wedi wyth gêm.