Trafod 'opsiynau' ar gyfer cyfrolau'r Eisteddfod Genedlaethol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
CyfansoddiadauFfynhonnell y llun, Cyngor Llyfrau Cymru

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn edrych ar amrywiol opsiynau ar gyfer cyhoeddi eu holl gyfrolau blynyddol, meddai llefarydd ar ran y brifwyl.

Mae un rheolwr siop yn teimlo bod llai o gyfansoddiadau'r brifwyl wedi'u hargraffu eleni nag yn y gorffennol.

Dywed rheolwyr siopau llyfrau bod y galw am gyfrol Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Ceredigion 2022 wedi bod yn anhygoel o uchel o gymharu â blynyddoedd blaenorol.

Mewn datganiad noda'r Eisteddfod bod yr un nifer o gyfrolau wedi'u cyhoeddi ag arfer ond "yn aml gall gwerthiant y cyfansoddiadau fod yn ddibynnol ar boblogrwydd neu broffil yr enillwyr".

"Yn bendant, bu'r ffaith bod tair merch o ddalgylch yr Eisteddfod nesaf wedi ennill tair o'n prif wobrau'n hwb i werthiant eleni," medd llefarydd.

"Doedd hi ddim yn syndod yma ym Mhwllheli, wrth gwrs, bod y galw yn fawr ond dim ond 58 copi o'r cyfansoddiadau ges i gan y Cyngor Llyfrau a dwi'n arfer cael 100," medd Llifon Jones o Llên Llŷn.

"Pan glywais i bod Esyllt Maelor o Forfa Nefyn wedi ennill y goron fe wnes i archebu mwy - ond doedd dim gobaith o gael chwaneg."

Mae cynhyrchion Y Fedal Ryddiaith a Medal Daniel Owen wedi bod yn boblogaidd hefyd, medd Mr Jones, ond mae 'Capten' gan Meinir Pierce Jones eisoes wedi'i ailargraffu gan mai penderfyniad y wasg yw hynny ac nid yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tair o'r rhai oedd yn fuddugol yn Eisteddfod Ceredigion yn dod o Ben Llŷn

Wrth i'r Eisteddfod Genedlaethol ystyried amrywiol opsiynau yr hyn sy'n bwysig yw na fydd y cyfansoddiadau'n cael eu cyhoeddi'n ddigidol, meddai Gwyn Siôn Ifan, rheolwr siop Awen Meirion yn Y Bala.

"Roedd y ffôn yn andros o boeth wythnos wedi'r Steddfod gyda phobl o bob cwr o Gymru yn chwilio am gyfansoddiadau.

"Mae'n teimlo fel bod llai o gyfansoddiadau wedi'u hargraffu a dwi ryw gredu efallai y dylid fod wedi ystyried cyhoeddi mwy.

"Wedi'r cyfan mae'r Steddfod yn gwybod pwy sy'n fuddugol. Yn draddodiadol mae gwerthiant mewn eisteddfod ardal wledig yn uwch a phan mae rhywun yn clywed bod mwy nag un yn deilwng mae'r gwerthiant yn uwch eto."

'Erioed wedi gweld blwyddyn fel 'leni'

"Dan ni'n gwerthu lot ar faes y brifwyl ond fe fyddai i wastad yn cadw rhai ar gyfer y siop," ychwanegodd Mr Ifan.

"Wedi'r cyfan dyw pawb ddim yn gallu mynd i'r brifwyl ac mae'n bwysig cadw'r cyfrolau ar gyfer y bobl hynny.

"Dwi erioed wedi gweld blwyddyn fel eleni - degau ar ddegau yn gofyn am y Cyfansoddiadau yr wythnos gynta' 'na ar ôl y Steddfod.

"Dwi ddim wedi bod yn y sefyllfa yma erioed o'r blaen ac mae pobl yn dal i ofyn 'oes gynnoch chi gopïau?'."

Ychwanegodd Mr Ifan mai'r hyn sy'n bwysig yw deall natur y cyfansoddiadau buddugol yn gynnar a mesur pa mor boblogaidd y gallant fod.

"I fod yn deg dwi'm yn meddwl mai ail-argraffu yw'r ateb ond yn hytrach argraffu digon yn y lle cyntaf.

"Mae bwrlwm y cyfansoddiadau'n pylu wedi'r wythnosau cyntaf 'na - ydy, mae'n gyfrol hynod o werthfawr am bris rhesymol.

"Ond 'nai dd'eud eto, dwi'n erfyn ar y brifwyl i beidio â'u cyhoeddi yn ddigidol."

Ffynhonnell y llun, Cyngor Llyfrau
Disgrifiad o’r llun,

Roedd colli gwerthiant llyfrau'r Brifwyl yn ergyd i'r Cyngor Llyfrau yn 2020

Roedd yna alw mawr, hefyd, am restr testunau Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni.

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cadarnhau y bydd y rhestr testunau i'w gweld yn ddigidol ar-lein cyn bo hir, ac yn 2023 am y tro cyntaf bydd hi'n bosib anfon y cyfansoddiadau ar-lein - yn y gorffennol mae wedi bod yn ofynnol i gystadleuwyr eu postio.

"Bydd ein porth cystadlu'n agor ar-lein dros y gaeaf, a dyma fydd y ffordd i gymryd rhan yn ein cystadlaethau cyfansoddi yn ogystal â llwyfan wrth edrych i'r dyfodol", medd yr Eisteddfod Genedlaethol.

"Byddwn yn cyhoeddi ein rhestr testunau'n electronig ar-lein cyn hynny."

'Gall y Cyfansoddiadau fod yn e-lyfr'

Ym mis Chwefror 2021 dywedodd y Cyngor Llyfrau bod colli cyfrolau'r Eisteddfod - Y Rhaglen, Y Cyfansoddiadau, Y Fedal a'r Daniel Owen - wedi costio oddeutu £100,000 i'r diwydiant llyfrau yn ei gyfanrwydd.

O ran cyfansoddiadau'r Eisteddfod Genedlaethol dywedodd R. Arwel Jones, Pennaeth Datblygu Cyhoeddi y Cyngor Llyfrau mai mater i'r Eisteddfod yw'r Cyfansoddiadau, a nhw sy'n gwybod faint a gyhoeddwyd.

"Mae'r rhan fwyaf o lyfrau Cymraeg bellach yn cael eu cyhoeddi fel e-lyfrau o fewn rhai wythnosau i'w cyhoeddi ar bapur - mae Rhyngom - Sioned Erin Hughes eisoes ar gael ar ffolio.cymru ac os ydy'r Eisteddfod yn dewis cyhoeddi'r Cyfansoddiadau fel e-lyfrau fe fyddai croeso iddyn nhw ar y platfform hwnnw", meddai.

"Mae e-lyfrau yn cynnig dewis arall pwysig i ddarllenwyr ond yn dal yn ganran fechan o'r gwerthiant yn gyffredinol - ar draws y diwydiant maen nhw'n cyfri am tua 5% o'r gwerthiant."