Morfa Bychan: Gwersyllwyr 'yn gwagio'u toiledau' ar dwyni tywod

  • Cyhoeddwyd
arwydd parcio

Mae trigolion yn ardal Porthmadog wedi galw am weithredu brys i atal perchnogion faniau gwersylla rhag parcio dros nos ar un o draethau poblogaidd yr ardal.

Yn ôl pobl leol, mae perchnogion y cerbydau wedi bod yn gadael sbwriel ar eu holau a thywallt carthion i'r twyni tywod gerllaw ar draeth poblogaidd y Graig Ddu ym Morfa Bychan.

Mae'r rheolau presennol yn dweud fod yn rhaid i geir a cherbydau adael y traeth erbyn 20:00, pan mae swyddogion Cyngor Gwynedd wedyn yn cau'r giatiau.

Ond mae perchnogion rhai cartrefi modur wedi bod yn aros dros nos ar y traeth beth bynnag.

Mae hynny wedi corddi rhai trigolion sy'n eu cyhuddo o achosi problemau ar y traeth ac ar ffyrdd culion yr ardal.

'Dim pŵer gan y staff'

Dywedodd Karen Davies, sy'n byw yn lleol, fod y trafferthion yno yn gwaethygu.

"Mae 'na broblem efo sbwriel," meddai.

"Mae pobl leol wedi bod yn clirio sbwriel i fyny yn eu lle nhw… roedd 'na fynydd mawr o sbwriel un noson hefyd.

"Maen nhw'n gwagio, medden nhw, y pethau toilet waste yn y twyni tywod ac mae hwnnw i fod yn lle natur mewn ffordd. Mae hynna'n llygru."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Karen Davies (dde) yn dweud fod pobl leol wedi gorfod clirio ar ôl perchnogion y faniau gwersylla

Y cynghorydd Gwilym Jones sy'n cynrychioli'r ardal ar Gyngor Gwynedd, a dywedodd bod angen cael is-ddeddf newydd er mwyn i swyddogion Cyngor Gwynedd ar draeth Morfa Bychan allu dirwyo pobl sy'n torri'r rheolau.

"Does gan y staff morwrol ddim pŵer i roi dirwy i'r bobl 'ma sy'n parcio," meddai.

"Dwi wedi ysgrifennu'n barod at bennaeth adran gyfreithiol y cyngor i ofyn iddo be' ydy'r ffordd ymlaen efo hyn.

"Mae'n rhaid gwneud rhywbeth. Dydw i ddim yn gweld ateb arall a dweud y gwir, heblaw cael y pŵer yma i'r staff."

Disgrifiad o’r llun,

Mae traeth Morfa Bychan yn un fflat a llydan, sy'n golygu ei fod yn boblogaidd gyda cherbydau

Ar hyn o bryd mae Cyngor Gwynedd yn ystyried cynlluniau ar gyfer arhosfan penodol ar gyfer faniau gwersylla a chartrefi modur fel "datrysiad ehangach".

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor fod "miloedd ar filoedd o bobl" wedi bod yn ymweld â'r traeth unwaith eto eleni, gan roi "pwysau aruthrol ar yr isadeiledd lleol ac ar ein swyddogion".

"O safbwynt y traethau yma, ein blaenoriaeth ydi sicrhau amgylchedd ac adnoddau diogel, ac annog ymwelwyr i fwynhau'r arfordir yn ddiogel a chyfrifol gan barchu'r amgylchedd a chymunedau lleol," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwilym Jones yn dweud bod angen mwy o rym ar swyddogion i fedru gweithredu

Ychwanegodd bod y rhan fwyaf o berchnogion cerbydau yn parchu'r rheolau sy'n gofyn iddyn nhw adael erbyn 20:00, ond bod "achosion yn fwy diweddar lle mae lleiafrif bychan unai yn gwrthod neu yn methu gadael y safle".

"O ganlyniad, byddwn yn ystyried trefniadau ychwanegol i'r dyfodol er mwyn delio gydag achosion o'r fath, gan gymryd camau gorfodaeth ffurfiol er mwyn gwarchod amwynderau lleol," meddai.

Pynciau cysylltiedig