Ail-fyw cerddoriaeth fyw ar ddiwedd Haf o Gerddoriaeth

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Uchafbwyntiau o ddiwrnod i ddathlu cerddoriaeth fyw, gyda Chôr y Penrhyn, Rhys Taylor a'r Band, Sage Todz, Joseff o'r Cledrau, Eve Goodman a Iona ac Andy

Wrth i Haf o Gerddoriaeth ddod i ben daeth llu o artistiaid i berfformio'n fyw ar BBC Radio Cymru - a nawr gallwch ail-fyw'r sesiynau a setiau bandiau ym mhrif wyliau Cymru ar BBC Sounds.

Ar Ddiwrnod Cerddoriaeth Fyw ar 7 Medi roedd artistiaid fel Bwncath, Côr y Penrhyn, Sage Todz, Trystan Llŷr, Eve Goodman a Iona ac Andy yn cael eu darlledu'n fyw ar raglenni'r sianel.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd sesiynau Diwrnod Cerddoriaeth Fyw, yn cynnwys un Bwncath, eu darlledu ar Radio Cymru 2 ar ddydd Sul Medi 11 cyn cael eu rhyddhau ar BBC Sounds

Roedd y cyfan yn ddiweddglo i Haf o Gerddoriaeth, pan gafodd nifer o berfformiadau o wyliau cerddorol Cymru, yn cynnwys Gŵyl Triban, Tafwyl, Sesiwn Fawr Dolgellau a'r Eisteddfod Genedlaethol, eu darlledu gan Radio Cymru.

Mae'r cyfan, yn cynnwys Diwrnod Cerddoriaeth Fyw BBC Cymru, nawr ar gael yma ar BBC Sounds.

Disgrifiad o’r llun,

Y ddeuawd canu gwlad Iona ac Andy yng nghanolfan y BBC ym Mryn Meirion, Bangor, ar Ddiwrnod Cerddoriaeth Fyw BBC Cymru

Disgrifiad o’r llun,

Côr y Penrhyn yn ei morio hi yn fyw ar raglen Aled Hughes

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Eve Goodman yn perfformio'n fyw ar raglen Ifan Evans

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig