Cwpan y Byd: Cymru i wynebu Bosnia yn y gemau ail gyfle
- Cyhoeddwyd
Bydd tîm merched Cymru yn wynebu Bosnia-Herzegovina gartref fis nesaf yn rownd gynderfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd.
Os ydy carfan Gemma Grainger yn llwyddo i oresgyn y Bosniaid, yna fe fyddan nhw'n teithio i'r Swistir ar gyfer y rownd derfynol bum niwrnod yn ddiweddarach.
Fe sicrhaodd Cymru eu lle yn y gemau ail gyfle am y tro cyntaf erioed yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Slofenia yn Stadiwm Dinas Caerdydd yr wythnos hon.
Digwyddodd hynny o flaen y dorf fwyaf erioed - 12,741 - i wylio'r tîm yng Nghymru, wrth iddyn nhw geisio cyrraedd y twrnament yn Awstralia a Seland Newydd y flwyddyn nesaf.
Dwy gêm - os nad tair
Bydd Cymru'n herio Bosnia ar ddydd Iau 6 Hydref yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda'r gic gyntaf am 19:15.
Os ydyn nhw'n ennill, fe fyddan nhw wedyn yn wynebu'r Swistir oddi cartref ar 11 Hydref, gyda lleoliad yr ornest honno i'w chadarnhau.
Mae Cymru ar hyn o bryd yn 30fed yn y byd ar restr detholion FIFA - mae Bosnia yn 63ain, tra bod Y Swistir yn 21ain.
Fe wnaeth Cymru drechu Bosnia ddwywaith yn ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd 2017, pan orffennon nhw'n ail yn y grŵp y tu ôl i Loegr.
Y tro diwethaf iddyn nhw herio'r Swistir oedd yng nghystadleuaeth Cwpan Cyprus yn 2018, pan gawson nhw gêm gyfartal ddi-sgôr.
Yng ngemau eraill y gemau ail gyfle bydd Yr Alban yn wynebu Awstria a'r enillydd yn herio Gweriniaeth Iwerddon, a bydd Portiwgal yn chwarae Gwlad Belg gyda'r enillydd yn wynebu Gwlad yr Ia.
Dim ond dau o'r tri enillydd yn rowndiau terfynol y gemau ail gyfle fydd yn mynd yn syth i Gwpan y Byd - bydd y trydydd yn gorfod wynebu un rownd ychwanegol o gemau ail gyfle, a'r rheiny i'w chwarae yn Seland Newydd.
Oherwydd bod Cymru'n wythfed allan o naw ar hyn o bryd yn rhestr detholion y timau sydd yn y gemau ail gyfle, mae'n debygol iawn mai nhw fyddai'r tîm fyddai'n gorfod teithio i Seland Newydd am gêm ychwanegol petaen nhw'n ennill eu dwy gyntaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2022