Tywysog Cymru newydd - ond a fydd seremoni arwisgo?
- Cyhoeddwyd
Bachgen naw oed oedd Brenin Charles III pan gafodd ei gyhoeddi yn Dywysog Cymru.
Mae'n dweud ei fod yn cofio'r teimlad o embaras wrth eistedd yn swyddfa ei bennaeth ysgol gyda'i ffrindiau, wrth iddyn nhw wylio ei fam yn gwneud y cyhoeddiad ar y teledu.
"Rwy'n bwriadu gwneud fy mab, Charles, yn Dywysog Cymru, heddiw," cyhoeddodd y Frenhines Elizabeth II mewn neges wedi'i recordio o flaen llaw, gafodd ei chwarae ar ddiwedd Gemau Ymerodraeth 1958 yng Nghaerdydd.
Roedd modd clywed ei datganiad yn atseinio: "Pan fydd Charles yn oedolyn, mi fyddaf yn ei gyflwyno i chi yng Nghaernarfon."
Cyfnod o groeso
Wrth glywed y cyhoeddiad fe wnaeth y dorf lawenhau bod traddodiad o ganrifoedd yn parhau - y byddai etifedd yr orsedd yn cael ei adnabod fel Tywysog Cymru. Byddai'r amseru yn rhoi cyfle i'r tywysog ifanc, a'r wlad, ddod i arfer â'r syniad.
Yn yr 1950au roedd Cymru'n aelod weddol gyfforddus o'r Deyrnas Unedig, gyda phrin unrhyw sôn o hanes teitl Tywysog Cymru - hanes gwaedlyd ar adegau.
Fe wnaeth y cyn-dywysog, aeth ymlaen i ddod yn Edward VIII, hyd yn oed ddod yn gymharol boblogaidd yn y cymoedd diwydiannol.
Fe wnaeth ei ymgais i dynnu sylw at ddiweithdra cynyddol yn ne Cymru yn yr 1930au arwain at gamddyfyniad cyffredin: "Mae'n rhaid i rywbeth gael ei wneud."
Ei wir sylwadau, fel y cawsant eu cofnodi gan y Western Mail yn 1936, oedd y "dylai rhywbeth gael ei wneud i'w cael nhw yn gweithio eto", wrth i Edward ymweld â gweithfeydd adfeiliedig haearn a dur Dowlais.
Er iddo wedyn ildio'r goron, roedd y tosturi a ddangosodd ar y pryd yn golygu bod llawer yn ne Cymru yn dal i gydymdeimlo â'r Brenin roddodd y gorau i'w orsedd.
Erbyn arwisgiad Charles fel Tywysog Cymru yn 1969 roedd y byd, a Chymru, wedi newid.
Cafodd protestiadau eu cynllunio ar gyfer y seremoni yng Nghastell Caernarfon, ble roedd digwyddiad lliwgar a gwleidyddol ei natur wedi ei gynllunio er mwyn cyflwyno Charles i'r byd.
Roedd y rheiny oedd yn gwrthwynebu'r arwisgiad wedi eu hysbrydoli gan y Tywysogion Cymreig gafodd eu trechu yn y Canol Oesoedd, wrth i'r brenhinoedd Saesnig eu gormesu a'u gorchfygu fel arweinwyr Cymru.
Wedi i Llywelyn ap Gruffudd gael ei ladd yn 1282, fyddai'r un Cymro'n dal teitl Tywysog Cymru eto.
Arwisgiad arall?
Er bod y croeso i Charles yng Nghymru fel arfer yn gynnes, roedd gwrthwynebiad weithiau'n dod i'r amlwg yn ystod ei gyfnod fel Tywysog Cymru.
Ond fel yr un a ddaliodd y teitl yn hirach na neb arall, fe greodd gysylltiadau gyda nifer o sefydliadau oedd yn adlewyrchu bywyd cymdeithasol Cymru dros y blynyddoedd.
Ym mis Gorffennaf eleni fe wnaeth dros 1,500 o bobl ymgynull ar stryd fawr Treorci i groesawu Charles a Camilla i'r dref.
Yn ddiweddarach y noson honno fe wnaeth llysgenhadon tramor ymuno â'r Tywysog yn ei gartref Cymreig, Llwynywermod, i fwynhau perfformiadau gan fyfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac i gyfarfod â phobl fusnes Cymreig.
Roedd Charles wastad yn brysur yng Nghymru, gyda nifer o ymrwymiadau y bydd yn ei chael hi'n anodd rhoi gorau iddynt.
Pan wnaeth y Brenin Charles III annerch y genedl ddydd Gwener, roedd ychydig o syndod wrth iddo gyhoeddi y byddai ei fab, William, yn derbyn teitl Tywysog Cymru.
Nid oherwydd bod hynny'n gam annisgwyl, ond oherwydd ei fod wedi digwydd yn llawer mwy sydyn nag yr oedd llawer wedi ei ragweld.
I'r rheiny sy'n gyfarwydd â llwybr hir Charles tuag at ddod yn Dywysog Cymru, roedd disgwyliad wedi datblygu y byddai'r Brenin newydd yn gadael dyfodol y teitl ar gyfer rhywbryd eto.
"Roedd yn annisgwyl i mi. Fe ges i dipyn o sioc," meddai Dr Mari Wiliam, darlithydd mewn hanes modern ym Mhrifysgol Bangor.
Mae Dr Wiliam yn disgwyl i unrhyw seremoni ar gyfer y Tywysog Cymru newydd fod yn llawer llai nag arwisgiad Charles - os yw'n digwydd o gwbl.
"Does dim angen cael seremoni," meddai. "Mae llawer o bobl, yn enwedig Charles, yn gwybod pa drafferthion a gafwyd yn 1969.
"Mae hyn i gyd yn dibynnu ar wleidyddiaeth y cyfnod. 'Nôl yn 1911 roedd Lloyd George yn torri bol eisiau cael arwisgiad yng Nghaernarfon er mwyn ei yrfa wleidyddol ei hun, ond hefyd i ddatblygu statws Cymru.
"Oherwydd datganoli a rôl y Senedd, mae Cymru nawr yn wlad fwy aeddfed nag yr oedd hi bryd hynny. Felly efallai nad oes ei angen."
'Datganoli' yn y frenhiniaeth?
Roedd cwestiynau hefyd ynghylch a fyddai'r palas yn gofyn am gefnogaeth Llywodraeth Cymru cyn cyhoeddi Tywysog Cymru newydd.
Doedd llywodraeth na Senedd Cymru ddim yn bodoli yn 1969, sy'n dangos cymaint mae'r Deyrnas Unedig wedi newid yn ystod teyrnasiad Elizabeth II.
Dyw'r llywodraeth na'r palas wedi cadarnhau a gafwyd unrhyw drafodaethau. Yn fuan wedi araith y Brenin, fe wnaeth Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford drydar bod Cymru'n "edrych ymlaen at ddatblygu perthynas ddyfnach gyda'r Tywysog a Thywysoges newydd".
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price y dylai trafodaeth gyhoeddus ddigwydd "maes o law... ynghylch Tywysog Cymru".
Roedd un o'i ragflaenwyr, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, yn ystyried Charles fel ffrind.
Ar ddiwrnod marwolaeth y Frenhines, dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas ei bod hi'n bryd dod â theitl Tywysog Cymru i ben oherwydd ei symboliaeth hanesyddol.
Ond nawr ei bod hi'n amlwg y bydd hynny'n parhau, mae am i bethau fod yn wahanol o dan William.
"Os oes aelod o'r teulu brenhinol am fod â chyfrifoldeb penodol dros Gymru, rydyn ni'n sôn am ddatganoli mewnol o fewn y frenhiniaeth," meddai.
"Dwi ddim yn meddwl ein bod ni wedi ystyried yn llawn eto beth allai hynny olygu, a beth yw'r posibiliadau."
Ychwanegodd: "Beth rydw i eisiau sicrhau yw bod hyn wedi cael ei ystyried yn ofalus, a'n bod ni'n rhoi'r gefnogaeth angenrheidiol iddyn nhw.
"Y peth da am William a Catherine yw bod ganddyn nhw brofiad o fyw yng Nghymru, ac mae hynny'n bwysig."
'Angerdd' dros Gymru
Fe wnaeth arolwg barn yn 2018 i ITV ganfod bod 57% o bobl Cymru'n credu y dylai William gael teitl Tywysog Cymru os oedd Charles yn dod yn Frenin, tra bod 22% yn credu y dylai'r teitl gael ei ddiddymu.
Mae'r ffigyrau'n ategu canfyddiadau arolwg gan y BBC yn 2009, gyda 58% o bobl yn dweud y dylai Tywysog Cymru newydd fod wedi i Charles esgyn i'r orsedd.
Dywedodd cyn-Ysgrifennydd Cymru, yr Arglwydd Peter Hain: "Dwi wedi gweld ei angerdd dros Gymru yn Stadiwm y Mileniwm, wrth floeddio ei gefnogaeth i dîm rygbi Cymru.
"Rydw i wedi gweld ei frwdfrydedd personol dros fywyd Cymreig a phopeth yng Nghymru rydyn ni'n falch ohono."
Ychwanegodd y byddai "William yn ychwanegu gwerth sylweddol" i deitl Tywysog Cymru.
"Mae'n adnabyddus ar draws y byd, mae'n ifanc, yn fodern ac yn deall beth sy'n mynd ymlaen. Dwi'n meddwl y bydd yn Dywysog Cymru gwych."
Mae William nawr yn cael ei adnabod fel Tywysog Cymru, a'i gyfrifoldeb ef fydd magu perthynas gyda sefydliadau ac elusennau fan hyn.
Mae ganddo rai cysylltiadau eisoes, ar ôl gwasanaethu gyda'r Awyrlu ar Ynys Môn a bod yn noddwr ar Undeb Rygbi Cymru.
Bydd William yn wynebu'r un gwrthwynebiad a wnaeth ei dad, yn ogystal â'r anogaeth gynnes a gafodd Charles hefyd.
I Catherine hefyd mae'n bosib y bydd ychydig o anesmwythdod i ddechrau. Mae'n cymryd teitl Tywysoges Cymru sydd mor gysylltiedig â mam William, Diana.
Dywedodd ffynhonell brenhinol fod Catherine yn "gwerthfawrogi'r hanes" ac yn "edrych tua'r dyfodol" wrth iddi ymgymryd â'r rôl.
Mae Charles yn gadael rôl Tywysog Cymru ar ôl magu perthynas waith agos gyda dwsinau o elusennau a sefydliadau, yn ogystal â chyfeillgarwch agosach â rhai.
Bydd yn rhaid i William benderfynu a yw'n camu i mewn i'r rolau hynny, neu'n creu llwybr ei hun fel y Tywysog Cymru diweddaraf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Medi 2022
- Cyhoeddwyd10 Medi 2022
- Cyhoeddwyd10 Medi 2022