Proclamasiwn i'r Brenin Charles III yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Y gynnau'n tanio yng Nghastell Caerdydd i nodi'r proclamasiwn

Roedd disgwyl miloedd o bobl yng nghanol Caerdydd ddydd Sul wrth i'r Brenin Charles III gael ei gyhoeddi'n Frenin yn swyddogol yng Nghymru.

Cafodd y cyhoeddiad yn cael ei wneud yng Nghastell Caerdydd, gyda nifer o westeion pwysig yn bresennol.

Daeth y Brenin Charles III i'r orsedd ar ôl marwolaeth ei fam, Elisabeth II, yn Balmoral ddydd Iau.

Cafodd ei gyhoeddi yn sofran newydd mewn seremoni ym Mhalas St James ddydd Sadwrn.

Trefn y dydd

Am 11:25 fe orymdeithiodd Warchodlu Cyhoeddi o 26 o ddynion y trydydd Bataliwn y Cymry Brenhinol a Band y Cymry Brenhinol o Neuadd y Ddinas i Gastell Caerdydd.

Fe alwodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ar Herodr Cymru - Thomas Lloyd OBE - i ddarllen y Cyhoeddiad yn Saesneg am hanner dydd. Arglwydd Is-Gapten De Morgannwg - Mrs Morfudd Meredith - wnaeth ei ddarllen yn Gymraeg.

Disgrifiad o’r llun,

Y llwyfan yn barod ar gyfer y Proclamasiwn yng Nghastell Caerdydd ddydd Sul

Dywedodd Mrs Meredith: "Mae'n fraint ac yn anrhydedd i mi fod yn ei wneud ac yn amlwg mae'n achlysur hanesyddol.

"Rwy'n ymwybodol iawn o hanes y Cyngor Derbyn sy'n dyddio yn ôl i gyfnod y Normaniaid."

Wrth fynegi barn ar y brenin newydd, ychwanegodd: "Rhaid i mi ddweud ei fod yn gydwybodol iawn.

"Mae'r hyn y mae wedi'i wneud dros Gymru gyda'i elusennau yn wych. Rydyn ni'n ddiolchgar iawn iddo am yr hyn mae'n ei wneud yn gyffredinol."

Ffynhonnell y llun, MOLLY DARLINGTON
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd gynnau'n tanio ddydd Sadwrn hefyd wedi i'r Proclamasiwn gael ei ddarllen yn Llundain

Cafodd gynnau eu tanio 21 o weithiau yn dilyn y darlleniadau, a bydd God Save the King a Hen Wlad Fy Nhadau yn cael eu canu wedi hynny.

Roedd yr un Cyhoeddiadau'n digwydd yng Nghaeredin a Belfast hefyd.

Trefn y dydd:

  • 10:00 - Aelodau'r cyhoedd yn cael mynd i mewn i'r castell;

  • 10:45 - Aelodau milwrol i sefyll ar hyd y llwybr o'r bont godi i dir y parêd;

  • 11:25 - Gorymdaith y Gwarchodlu Cyhoeddi o Neuadd y Ddinas i'r castell;

  • 12:00 - Darllen y Proclamasiwn.

Cau'r strydoedd

Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhai pobl wedi dechrau ciwio tu allan i Gastell Caerdydd ers yn gynnar fore Sul

Ymhlith y gwesteion a wahoddwyd i'r castell mae holl Aelodau'r Senedd, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a rhai o brif aelodau'r Fyddin, y Llynges a'r Awyrlu.

Mae Maer Dinas a Sir Caerdydd hefyd yn bresennol. Dywedodd Cynghorydd Graham Hinchey: "Rwy'n meddwl y bydd yn achlysur arbennig iawn ond hefyd yn achlysur difrifol iawn, ac yn achlysur trist oherwydd marwolaeth y Frenhines sy'n cael ei charu'n fawr gan y genedl.

"Ond mae'n ddathliad hefyd o'r Brenin newydd. Rwy'n credu bod pobl yn chwilio am obaith ar ôl y pandemig ac rwy'n credu bod rhai o syniadau Charles ddaeth o'i araith gyntaf fel Brenin wedi cael eu derbyn yn dda gan y genedl."

Gwahoddwyd tua 2,000 o aelodau'r cyhoedd hefyd, ac roedd mynediad i'r castell ar sail y cyntaf i'r felin.

Disgrifiad o’r llun,

Milwyr yn gorymdeithio yng Nghastell Caerdydd cyn i'r gynnau danio i nodi'r proclamasiwn ddydd Sadwrn

Mae holl ffyrdd canol dinas Caerdydd ar gau rhwng 07:00 a 14:00.

Mae awdurdodau lleol ar draws Cymru yn cynnal seremonïau cyhoeddi yn ystod y dydd hefyd.

Yn dilyn y seremoni yn y castell, mae Aelodau'r Senedd yn dychwelyd i Fae Caerdydd i dalu teyrnged i'r Frenhines yn ystod sesiwn arbennig am 15:00.

Pynciau cysylltiedig