Cyhuddo dyn, 19, o lofruddiaeth yn Rhydaman
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 19 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn, 22, yn Rhydaman.
Bu farw Cameron Lindley yn ei gartref am 20:50 nos Iau wedi iddo gael ei anafu'n ddifrifol.
Ddydd Sul fe wnaeth Heddlu Dyfed-Powys gadarnhau bod dyn o Gastell-nedd wedi'i gyhuddo o'i lofruddio.
Fe fydd yn ymddangos ger bron Llys Ynadon Llanelli ddydd Llun.
Mewn datganiad mae teulu Mr Lindley wedi ei ddisgrifio fel "ŵyr, mab, brawd ac ewythr annwyl".