Y Bencampwriaeth: Middlesbrough 2-3 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Roedd yna fuddugoliaeth wych i'r Adar Gleision oddi cartref yn erbyn Middlesbrough nos Fawrth wrth i'r tîm berfformio yn well nag mewn gemau blaenorol.
O fewn pedair munud yr oedd Caerdydd ar y blaen wedi i ergyd droed chwith Callum O'Dowda lanio yng nghefn y rhwyd.
Ymhen chwarter awr roedd y fantais wedi dyblu wrth i Mark Harris ergydio'n rymus i gornel uchaf y rhwyd.
Yna wrth i'r hanner cyntaf ddod i ben cafwyd trydedd gôl i'r tîm o Gymru ond y tro hwn yn gwbl annisgwyl y cefnwr Perry Ng rwydodd.
Hanner amser roedd Caerdydd yn gyfforddus o dair gôl ar y blaen.
Ond yn yr ail hanner roedd perfformiad Middlesbrough wedi gwella ac ar ôl 76 munud fe rwydodd Duncan Watmore i'w dîm a hynny o ongl eithriadol o anodd.
Ymhen munud union roedd y gêm wedi ei thrawsnewid gyda pheniad Rodrigo Muniz o groesiad Afermee Dijksteel ac roedd hi'n ddwy gôl i dair a thyrfa y Riverside wedi deffro.
Munudau olaf anodd iawn oedd hi i Gaerdydd ond dychwelyd i dde Cymru gyda thriphwynt wnaeth yr Adar Gleision
Gohiriwyd gêm gartref yr Adar Gleision yn erbyn Hull brynhawn Sadwrn yn sgil marwolaeth y Frenhines.