Y Rhondda drwy lygaid Siôn Tomos Owen

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Cymoedd yn adnabyddus trwy Gymru a thu hwnt, ond fel mae un o'r trigolion yn ddangos gyda'r lluniau yma mae'n ardal sydd hefyd yn llawn corneli difyr llai cyfarwydd.

Dyma ddelweddau'r cyflwynydd, awdur, darlunydd a storïwr Siôn Tomos Owen o'i gynefin yn y Rhondda Fawr a'r cwm nesaf - Rhondda Fach.

Linebreak
Lleoliad drws wedi ei lenwi mewn gyda bricsFfynhonnell y llun, Sion Tomos Owen
Disgrifiad o’r llun,

Drws a fu, RAFA: "Dwi'n hoff o weld olion hanes mewn ffyrdd gwahanol, dyma hen fynediad i'r 'lounge' yn y RAFA Club ar stryd fawr Treorci"

Tai Rhondda FachFfynhonnell y llun, Sion Tomos Owen
Disgrifiad o’r llun,

Teras dros y cwm, Tylorstown: "Dyma lun sdim llawer yn gweld gan ei fod ar lwybr i ben domen lo Tylorstown neu 'Old Smokey' fel mae rhai yn ei alw. Mae'n 'neud i mi feddwl am weledigaeth rheini adeiladodd y tai 'ma dros ochrau serth y Rhondda Fach"

Teras, CwmparcFfynhonnell y llun, Sion Tomos Owen
Disgrifiad o’r llun,

Teras, Cwmparc: "Mae'r cymoedd yn llawn tai teras ar bob math o onglau i fyny'r tyle fel nadroedd o gerrig a morter ond mae'r gerddi cefn yr un mor ddiddorol"

Dyn yn mynd a'i gi am droFfynhonnell y llun, Sion Tomos Owen
Disgrifiad o’r llun,

Am dro, Treorci: "Un o fy mhrif ysbrydoliaethau wrth gymryd lluniau o'r cwm yw'r lliwiau, y mynyddoedd a'r awyr mor llachar yn wrthgyferbyniad â llwyd a brown cerrig y tai a'r hewlydd"

'Sion Corn' yn edrych ar ffenest siopFfynhonnell y llun, Sion Tomos Owen
Disgrifiad o’r llun,

Pwy sy'n dŵad dros y bryn..., Treorci: "Enillodd Treorci Stryd Fawr Gorau Prydain yn 2019 ac mae'r ymdrech sy'n mynd i mewn i addurno'r ffenestri yn un o'r rhesymau rhoddodd y beirniaid. Adeg Nadolig mae 'na gystadleuaeth am ffenestr siop gorau. Dyma lun o'r beirniaid arbennig y flwyddyn ddiwethaf..."

Rhesi tai ar fynydd yn y pellterFfynhonnell y llun, Sion Tomos Owen
Disgrifiad o’r llun,

O'r Maendy, Cwmparc: "Mae'r llun yma ar draws y cwm o ochrau mynydd Bwlch y Clawdd draw at fynydd Tyle Coch yn Americanaidd iawn yn ei liwiau a'r awyr las uwch ben, ond mae'r tai dal yn ei wreiddio yn y Cymoedd"

Cefn stryd o daiFfynhonnell y llun, Sion Tomos Owen
Disgrifiad o’r llun,

Zinc, Ynyswen: "Wrth redeg drwy'r cwm dwi 'di dod i werthfawrogi bod cefn y strydoedd llawer fwy diddorol na'r blaen. Gerddi a gwlis sanctaidd. Dyma un o fy hoff gwlis yn yr haf ar hyd Afon Rhondda"

Boyd Clack yn lansio llyfr mewn clwb glowyrFfynhonnell y llun, Sion Tomos Owen
Disgrifiad o’r llun,

Boyd a beunydd, Ely Valley Miners Welfare Club: "Noson lansio llyfr Boyd Clack yn Nghlwb Lles Glowyr Coed Ely oedd hwn, clwb traddodiadol sydd heb newid llawer ac roedd Boyd, mab yr ardal yn 'holding court' o'r bwrdd 'pool'"

Twnel o dan y fforddFfynhonnell y llun, Sion Tomos Owen
Disgrifiad o’r llun,

Twnel y Gwli, Treorci: "Mae yna nifer o gwlis yn y cwm ond mae gan Dreorci nifer o gwlis sydd yn mynd trwy'r strydoedd yn llythrennol, lle perffaith i osgoi'r glaw neu i fyfyrio am foment wrth grwydro"

Merch wedi gwisgo mewn gwisg draddodiadol Cymreig a bwts llederFfynhonnell y llun, Sion Tomos Owen
Disgrifiad o’r llun,

Menyw fach Cidweli Newydd, Treorci: "Gymres i hwn o'n merch hyna' ar fore Dydd Gŵyl Dewi, 2021. Dwi'n dwli ar yr ystum cŵl hyderus sydd ganddi yn sefyll mewn gwisg draddodiadol gyda Docs a siaced pyffa mewn gwli"

Neadd sincFfynhonnell y llun, Sion Tomos Owen
Disgrifiad o’r llun,

Neuadd Las, Tynewydd: "Dim ond yn 2019 darganfyddes y neuadd fach yma, wedi ei osod ychydig nôl o'r lôn fawr yn Tynewydd. Mae 'di cael ei adnewyddu erbyn hyn a'r coed 'di clirio felly dwi'n falch dalies i fe"

Plentyn yn edrych i lawr am y cwmFfynhonnell y llun, Sion Tomos Owen
Disgrifiad o’r llun,

Machlud a mwnci, Glyncolli: "Dyma'r cae gyferbyn a thŷ Mam a Dad, y cae chwaraeais arno pan o'n i'n blentyn ond nes i byth mwynhau machlud gymaint â'r un yma, roedd y mis Rhagfyr yma yn 2019 yn llawn lliwiau porffor a phinc"

Siôn Tomos OwenFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Siôn Tomos Owen ar hyn o bryd i'w weld ar raglen Cynefin ar S4C

Protestwyr wrth hen domen loFfynhonnell y llun, Sion Tomos Owen
Disgrifiad o’r llun,

Protest, Tylorstown: "Dyma brotest tu fas i swyddfeydd cyngor Rhondda Cynon Taf yn erbyn cau A&E Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Yn y cefndir mae'r tirlithriad o'r domen lo digwyddodd ar ôl storm Dennis. Llai na mis wedyn byse miloedd yn diweddu lan yn yr ysbyty oherwydd Covid 19, byse miloedd mwy wedi marw os tasen nhw wedi ei gau"

Stryd dan eiraFfynhonnell y llun, Sion Tomos Owen
Disgrifiad o’r llun,

'Down the Road ana 71', Treorci: "Mae gen i gyfres o luniau o'r enw 'Down the road ana' sef tafodiaith leol am fynd lawr y cwm, dwi'n hoff o osod y lluniau yma gyda chymesuredd Wes Anderson-esque"

Noson lansio cyfrolFfynhonnell y llun, Sion Tomos Owen
Disgrifiad o’r llun,

Gwallt, barf a harmonium, Treorci: "Dyma lansiad cyfrol y Stamp yn High Street Social yn 2018. Noson afiach tu fas ond hwyl a heulwen tu fewn. Ar y wal mae hen arwydd Corona - bellach 'Y Ffatri Bop' yn Porth"

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig