Pum munud gyda'r cyflwynydd, darlunydd ac awdur Siôn Tomos Owen

  • Cyhoeddwyd
Darlun o Siôn Tomos OwenFfynhonnell y llun, Siôn Tomos Owen
Disgrifiad o’r llun,

Hunanbortread Siôn Tomos Owen sy'n adlewyrchu gwahanol elfennau o'i waith

Darlunydd, storïwr, cyflwynydd, awdur - mae sawl elfen wahanol i greadigrwydd Siôn Tomos Owen, a drwy gydol Chwefror fo fydd Bardd y Mis Radio Cymru.

Fel bardd o'r Rhondda, beth yw eich hoff eiriau tafodieithol o'r ardal?

Gan bo' Mamgu a hen ffrind o'r enw Mrs Jenkins yn siarad y Wenhwyseg 'da fi pan o ni'n iau dwi'n hoff iawn o ambell air o' nhw'n defnyddio a mae rhai dwi'n defnyddio heddiw - a dwi'n dwli clywed y merched yn eu dweud hefyd fel, "cwpla" (gorffen), "twli" (taflu) a "shgwla" (edrych).

Ma' brawddege gyda danjerus ynddo fe fel "shgwla manyn, ma' wna'n danjerus" (gwylia, mae'r peth yna'n beryglus), wastad yn 'neud i mi 'werthin.

Mae'r Cymoedd yn ardal adnabyddus o Gymru, ac eto'n lle diarth iawn i nifer. Petai chi'n gallu dileu un camsyniad am yr ardal ac agor llygaid pobl i un peth anghyfarwydd, beth fyddai hynny?

Ffynhonnell y llun, Bridgendboy/Getty
Disgrifiad o’r llun,

Y Rhondda

Dwi'n clywed mwy a mwy yn ceisio ailenwi ni, sai'n siŵr os taw peth economaidd yw e'n ddiweddar - bo' rhaid bod yn agos i'r brifddinas i gael unrhyw obaith ôl-ddiwydiannol - ond mae lle gwerthu ceir yn Abercynon yn ei alw'n Cardiff North ac mae ras Ultra Aberhonddu i Gaerdydd yn cwpla yn Nantgarw, ger Pontypridd!!

Felly beth fysen i'n dweud yw dewch yma, (mae 'na hotel newydd yn Nhreorci, stryd fawr ore ym Mhrydain 2020 a lle Glampio ym Mlaenrhondda erbyn hyn, fydd â thwnnel seiclo hiraf Ewrop cyn hir) sylwch pa mor stonkin' yw'r ardal a stopiwch y nonsens 'ma am 'Danger Money' i fwynhau ein cwmni! Y peth mwyaf danjerus yw bydde chi'n joio gyment bo' chi ddim ishe gadael...

Rydych chi wedi gwneud dipyn go lew o waith gwahanol dros y blynyddoedd - pa un oedd y gwaetha a'r gorau?

Dwi ddim yn difaru unrhyw swydd achos dwi'n dysgu rhywbeth o bob un. Y swydd orau nes i erioed 'neud oedd fel Gweithiwr Allweddol mewn prosiect oedd yn helpu pobl ifanc ddifreintiedig â thrafferthion emosiynol neu/a chymdeithasol. Dwi heb 'neud swydd ers hynny lle roeddwn i'n teimlo fy mod i wir yn helpu'r bobl ifanc i wella eu sefyllfa a'u gobeithion am y dyfodol.

Roedd y swydd waetha' ddim yn bell ar ôl hwn, o'dd gormod yn cael ei ofyn ohona i heb fawr o gymorth ac o'n i'n ceisio gwneud mwy i gadw'n swydd. Hwn oedd y cyfnod tywylla a ges i fy niswyddo o'r ysgol ar y diwrnod ganed ein merch gyntaf.

Ond roedd yn droad, achos dyna oedd angen arna i i gymryd y naid i fod yn llawrydd ond hefyd, yng nghanol hynna oll, tra'n eistedd yn ffreutur yr ysbyty gyda fy merch yn fy mreichiau, gweles i ddyn ifanc o'n i 'di gweithio gydag o yn nyddiau cynnar y prosiect.

Daeth draw i ddiolch i mi am y cymorth gafodd e ac roedd ar y ffordd i ddechrau swydd yn yr ysbyty hwnnw. Dyna un o ddigwyddiadau mwya' trawiadol fy mywyd, fy 'George Bailey moment', y sylweddoliad fy mod i wedi gallu helpu newid bywyd rhywun am y gorau.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Siôn Tomos Owen

Rydych chi'n gwneud nifer o bethau creadigol - sgwennu, celf weledol, standyp… oes un yn dod yn fwy naturiol na'r lleill?

Ers gallu dal pensil dwi wedi darlunio a sgwennu felly dyna be' dwi fwya' hapus yn gwneud, er bo' ngwraig yn mynnu fy mod i'n hapusach yn teithio rownd ysgolion yn cynnal gweithdai i ddysgu plant i wneud yr un peth! Mae'n nabod fi'n well na'n hunan felly falle bo' hi'n gywir.

Er fy mod i'n cysidro'n hunan yn storïwr, standyp oedd yr un roeddwn i'n stryglo gyda'r fwyaf, achos bysen i'n dadansoddi'r 10 neu 20 munud yna a gwawdio'n hunan am wythnosau ar ôl y gig, felly roedd yn dechrau troi'n fwy llafurus na naturiol ar ôl 'chydig. Dwi'n edmygu comedïwyr hyd yn oed yn fwy ers 'neud standyp.

Pa brofiadau yn eich bywyd sydd wedi siapio eich barn wleidyddol?

Yn tyfu lan roeddwn i'n credu mai'r default gwleidyddol oedd sosialaeth achos natur pawb o'n i'n nabod oedd i rannu ac i helpu mas yn gymunedol ac roedd hanes y cymoedd yn atgyfnerthu hyn.

Ffynhonnell y llun, Getty/BBC
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r gwleidyddion sosialaidd enwog sydd â chysylltiad gyda'r Cymoedd - Keir Hardie, Aneurin Bevan a Michael Foot

Yna yng ngholeg y Drindod tra'n siarad gydag Americanwr, roedd yn geg agored pan wedes i wrtho fe mod i'n sosialwr, "I can't believe you'd openly admit to being a socialist!".

Hwn oedd y tro cyntaf i mi ddeall bo' rhai pobl yn credu, nid yn unig ein bod yn beth drwg, ond yn ddieflig hyd yn oed! Roedd yn agoriad llygaid ond yna wrth ddechrau protestio, gorymdeithio a chwrdd â mwy o bobol fel fi (a phobl fel yr Americanwr!) mae 'di hoelio fy marn wleidyddol yn fwy na dim.

Petaech chi'n gallu bod yn fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol - pwy fyddai o neu hi, a pham?

Yn y Gymraeg, falle un o'r Gogynfeirdd, yn creu cerddi am frwydrau fel rhyw fath o newyddiadurwr rhyfela'r cyfnod. Dwi'n meddwl weithie am ryw filwr neu arglwydd ar fin eu lladd a nhw'n mynnu taw beirdd o' nhw ond achos mai cofio'r cerddi ar lafar oedden nhw, doedd dim modd i ddangos press pass!

Oedden nhw'n ailadrodd eu greatest hits neu yn cynnig sgwennu englyn yn haelioni'r gelyn i geisio achub eu bywyd fel Breitbart y canoloesoedd? Falle nath bardd fel Gwilym Rhyfel wrthod a dyna pam laddwyd e mewn brwydr, poor dab, pwy a ŵyr?

Yn Saesneg se'n i 'di dwli bod yn Lawrence Ferlinghetti yng nghanol y Beats a dechrau City Light yn San Francisco, yn enwedig yn clywed Howl gan Allen Ginsberg am y tro cyntaf.

Pa ddarn o farddoniaeth fyddech chi wedi hoffi ei ysgrifennu, a pham?

Disgrifiad o’r llun,

Allen Ginsberg ac Owen Sheers

Dwi newydd ailddarllen The Blue Book gan Owen Sheers ac wedi sylweddoli bo' fy ngherddi Saesneg ar ôl gadael coleg i gyd yn ceisio efelychu Feeling the Catch, sef y gerdd gyntaf yn y gyfrol; y cymoedd, atgofion o ieuenctid a chymuned, edifarhau a thywyllwch yn cuddio rhwng y llinellau. Ond hefyd dwi'n ffan mawr iawn o farddoniaeth Beats ac er bysen i byth wedi gallu ei sgwennu am amryw o resymau, dwi'n credu bo' Howl gan Allen Ginsberg yn athrylith ac mae meddwl mynd i'r llys am sgwennu cerdd nawr yn swnio'n bananas.

Beth sydd ar y gweill ar hyn o bryd?

Dwi newydd gwpla darlunio llyfr ar y gynghanedd gyda Mererid Hopwood, yn cwpla fy ail gyfrol o straeon i ddysgwyr a chasgliad o farddoniaeth. Dwi newydd orffen murluniau mawr gyda myfyrwyr Coleg y Cymoedd ac ar fin neud un anferth tair stori ar yr Hen Lyfrgell yn Y Porth.

Dwi hefyd yn gweithio ar broject newydd cyffrous cyn hir, rhywbeth dwi 'rioed 'di 'neud o'r blaen sef prosiect Our Space - Ein Lle Ni yn creu albym mewn Dolby Atmos gyda Gold Disk Records. Fyddwn ni'n cynnal gweithdai cerddorol mewn mannau penodol ar draws y cymoedd fel amffitheatr Penpych a Bwthyn Treftadaeth yn Aberdâr i greu'r gerddoriaeth â sain unigryw y gofodau yma, a fi fydd yn sgwennu geiriau'r caneuon Cymraeg. Dwi'n dishgwl mlaen yn arw.