Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 4-1 Dagenham & Redbridge
- Cyhoeddwyd
Mae Dagenham & Redbridge wedi bod yn boen i Wrecsam sawl gwaith gan gipio pwyntiau oddi arnynt ar adegau hanfodol o'r tymor ond nid felly oedd hi nos Fawrth oherwydd roedd Wrecsam yn llawer iawn cryfach na'r ymwelwyr.
Wedi 25 munud roedd Olie Palmer wedi rhoi'r Dreigiau ar y blaen ac yna yn y munudau ychwanegol ar ddiwedd yr hanner cyntaf llwyddodd Paul Mullin i ddyblu'r fantais.
Parhau yn ymosodol wnaeth Wrecsam yn yr ail hanner. Ar ôl 73 munud fe sgoriodd Mullin eto cyn i Palmer wedyn ychwanegu ei ail gôl yntau ac roedd hi'n 4 i 0 i Wrecsam.
Ond fe sgoriodd Dagenham & Redbridge gôl gysur yn hwyr yn y chwarae - chwe munud ar ôl y 90 a hynny drwy Junior Morias.
Mae Wrecsam yn parhau yn ail yn y Gynghrair Genedlaethol gan fod Chesterfield sydd ar y brig wedi ennill eu gêm hwythau.
Yn sgil marwolaeth y Frenhines cafodd gêm gartref Wrecsam yn erbyn Maidenhead ei gohirio ddydd Sadwrn.