‘Y caredigrwydd sydd yna yn ystod y cyfnodau mwyaf tywyll’

  • Cyhoeddwyd
Sam, Emi a NickyFfynhonnell y llun, Nicky John
Disgrifiad o’r llun,

Sam, Emi a Nicky

"Ni'n cymryd camau bach ac mae angen diolch i'r bydysawd am hynny."

Ym mis Ebrill 2022 rhannodd y cyflwynydd teledu Nicky John hanes ei merch Emi gyda Cymru Fyw. Mae Nicky a'i gŵr, Gwion, wedi bod drwy gyfnod anodd ar ôl i Emi gael diagnosis o gancr Wilms (cancr yr arenau) yn un mlwydd oed.

Erbyn hyn mae Emi wedi cwblhau cyfnod o cemotherapi yn Alder Hey a bu Nicky'n rhannu stori ei thriniaeth a sut mae'r teulu yn ymdopi gyda Aled Hughes ar Radio Cymru.

Mae Medi yn fis ymwybyddiaeth canser mewn plant ac mae Nicky hefyd wedi bod yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth ac yn ymgymryd â'r her o gerdded 60 milltir yn ystod y mis er mwyn codi ymwybyddiaeth ac arian.

Yn dilyn ei diagnosis 'nôl ym mis Mawrth, cychwynodd Emi cemotherapi unwaith yr wythnos yn Alder Hey, ac aeth hynny mlaen am 12 wythnos.

Mae'n fyd mor newydd a brawychus i gychwyn, ac mae rhywun yn mynd drwy gymaint o emosiynau, gan drio gweithio allan 'sut 'dan ni'n mynd i wneud hyn?', gan gofio fod ganddo ni Sam, mab chwech oed, adref hefyd. Roedd 'na deimlad o fod eisiau'i amddiffyn o rhag y cyfan, byd hollol newydd a scary oedd yn wynebu ni.

Ffynhonnell y llun, Nicky John

Cafon ni 12 wythnos o cemotherapi intense unwaith yr wythnos. Un wythnos 'oedd Emi'n derbyn jest un cyffur ac wedyn bob yn ail wythnos roedd 'na ddau gyffur, bob un yn effeithio arni hi mewn wahanol ffordd.

Yna ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, ddaeth y llawdriniaeth ddiwedd mis Mehefin. Roedd hi yn y theatr am chwe awr a hanner - diwrnod hira'n bywydau ni. Yn dilyn yr op, roeddan ni yn Alder Hey am 10 diwrnod tra bod hi'n mendio.

Dwi ddim yn meddwl 'nes i feddwl am be' oedd i ddod yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd hi'n anodd i'w gweld hi mor sâl ac mewn poen, ond yn raddol bach, diolch i'r drefn cychwynodd gryfhau a gwella bob dydd.

Y diwrnod hiraf

Yn dilyn y llawdriniaeth, mae'r pathologists o'r farn mai nid Wilms 'da ni'n delio hefo wedi'r cyfan, ond rhyw fath o nephroblast mitosis neu nephrogenic rests - sef yn y bôn rhyw fath o pre-Wilms tumours. Y tebygrwydd yw mai Wilms bydden nhw wedi troi mewn i yn y pen draw, ond mae'r ffaith mai nid Wilms oeddan nhw eto yn golygu bod y driniaeth yr ochr hyn i'r llawdriniaeth yn gallu bod lot fwy caredig iddi hi yn y bôn.

Ffynhonnell y llun, Nicky JOhn

Cryfhau

Yn hytrach na chyfnod intense o chemo a radiotherapi fel oedd yn cael ei awgrymu i ni'n wreiddiol, 'dan ni bellach yn mynd jest unwaith y mis am chemo ac mae hynny'n rhoi cyfle i Emi gryfhau rhwng sesiynau - mae'n dda i weld hi'n rhoi pwysau ymlaen, yn chwarae ac yn cymryd diddordeb mewn pethau, ac mae ei gwallt bach hi'n dechrau tyfu nôl rhyw fymrym.

Mae hi'n cael cyfle rŵan i neud y math o beth dylai plentyn yr oed yma fod yn gwneud.

Ffynhonnell y llun, Nicky John

Ar ddiwedd y dydd un a hanner ydy hi ac mae hi 'di bod drwy mwy yn ystod y pum mis diwethaf gan gofio pan oedd hi'n troi'n un bod ganddon ni ddim syniad o'r hyn oedd o'n blaenau ni.

Mis ymwybyddiaeth canser mewn plant

'Da ni di bod mor eithriadol o lwcus o rai o'r elusennau, staff ac unigolion sy' 'di bod yna i gefnogi ni - staff yn Ward Dewi yn Ysbyty Gwynedd, staff yn Alder Hey.

Y caredigrwydd sydd yna yn ystod y cyfnodau mwyaf tywyll...

Mae Ffion mewn cysylltiad efo ni ac mae'n gweithio efo Young Lives v Cancer. I gychwyn o'n i'n meddwl dwi ddim isho neb mewn cysylltiad efo fi - ond yn fuan iawn mae rhywun yn sylweddoli faint 'da ni'n dibynnu arnyn nhw.

Yn achos Ffion mae'n rhywun i droi ati a gweithio drwy rai o'r emosiynau a'r teimladau - mae hefyd yn ymwybodol fod Sam yn chwe oed ac mae 'di trefnu dyddiau allan i ni dros yr haf.

Mae 'na sawl un sy' 'di bod yna yn ein cefnogi, maen nhw mor werthfawr a dwi mor ddiolchgar.

Dwi ddim yn licio edrych rhy bell lawr y lein ond o weld sut mae Emi ar hyn o bryd ac o weld sut mae 'di bod dros yr haf, dwi'n teimlo bod ni'n cymryd camau bach i'r cyfeiriad iawn.

Mae 'na rhyw fath o eisiau diolch i'r bydysawd am hynny a dwi'n meddwl yn aml iawn am y syrjyns, y doctoriaid, y nyrsus a'r timoedd gwahanol sydd wedi cefnogi ni. Maen nhw'n bobl arbennig, a ma' 'na ryw deimlad anferth o fod eisiau diolch iddyn nhw a rhoi rhywbeth yn ôl.

Os ydy hyn yn gam bach tuag at wneud hynny mewn rhyw fodd, dwi'n hapus iawn i fod yn gwneud yr her mis yma o 60 milltir yn ystod mis Medi.

Pynciau cysylltiedig