Y Bencampwriaeth: Huddersfield 1-0 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
callumFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Callum Robinson eto i sgorio

Fe wnaeth cefnogwyr Caerdydd deithio i Huddersfield ddydd Sadwrn a hynny wedi eu taith i Middlesbrough ganol yr wythnos.

Yn ystod yr wythnos roedd y tîm o ogledd Lloegr wedi diswyddo eu rheolwr Danny Schofield.

Dechrau simsan oedd hi i Gaerdydd ac ar ôl wyth munud yn unig roedd Jordan Rhodes wedi rhoi'r Terriers ar y blaen.

Daeth cyfle i Gaerdydd ar ôl ugain munud pan droseddodd Faustino Anjorin yn erbyn Andy Rinomhota yn y blwch cosb ac heb oedi roedd y dyfarnwr wedi rhoi cic gosb i'r Adar Gleision.

Ond ergyd wan iawn a gafwyd gan Callum Robinson ac arbedwyd y gic gosb gan Lee Nicholls yn gôl Huddersfield.

Roedd gobeithion y byddai chwarae Caerdydd yn gwella wedi iddynt eilyddio ond wedi iddynt ddod â Rubin Colwil, Mike Harris a Romaine Sawyers ar y cae prin y gwelwyd newid mawr yn y chwarae.

Roedd dau Gymro a chyn-chwaraewr i Gaerdydd yn rhan o eilyddio Huddersfield gyda Patrick Jones, Sorba Thomas a Danny Ward ar y maes yn ystod yr ail hanner.

Cafodd Sorba Thomas gryn effaith gyda rhediadau da ar hyd yr asgell ond diogelu'r flaenoriaeth oedd nod Huddersfield yn hytrach nac ymosod.

Yn y munud olaf fe gyfunodd Jones a Thomas yn rhagorol ond methodd Thomas fanteisio.

Roedd y fuddugoliaeth yn un werthfawr iawn i Huddersfield ond roedd methu cic o'r smotyn yn golygu fod Caerdydd heb bwynt.