Adnewyddu Jac Codi Baw i ddathlu bywyd ei ferch

  • Cyhoeddwyd
Esmor Davies a'r Jac Codi BawFfynhonnell y llun, Esmor Davies
Disgrifiad o’r llun,

Esmor Davies a'r Jac Codi Baw

"Dyma deyrnged i Christine am hanner can mlynedd o fywyd, ffrindiau, merch a neb gwell."

Mi gollodd Esmor Davies ei ferch Christine i Covid-19 yn 2021 ac er cof amdani mae o wedi adnewyddu peiriant fferm oedd y ddau ohonynt wedi bod yn chwilio amdano am amser hir.

Daw Esmor o Fwcle yn Sir y Fflint ac mae o wedi bod yn adnewyddu peiriannau ers 57 mlynedd. Yn ystod y misoedd diwethaf mae o wedi rhoi ail fywyd i'r Jac Codi Baw cyntaf erioed iddo gael yn unol â dymuniad ei ddiweddar ferch a fu farw yn 50 oed.

"Odd y ferch isio ffeindio'r JCB cyntaf roeddwn i erioed wedi cael. Roedd o'n benbleth ofnadwy dros chwe blynedd ond ddaru hi ein gadael ni ar ddiwedd y flwyddyn," meddai Esmor Davies wrth Terwyn Davies ar Troi'r Tir.

Ffynhonnell y llun, Esmor Davies
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Esmor a'r JCB i sioeau deithiau tractorau a sioeau yr haf i gadw ysbryd Christine yn fyw

"Chwe diwrnod ar ôl iddi fynd dyma ni yn cael phonecall yn deud fod y peiriant wedi cael ei ffeindio lawr yn Tibberton yn south of England.

"Dw'i 'di atgyweirio'r JCB yn newydd fatha oedd hi a rhoi ei enw a llun y ferch ar ei ochr hi. Dyma deyrnged i Christine am hanner can mlynedd o fywyd, ffrindiau, merch a neb gwell."

'Mynd fel watsh'

Ac yntau wedi bod yn adeiladu peiriannau ers 57 mae Esmor yn hen law ar eu hadnewyddu ac roedd profiad a dawn yn hwyluso'r gwaith iddo.

"Wnaeth o ddim cymryd yn rhy hir. Mi roddwyd mudguards newydd a steering wheel a'i phaentio hi ac roedd hi fel newydd. Mae'n mynd fel watsh ac yn dreifio i bob man ac yn cadw i fynd.

Ffynhonnell y llun, Esmor Davies
Disgrifiad o’r llun,

Ar daith o gwmpas sioeau beiriannau'r wlad

"O'n i'n 16 yn dechre dreifio'r peiriannau cynta' 'ma. 'Nes i hel fy mhres at ei gilydd ar ôl cychwyn o ddim byd. Oedd rhaid i mi hel dwy fil a hanner oedd yn lot pan oeddwn yn 17.

"Mae'r gallu gen i, dw'i wrth fy modd a dwi'n diolch fy mod i efo'r iechyd i allu gwneud o."

Rai blynyddoedd yn ôl gyrrodd JCB ar hyd a lled Prydain, o Fwcle i ben pellaf yr Alban ac yr holl ffordd i lawr i ben pellaf Lloegr.

"Dreifio'r JCB 'nes i rownd o'r Sioe Frenhinol i fyny i'r John o' Groats - pedwar diwrnod a hanner - ac wedyn dreifio lawr trwy'r wlad i Land's End - tair mil a hanner o filltiroedd, deg wythnos, a llawer o deithio."

Teithio Cymru a gweddill Prydain er cof am Christine

Gyda'r JCB arbennig sydd wedi ei adnewyddu er cof am Christine, mae Esmor yn falch o deithio Cymru er cof am ei ferch.

Eglura: "Rydan ni wedi mynd rownd sioeau llefydd fel Nantwich, Cheshire, Denbigh, Sir Fôn ac Eglwysbach i godi ymwybyddiaeth hefyd.

"Yn ystod y Nadolig 'da ni yn mynd i addurno fo i gyd efo goleuadau i gyd a chodi arian ar gyfer elusennau.

"Roedd pawb yn 'nabod Christine. Roedd gwên ar ei gwyneb hi a wnaeth hi ein gadael ni gyda'r Covid 'ma. Mynd yn sydyn mewn pum diwrnod. Roedd o'n drist ofnadwy."

Ffynhonnell y llun, Esmor Davies
Disgrifiad o’r llun,

Llun o Christine ar ochr y Jac Codi Baw

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig