Cyflwynwyr newydd wrth i Radio Cymru 2 ehangu

  • Cyhoeddwyd
Cyflwynydd newydd Radio Cymru 2 Dom James
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Dom James yn enw newydd ar yr orsaf ar ddyddiau Gwener

Rhydian Bowen Phillips, Lisa Gwilym a Dom James fydd cyflwynwyr newydd Radio Cymru 2, wrth i'r gwasanaeth ehangu ym mis Hydref.

Mae'r tri yn ymuno â Lisa Angharad, Daniel Glyn a Mirain Iwerydd, sydd eisoes yn cyflwyno ar yr orsaf ddigidol.

Cyhoeddwyd fis Awst y bydd BBC Radio Cymru 2 yn darlledu 60 awr yr wythnos, gan ddechrau ar 3 Hydref.

Mae'r ehangu yn rhan o newidiadau yn arlwy BBC Radio Cymru - cam y mae rhai yn ei wrthwynebu wrth i raglen nosweithiol Geraint Lloyd gael ei diddymu.

Bydd y cyflwynwyr newydd yn chwarae cerddoriaeth yn ystod y boreau.

Disgrifiad o’r llun,

Rhydian Bowen Phillips fydd wrth y llyw ar y Sioe Frecwast, a Lisa Gwilym yn ei ddilyn

Rhydian Bowen Phillips fydd wrth y llyw ar y Sioe Frecwast rhwng 07:00 a 09:00 o ddydd Llun i ddydd Iau, a Lisa Gwilym yn dilyn o 09:00 tan 11:00.

Bob dydd Gwener bydd Lisa Angharad yn parhau i gyflwyno'r Sioe Frecwast rhwng 07:00 a 09:00, gyda Dom James yn llais newydd ar yr orsaf rhwng 11:00 a 13:00.

Bydd Daniel Glyn a Mirain Iwerydd yn parhau i gyflwyno ar yr orsaf ar benwythnosau.

'Llawn cymeriad a photensial'

Dywedodd Golygydd Radio Cymru Dafydd Meredydd: "Mae'r cyhoeddiad heddiw'n tanlinellu ymroddiad Radio Cymru 2 i gyrraedd cynulleidfa newydd ac yn gam arall tuag at ddau wasanaeth radio cenedlaethol trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

"Yn Rhydian a Lisa mae ganddo ni ddau gyflwynydd gwych sy'n deall y grefft o gyflwyno rhaglenni radio poblogaidd ac yn barod am yr her nesaf yn eu gyrfa.

"Ac yn Dom, mae ganddo ni enw sy'n newydd i gynulleidfa radio ond yn llawn cymeriad a photensial, yn caru cerddoriaeth a dwi'n credu y bydd cynulleidfa Radio Cymru 2 wrth eu boddau yn treulio amser yn ei gwmni ar ddyddiau Gwener."

Fis diwethaf, cyhoeddwyd mai Caryl Parry Jones fyddai cyflwynydd newydd slot rhaglen Geraint Lloyd ar BBC Radio Cymru.

Daeth hynny ar ôl i'r orsaf gyhoeddi y byddai rhaglenni Geraint Lloyd, Geth a Ger a Nia Roberts yn diflannu o amserlen yr orsaf ym mis Hydref.