Radio Cymru 2 i ddarlledu am 60 awr yr wythnos
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi bwriad i Radio Cymru 2 ddarlledu am 60 awr yr wythnos o'r hydref ymlaen.
Ar hyn o bryd mae'r gwasanaeth a lansiwyd yn 2018 yn cael ei ddarlledu am 15 awr yr wythnos, a hynny'n ddigidol.
Gan gydweithio gyda Radio Cymru, mae'r cynlluniau'n golygu y bydd brand cerddoriaeth ac adloniant ar gyfer siaradwyr Cymraeg ar gael am y tro cyntaf erioed, meddai'r gorfforaeth.
Wrth siarad yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron, dywedodd cyfarwyddwr BBC Cymru Rhuanedd Richards y "byddai hyn yn ei gwneud yn fangre" ar gyfer gynulleidfa sydd eisiau radio "drwy gyfrwng y Gymraeg gyda cherddoriaeth wrth ei galon".
Mae BBC Radio Cymru 2 yn cael ei ddarlledu'n ddigidol - gyda chymysgedd o raglenni cerddoriaeth ysgafn a rhai o raglenni adloniant Radio Cymru yn rhan o'r arlwy.
Ers ei lansio bedair blynedd yn ôl mae Radio Cymru 2 wedi darlledu gan fwyaf yn ystod y bore gan gyflwyno sioe frecwast rhwng 07:00 a 09:00 bob bore.
Bwriad yr orsaf yw sicrhau dewis ar y tonfeddi drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae wedi ei anelu at y rheiny na fyddai'n draddodiadol yn dewis gwrando ar Radio Cymru.
O dymor yr hydref y bwriad yw darlledu ystod eang o gerddoriaeth boblogaidd a chyfoes.
Ychwanegodd Ms Richards: "Mae mynd â Radio Cymru 2 o 15 awr yr wythnos i dros 60 awr yr wythnos yn rhan o strategaeth uchelgeisiol BBC Cymru i sicrhau ein bod yn gallu rhoi dewis i siaradwyr Cymraeg.
"Mae Radio Cymru yn boblogaidd tu hwnt - gyda ffigyrau gwrando ar eu huchaf ers 12 mlynedd - ac rydym eisiau adeiladu ar y llwyddiant hwnnw gan sicrhau ein bod yn ymateb i anghenion siaradwyr Cymraeg sy'n mwynhau gwrando ar gerddoriaeth yn ystod y dydd."
Dywedodd Dafydd Meredydd, pennaeth gwasanaethau Cymraeg y BBC: "Mae ein gwrandawyr yn dweud wrthym eu bod yn edrych am ddewis pan mae hi'n dod i wrando ar y radio, a dyna'r bwriad gyda Radio Cymru 2 wrth i ni hoelio'r ffocws.
"Mae arlwy o gerddoriaeth yn rhywbeth sydd ar goll ar hyn o bryd i siaradwyr Cymraeg - dwi'n gyffrous iawn am gael dod â'r arlwy hwnnw i wrandawyr yn yr hydref."
'Dewis go iawn'
Mewn trafodaeth ar Faes yr Eisteddfod am ddyfodol darlledu yng Nghymru, dywedodd Ms Richards bod y gwasanaeth wedi dangos ei phwysigrwydd yn ystod cyfnod Covid.
O ystyried hynny, meddai, mae'r cyhoeddiad ddydd Mercher yn ehangu'r ddarpariaeth ar y tonfeddi er mwyn cynnig "dewis go iawn rhwng arlwy gwych Radio Cymru, a cherddoriaeth ar Radio Cymru 2".
Er bod sianeli traddodiadol ar y teledu a radio yn parhau i fod yn bwysig, dywedodd Ms Richards y bydd y gorfforaeth hefyd yn edrych tuag at ehangu'r darpariaethau digidol yn fwy yn y dyfodol, wrth i'r gynulleidfa newid.
"Mae angen symud mwy o'n arian comisiynu o'r llwyfannau llinol i'r llwyfannau digidol… wrth i sianeli edwino," meddai.
Ychwanegodd: "Mae gen i un llygad ar y cynulleidfaoedd 'dyn ni ddim yn eu cyrraedd ar hyn o bryd… ac felly dwi'n gwbl argyhoeddedig mai dyma'r peth iawn i'w wneud.
"Mae'n anodd i Radio Cymru gynnig bach o bopeth sydd at ddant pawb, ond yn sicr 'dyn ni'n ceisio mwy o amrywiaeth."
Gan gyfeirio at raglenni mwy traddodiadol fel Dros Frecwast a Beti a'i Phobl, dywedodd Dafydd Meredydd: "Maen nhw'n rhaglenni ardderchog ond mae 'na ddemograffeg o bobl… sydd byth yn mynd i wrando arnyn nhw.
"Ac felly mae'n bwysig bod ni'n cynnig mwy na'r 15 awr presennol iddyn nhw.
"Os ydyn nhw'n troi i ffwrdd o Radio Cymru 2 ar ôl 09:00, nid dyna'r sianel fydd yno pan maen nhw'n troi nôl at y radio."
Mae modd gwrando ar Radio Cymru 2 yn fyw - ac unrhyw raglen dros y 30 diwrnod diwethaf - ar BBC Sounds.
Mae BBC Radio Cymru 2 ar gael ar deledu: Freeview, YouView, BT TV a Talk Talk TV - sianel 721; Sky, sianel 0154; Freesat, sianel 718 (a 735 tu allan i Gymru).
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd8 Awst 2017