Breuddwyd Cymro i gynrychioli ei wlad mewn reslo braich
- Cyhoeddwyd
Cwta dri mis sydd wedi pasio ers i ŵr o Forfa Nefyn weld neges ar Facebook am ddiwrnod agored reslo braich lle'r oedd croeso i'r cyhoedd roi cynnig arni.
Ar ôl mwynhau cymaint dyma Reuben Hughes yn penderfynu ymgymryd â'r gamp ac mae newydd gael ei enwi yn Bencampwr Braich Dde mewn cystadleuaeth i amaturiaid drwy Brydain ac Iwerddon wedi ei drefnu gan gymdeithas reslo braich broffesiynol y PAA.
Mae'r Cymro yn ymarfer yn gyson gyda reslwyr eraill mewn clwb yng Nghaerfyrddin. Er bod clybiau eraill yn agosach iddo dros y ffin yn Lloegr, fe benderfynodd ymaelodi gyda Chlwb Roar Arm Wrestling, Llandybie, gyda'r freuddwyd o gynrychioli Cymru un diwrnod.
Rhaid treulio'r wythnosau cyntaf yn meistroli'r grefft o beidio cael anaf cyn dechrau paratoi ar gyfer cystadleuaeth.
Roedd reslo braich yn boblogaidd iawn ar un adeg ym Mhrydain, ac ar ôl cyfnod tawelach mae'n edrych fel bod mwy yn ymddiddori unwaith eto erbyn hyn.
Cafodd Reuben sgwrs ar raglen Aled Hughes ac fel mae'n egluro yn y fideo uchod mae seicoleg cyn yr ornest yn gallu gwneud gwahaniaeth.