Cam cyntaf cael gwared ar beilonau 'hyll' Afon Dwyryd
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun gwerth miliynau o bunnoedd i gael gwared ar 10 o beilonau a cheblau trydan o Afon Dwyryd wedi dechrau.
Mae'r cynllun wedi bod ar droed ers sawl blwyddyn gyda chwyno fod y peilonau, a gafodd eu codi'n wreiddiol yn 1966, yn "hyll" ac yn difetha'r tirlun ger Minffordd yng Ngwynedd.
Er na fydd y peilonau'n cael eu dymchwel tan 2029, mae'r gwaith archeolegol eisoes ar waith gyda disgwyl i'r gwaith o dyllu er mwyn gosod gwifrau tan-ddaearol ddigwydd y flwyddyn nesaf.
Yn ôl Parc Cenedlaethol Eryri, mae'r gwaith a fydd yn cael ei gynnal gan y Grid Cenedlaethol yn "gyffrous iawn".
'Carreg filltir fawr'
Ar hyn o bryd mae'r peilonau'n ymestyn dros ddwy filltir mewn ardal sydd wedi ei chydnabod am ei harddwch.
Eu nod gwreiddiol oedd cludo trydan o hen bwerdy niwclear Trawsfynydd, ond rŵan mi fydd y gwifrau'n cael eu cuddio yn dilyn sefydlu cronfa gan y Grid Cenedlaethol i wella ardaloedd prydferth sydd wedi eu hanharddu gan wifrau tebyg.
Yn ôl Jonathan Cawley, Cyfarwyddwr Cynllunio a Rheolaeth Tir i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, mae'r gwaith yn cael ei groesawu.
"Pwrpas statudol y parc ydy lleihau effaith gweledol, gwarchod a gwella tirwedd y parc felly mae'r prosiect yma yn un uchelgeisiol iawn.
"Mae'n garreg filltir fawr, yn cychwyn ar y ddaear. Mae'n mynd i gymryd sawl blwyddyn - mae'n gynllun mawr sy'n costio degau o filiynau o bunnoedd ond mae'n neis gweld y gwaith yn ddechrau."
Yn ôl Mr Cawley mae'r gymuned leol hefyd wedi ymateb yn gadarnhaol i'r cais, gyda dim un yn gwrthwynebu tynnu'r peilonau.
"'Dan ni'n gobeithio, yn ogystal â lleihau yr effaith weledol mi fydd 'na fudd economaidd," meddai.
"Mi fydd 'na weithwyr, yn cyfrannu at y siopau, y caffis, y pentrefi lleol a mae 'na gyfle yna."
'Cyfle mawr i wella golygfeydd'
Daw'r gronfa er mwyn cwblhau'r gwaith gan y Grid Cenedlaethol, wnaeth ddewis y safle o blith dros 100 o ardaloedd eraill i leihau effaith peilonau ar y tirlun drwy Gymru a Lloegr.
"Mae hon yn ardal hyfryd ac yn rhan brydferth o'r byd," meddai Stephen Ellison o'r Grid Cenedlaethol.
"Mi ydan ni mewn parc cenedlaethol felly mae'r prosiect yma wedi cael ei greu er mwyn lleihau effaith weledol ar y tirlun.
"Dyma un o dri chynllun yn y Deyrnas Unedig ac ma' 'na gyfle mawr yma i wella'r golygfeydd ac effaith ein hasedau ar y tirlun ac yn gwella'r profiad i'r gymuned leol ac ymwelwyr."
Mi fydd y Grid Cenedlaethol rŵan yn gweithio ac yn parhau i ymgynghori gyda'r gymuned leol gan gynnwys ysgolion lleol er mwyn cyflwyno rhagor o wybodaeth am ddatblygiad y gwaith dros y blynyddoedd nesaf.
Mi fydd y gwaith o dyllu i osod y ceblau, a fydd yn 3km o hyd, yn digwydd y flwyddyn nesaf cyn dymchwel y peilonau yn 2029.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2018