Llanelwedd: 'Angen mwy o ddigwyddiadau rownd y flwyddyn'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Athro Wynne JonesFfynhonnell y llun, CAFC

Mae cadeirydd newydd bwrdd rheoli'r Sioe Fawr wedi son am yr heriau sy'n eu hwynebu i'r dyfodol wrth i brisiau godi.

Mae'r Athro Wynne Jones yn olynu John Davies, sy'n rhoi'r gorau ar ôl 10 mlynedd i fod yn gadeirydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru - y corff sy'n gyfrifol am y Sioe Fawr, y Ffair Wanwyn a'r Ffair Aeaf.

Dywedodd yr Athro Jones fod y diwydiant amaeth yn parhau i newid, a'i bod yn bwysig fod y Gymdeithas yn gwneud y gorau o'r "adnoddau arbennig yn Llanelwedd".

Eleni hefyd fe wnaeth prif weithredwr newydd y Gymdeithas, Aled Rhys Jones, ddechrau ar ei waith gan ddweud bod amaeth yng Nghymru yn "wynebu newid enfawr" yn y ddegawd nesaf.

Yn ôl yr Athro Jones mae pethau wedi dechrau gwella ar ôl y pandemig, ond mae heriau eraill yn eu hwynebu.

"Mae'r Ffair Aeaf, Ffair Wanwyn a'r Sioe Fawr - y tri digwyddiad mwyaf yn ôl ar y rails.

"Ond mae chwyddiant yn her, mae pris egni yn her ac wedyn edrych ar y costau mae hynny'n bwysig.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Beirniadu'r defaid ar faes Y Sioe Fawr

"Mae gennym ni faes ac adnoddau arbennig yn Llanelwedd ac un o'r heriau yw gwneud yn siŵr bod mwy o ddigwyddiadau rownd y flwyddyn a bydd hynny yn dod ag incwm i fewn a rhannu rhai o'r costau.

"Ar ddiwedd y dydd 'de ni isio rhoi digwyddiadau da i'r cyhoedd a gwneud yn siŵr eu bod yn cael gwerth am arian."

'Diwydiant pwysig'

Dywedodd yr Athro Jones y bydd newidiadau sydd i ddod mewn polisïau amaeth yn dylanwadu ar y Sioe yn y dyfodol.

"Er enghraifft y cwmnïau sy'n cyflenwi i ni yn y diwydiant.

"Mae costau yn mynd i fyny ac mae llai o ffermydd a'r drefn yn newid.

"Ond mae'r diwydiant bwyd a'r gadwyn amaeth o'r cae i'r fforc yn ddiwydiant mawr iawn, ac yn ddiwydiant pwysig iawn, ac mae'n hollol bwysig bod ni'n cefnogi hynny'n gryf."

Pynciau cysylltiedig