'Amaeth yn wynebu newid enfawr yn y degawd nesaf'
- Cyhoeddwyd
Mae darpar bennaeth newydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi dweud wrth BBC Cymru fod amaeth yng Nghymru yn "wynebu newid enfawr" yn y degawd nesaf.
Yn ôl Aled Rhys Jones bydd sioeau amaethyddol hefyd yn wynebu heriau mawr gyda chwyddiant yn un ohonynt.
"Rwy 'di siarad â nifer o sioeau ar draws y Deyrnas Unedig ac ma' nhw gyd yn dweud fod effaith chwyddiant yn un o'r prif heriau," meddai Aled Rhys Jones wrth siarad â Dros Frecwast.
"Mae nifer yn dweud fod cynnydd o 30% mewn costau llwyfannu sioeau a bydd hynny'n gwthio ni i ailfeddwl sut mae sioeau yn gweithredu".
Fe fydd Mr Jones yn dechrau yn ei swydd fis Medi gan olynu Steve Hughson - fe fydd yn gyfrifol am y Sioe Amaethyddol a'r Ffair Aeaf ymhlith digwyddiadau eraill.
"Bydd cyfrifoldeb arna i fel prif weithredwr hefyd i ddod o hyd i ffynonellau newydd o incwm - efallai defnyddio y safle, a chael mwy o incwm y tu allan i gyfnod y sioe.
"Mae'r Gymdeithas yn bodoli trwy gydol y flwyddyn, nid dim ond am un wythnos ym mis Gorffennaf.
"Mae'n rhaid edrych ar y cynllun strategol a'r cynllun busnes i sicrhau ein bod ni gallu gofalu am y Gymdeithas a'r elusen yma am y ganrif nesaf."
'Cydnabod sgiliau'
Dywedodd Mr Jones wrth raglen Dros Frecwast y bydd yna newidiadau "o fewn y deg blynedd nesa ac y bydd unrhyw beth sy'n cael effaith ar amaeth yn cael effaith ar y Gymdeithas a'r Sioe."
"Os feddyliwch chi mae'r system cymorthdaliadau yn mynd i newid yn gyfan gwbl, mae effaith y cytundebau masnach ry'n ni wedi eu gweld gyda gwledydd fel Awstralia a Seland Newydd a hefyd yr holl ffocws ar leihau ôl troed carbon a falle welwn ni newidiadau ym mhatrymau prynu cwsmeriaid."
Gallai hyn, meddai, arwain at greu cystadlaethau newydd yn y Sioe Fawr.
"Cystadlaethau newydd i gydnabod y sgiliau bydd angen ar ffermwyr yn y dyfodol - fel deall iechyd y pridd, atal baeddu carbon ac ati."
Dywedodd Mr Jones, sydd hefyd yn gyflwynydd bwletin amaeth Radio Cymru, ei bod yn fraint a chyfrifoldeb anferth i gael ei benodi fel pennaeth ond fod "heriau mawr o'u blaenau".
"Mae'r Sioe wedi chwarae rhan fawr yn fy mywyd i a dwi wir yn edrych ymlaen at ddechrau yn swyddogol ym mis Medi, er fe fyddaf yn gwneud 'chydig o waith cyn hynny yn enwedig yn ystod y Sioe eleni."
Dywedodd fod hi'n gyfnod cyffrous ond yn un heriol i gymryd yr awenau a bod cyfrifoldeb ar y Sioe i bontio rhwng gwlad a thref.
"Ry' ni mewn cyfnod lle mae pobl yn cwestiynu be mae'n nhw'n ei fwyta ac effaith amaeth ar yr amgylchedd - felly mae rôl bwysig iawn gyda ni i bontio rhwng gwlad a thref, a chymunedau gwledig a threfol."
Bydd cyfweliad Aled Rhys Jones i'w glywed yn llawn ar Dros Frecwast fore Mercher.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2021