'Dim digon o help i ffermwyr Cymru yn sgil costau uwch'
- Cyhoeddwyd
Ar ddiwrnod cyntaf y Sioe Amaethyddol yn Llanelwedd mae arweinwyr y diwydiant amaeth wedi galw am fwy o gymorth i helpu ffermydd sy'n dioddef o gynnydd aruthrol mewn costau cynhyrchu.
Dywedodd Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) fod y diwydiant yng nghanol "tymestl" gan honni bod gwledydd yr Undeb Ewropeaidd yn gwneud mwy i helpu'u ffermwyr nhw.
Cyhuddodd lywodraeth y DU hefyd o daro cytundebau masnach "gwan, niweidiol a diwerth" ar ôl Brexit, fyddai'n tanseilio ffermwyr Prydain.
Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am ymateb.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod eisoes wedi cyhoeddi £227m dros dair blynedd i gefnogi ffermwyr a'r economi wledig.
Mae ffermwyr wedi rhybuddio bod cynnydd dramatig ym mhris bwyd anifeiliaid, tanwydd a gwrtaith - wedi'i achosi yn rhannol gan ryfel Wcráin - yn bygwth dyfodol rhai cynhyrchwyr bwyd yng Nghymru.
Mae cost mewnbynnau amaethyddol wedi cynyddu bron i 30% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf - yn ôl mynegai Agflation cwmni The Anderson Centre.
Dywedodd UAC fod hyn yn cymharu â ffigwr o oddeutu 9% ar gyfer chwyddiant prisiau bwyd, tra bod allforion cig a llaeth Cymreig wedi gostwng 23% rhwng 2019-2021.
Mewn araith ar faes y sioe dywedodd llywydd yr undeb Glyn Roberts bod "gwledydd ar draws yr UE wedi cyhoeddi pecynnau gwerth cannoedd o biliynau o bunnau er mwyn cefnogi busnesau sy'n dioddef o ganlyniad i'r cynnydd aruthrol mewn prisiau ac i gryfhau'r gwaith o gynhyrchu bwyd."
Dylai llywodraethau'r DU "weithredu nawr er mwyn gosod ffermwyr y DU ar seiliau cyfartal", meddai, tra'n "cynnig cymorth ariannol uniongyrchol a rhyddhad treth i ddiwydiannau cysylltiedig sy'n allweddol i'n diogelwch bwyd."
Pris disel coch wedi dyblu
Ar fferm stad Penllyn ger y Bontfaen ym Mro Morgannwg, mae John Homfray yn magu gwartheg, moch, defaid a ieir - gyda'r cynnyrch yn cyflenwi siop a bwyty ar safle'r fferm.
"Mae rhyfel Wcráin yn bryderus iawn - mae wedi creu chwyddiant anferth drwy'r system," meddai.
"Mae disel coch wedi mwy na dyblu mewn pris, gwrtaith wedi treblu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf."
Bu'n rhaid codi prisiau yn y siop 10% o ganlyniad, a mae'r bwyty yn dawelach.
"Does gan bobl ddim yr arian, a dy'n nhw ddim eisiau mynd allan a dyna sy' wir yn ein poeni ni yw nerfusrwydd pobl," meddai.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw ar weinidogion yng Nghymru i gynnal Cynhadledd Fwyd i drafod ffyrdd o gynorthwyo'r diwydiant, ac i dalu cymorthdaliadau nesa' ffermwyr yn gynt na'r disgwyl - y mis hwn yn lle mis Rhagfyr.
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, ei bod hi'n "bwysig iawn ein bod ni'n helpu'n ffermwyr ni lle mae angen yr help hynny".
Ond mae "nifer o ffyrdd o wneud hynny" a helpu gyda'r argyfwng costau byw yn nwylo Llywodraeth y DU, meddai.
Roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi £227m nôl ym mis Ebrill i'w gynnig dros dair blynedd i gefnogi'r economi wledig - a "ry'n ni'n edrych ar ba gynlluniau arall allai helpu", ychwanegodd.
Mae gweinidogion amaeth pob un o lywodraethau'r DU i fod i gwrdd ar faes y Sioe yr wythnos hon, gyda disgwyl i'r trafferthion presennol sy'n effeithio'r diwydiant o ran costau fod ar yr agenda.
Mae Sioe Frenhinol Cymru - un o ddigwyddiadau amaethyddol mwyaf Ewrop - yn dychwelyd ar ôl hoe o ddwy flynedd yn dilyn y pandemig.
Gyda'r rhagolygon yn addo tymereddau mor uchel â 36C (97F) yn Llanelwedd ddydd Llun mae'r trefnwyr yn dweud bod mesurau ychwanegol yn eu lle i ddiogelu ymwelwyr ac anifeiliaid.
Beth arall fydd yn cael ei drafod yn y Sioe?
Mae disgwyl i'r cytundeb masnach mawr, cyntaf i'w daro ers Brexit - gydag Awstralia - gael ei gadarnhau yr wythnos hon.
Ond mae aelodau seneddol ar Bwyllgor Masnach Rhyngwladol Tŷ'r Cyffredin wedi galw am oedi er mwyn caniatáu mwy o amser i graffu ar y manylion.
Wrth ymosod yn eiriol ar y llywodraeth, dywedodd Mr Roberts bod y cytundeb hwn ac un diweddarach gyda Seland Newydd - gwlad sy'n allforio lot o gig oen - wedi'u rhuthro er mwyn "sicrhau datganiadau catchy i'r wasg" a bydden nhw'n achosi "effeithiau niweidiol sylweddol" i ffermwyr Cymru.
"Os ydych chi eisiau mesur pa mor gadarn y mae Llywodraeth Prydain wedi brwydro dros ffermio yng Nghymru, mae'n werth nodi bod y cynnydd sy'n cael ei ganiatáu ar gyfer mewnforion cig oen ym mlwyddyn gynta'r ddêl rhwng DU a Seland Newydd dros bedwar deg gwaith yn uwch bob pen o'r boblogaeth nag ydyw mewn cytundeb diweddar rhwng yr Undeb Ewropeaidd a Seland Newydd," meddai.
Mae disgwyl i'r braslun o gynllun cymhorthdal newydd i ffermwyr Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar fod yn destun trafod poblogaidd hefyd mewn cyfarfodydd a seminarau ar faes y sioe.
Y bwriad yw talu ffermwyr yn y dyfodol am waith sy'n helpu i atal newid hinsawdd a gwarchod bioamrywiaeth.
A bydd y prif weinidog Mark Drakeford yn cynnal cynhadledd yn Llanelwedd ddydd Llun ar lygredd afonydd.
Mae cynrychiolwyr o awdurdodau lleol, undebau amaeth, y diwydiant adeiladau, cwmnïau dŵr, rheoleiddwyr ac asiantaethau amgylcheddol wedi cael gwahoddiad.
Cafodd targedau llymach i atal llygredd ffosffad eu cyflwyno ar naw o afonydd Cymru y llynedd, gyda nifer o ardaloedd wedi atal y gwaith o gymeradwyo ceisiadau cynllunio ar gyfer adeiladau newydd o ganlyniad.
Dywedodd Mr Drakeford bod hyn yn "bwnc cymhleth a does 'na ddim ateb syml - rhaid i ni gyd chwarae'n rhan wrth leihau lefelau ffosffad a thaclo gwraidd y broblem".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd24 Mai 2022
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2022