Cofio trychineb Gresffordd
- Cyhoeddwyd
Ychydig cyn 2 o'r gloch y bore ar yr 22ain o Fedi 1934 roedd yna ffrwydrad a thân enfawr yng nglofa Gresffordd ger Wrecsam.
Cafodd 266 o ddynion a bechgyn eu lladd. Hon oedd y drychineb danddaearol waethaf ers tanchwa Senghennydd yn 1913.

Y dorf yn disgwyl am newyddion wedi'r ffrwydrad ar 22 Medi, 1934

Roedd gweithwyr o lofeydd Gresffordd a Llai wedi gwirfoddoli ar gyfer yr ymgyrch achub

Rhai o'r gwirfoddolwyr dewr aeth i lawr i'r pwll oedd ar dân mewn ymgais ofer ond gwrol i achub eu cyd-lowyr

Roedd y timau achub angen offer i daclo'r tân yn y pwll ac i helpu i glirio'r llwch a'r llanast

Golgyfa o'r awyr wrth i bobl ddisgwyl am newyddion

Yn yr oriau wedi'r drychineb, ymgasglodd torf fawr o berthnasau a glowyr wrth geg y pwll i aros am newyddion

Peth o'r difrod yn adran Dennis o'r pwll - chafodd y gwirfoddolwyr ddim mynd llawer pellach na hyn gan ei bod yn rhy beryglus

Roedd mamau a phlant ymhlith y rhai'n disgwyl i'w hanwyliaid ddod i'r fei

Erbyn nos Sul roedd yr amodau yn y pwll yn hynod beryglus a bu'n rhaid i'r timau achub ddod oddi yno am fod rhagor o ffrwydradau'n digwydd ar yr ochr arall

Mae trychineb Gresffordd yn parhau i fod yn un o'r gwaetha' yn hanes y diwydiant glo ym Mhrydain

Roedd yn waith digalon iawn i'r gwirfoddolwyr - dim ond 11 corff gafodd ei ddarganfod, ddaeth y 254 arall byth i'r fei

Mae Cofeb Gresffordd yn cofio am y 266 o ddynion a bechgyn a fu farw - daeth cwest i'r casgliad mai cael eu gwenwyno gan garbon monocsid wnaeth y mwyafrif