Canmol gwaith glanhau cefnogwyr cyn gêm Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae cefnogwyr pêl-droed Cymru oedd ym Mrwsel nos Iau i ddilyn y tîm cenedlaethol wedi cael eu canmol am godi sbwriel ar eu holau yn dilyn parti ar y strydoedd cyn y gêm.
Roedd tua 2,500 o gefnogwyr wedi teithio i'r ddinas i wylio tîm Robert Page yn colli 2-1 i'r tîm cartref yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
O'r cannoedd a dreuliodd amser yng nghanol y ddinas cyn mynd i Stadiwm King Baudouin, fe arhosodd lawer i roi caniau a photeli gwag mewn bagiau sbwriel.
Fe gafodd y gwaith clirio ei ganmol gan yr heddlu, a ddywedodd bod y cefnogwyr wedi gadael y safle "yn yr un cyflwr a phan wnaethon nhw gyrraedd", sef "glan".
Roedd yna ddiolch hefyd gan faer y ddinas, a ddywedodd bod gweithred y cefnogwyr yn "esiampl i'w dilyn".
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ymatebodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford i neges y maer gan ddweud bod "Y Wal Goch yn ein gwneud ni'n falch unwaith eto".
Roedd yna ymateb hefyd gan brif weithredwr CBDC, Noel Mooney a ddywedodd: "Mae gyda ni gefnogwyr gorau'r byd."
"Roedd yn rywbeth ffantastig i'w wneud achos roedd y sgwâr yn brysur iawn, iawn," meddai Paul Corkrey o Gymdeithas Cefnogwyr Pêl-droed Cymru.
"Roedd yn llawn poteli a chaniau ac roedd yn dechrau mynd yn beryglus, felly fe benderfynodd ein cefnogwyr i lanhau'r sgwâr."
Roedd y gwaith clirio, meddai, yn ffordd o ddiolch i'r Belgiaid am eu croeso yn ystod ymweliad "gwych, er i ni golli'r gêm".
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Mae'n beth gwych i gefnogwyr Cymru hefyd - mae'n cryfhau ein henw da ac mae'n beth gwych i'w wneud.
"Gawson ni 2,000 o dicedi. Ar ben hynny, fe ofynnon ni am 800 yn fwy ac fe wnaethon nhw eu rhoi i ni oherwydd ein henw da."
"Fe wnaeth e fi'n falch o fod yn Gymro. Weles i tua 15 neu 20 o bobl [yn glanhau yn y lle cyntaf], a mwy'n ymuno â nhw drwy'r amser.
"Mae'n ymddangos eu bod wedi cael bagiau o rywle - 'sa i'n gwybod ai o'r dafarn - ond wnes i ddechre gweld pobl yn codi pethau o'r llawr...
"Mae'r sgwâr yn anferth... fe wnaethon nhw job arbennig o dda."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Medi 2022