Cynghrair y Cenhedloedd: Gwlad Belg 2-1 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Kevin De BruyneFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Kevin De Bruyne oedd yn rhedeg y gêm i Wlad Belg, a Chymru methu ei atal

Bydd tynged Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn cael ei benderfynu yn erbyn Gwlad Pwyl wedi iddyn nhw gael eu trechu oddi cartref ym Mrwsel nos Fawrth.

Gydag enwau mawr fel Aaron Ramsey, Joe Allen a Ben Davies yn absennol oherwydd anafiadau, roedd hi wastad yn mynd i fod yn anodd yn erbyn y tîm sydd yn yr ail safle yn netholion FIFA.

Hyd yn oed o ystyried yr absenoldebau roedd hi'n berfformiad gwael gan Gymru yn yr hanner cyntaf, ond fe wnaeth pethau wella'n sylweddol yn yr ail hanner.

Er y canlyniad, mae gobeithion Cymru o aros yn haen uchaf y gystadleuaeth yn parhau, gyda gêm dyngedfennol i ddod yng Nghaerdydd nos Sul.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Michy Batshuayi oedd yn arwain yr ymosod i Wlad Belg yn sgil absenoldeb Romelu Lukaku oherwydd anaf

Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi 10 munud, gydag ergyd wych Kevin De Bruyne o ymyl y cwrt cosbi yn canfod cornel isa'r rhwyd.

Funudau'n unig yn ddiweddarach fe allai Youri Tielemans fod wedi dyblu'r fantais wrth i'w foli o 12 llath fynd heibio i bostyn pellaf Wayne Hennessey.

Roedd Gwlad Belg yn parhau i bwyso, ac fe wnaeth De Bruyne daro'r postyn cyn creu ail gôl y tîm cartref i'r ymosodwr Michy Batshuayi.

Daeth cyfle gorau Cymru yn yr hanner cyntaf o beniad Joe Rodon, wrth i'r bêl gael ei chlirio oddi ar linell gôl y Belgiaid cyn i'r golwr Thibaut Courtois arbed peniad Ethan Ampadu yn syth wedi hynny.

Ym munudau olaf yr hanner fe wnaeth Hennessey arbed yn dda gyda'i draed o ergyd arall gan De Bruyne, gyda Chymru'n ffodus iawn o fod ddwy gôl yn unig ar ei hôl hi ar yr egwyl.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Kieffer Moore ar ddechrau'r ail hanner i roi gobaith i Gymru

Fe ddechreuodd Cymru yr ail hanner yn llawer gwell, wrth i Kieffer Moore sgorio ei nawfed gôl ryngwladol gyda pheniad pwerus o groesiad Brennan Johnson.

Gyda chwarter awr yn weddill fe roddwyd cic o'r smotyn i Wlad Belg am drosedd ar De Bruyne, cyn i VAR awgrymu i'r dyfarnwr Ali Palabiyik gymryd golwg fanylach ar y digwyddiad.

Roedd y lluniau'n dangos yn amlwg fod tacl Joe Morrell yn un deg, ac felly cafodd y gic o'r smotyn ei dileu.

Roedd hi'n ddiweddglo cyffrous wrth i'r ddau dîm fynd am ragor o goliau, ond roedd Gwlad Belg wedi gwneud digon i selio'r triphwynt.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cic o'r smotyn Gwlad Belg ei dileu wedi i VAR ymyrryd

Er y canlyniad ar y cae, roedd nodyn positif i Gymru nos Iau, sef y faith fod Gwlad Pwyl wedi cael eu trechu o 0-2 gan Yr Iseldiroedd yn Warsaw.

Mae hynny felly yn golygu fod gobeithion Cymru o aros yn haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd yn parhau yn eu dwylo eu hunain, gyda gêm dyngedfennol rhwng Cymru a Gwlad Pwyl i ddod nos Sul.

Er mwyn cadw eu lle yng Nghynghrair A bydd yn rhaid i Gymru drechu'r Pwyliaid yng Nghaerdydd, tra bod pwynt yn ddigon i'r ymwelwyr gadw eu lle yn y gynghrair.

Ond bydd Ethan Ampadu a Chris Mepham yn absennol ar gyfer y gêm honno wedi iddyn nhw gael eu hail gardiau melyn o'r ymgyrch nos Iau.