Cyhoeddi £100m i gryfhau darpariaeth gofal plant

  • Cyhoeddwyd
Sian Gwenllian a Julie Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr arian ei gyhoeddi yng Nghylch Meithrin yn Abergele

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw'n buddsoddi £100m yng ngofal plant yng Nghymru.

Mae'r cyllid yn cynnwys £26m ar gyfer cam nesaf ehangu gofal plant rhan-amser Dechrau'n Deg a £70m ar gyfer gwelliannau a gwaith cynnal a chadw hanfodol i bob lleoliad gofal plant.

Hefyd bydd £3.8m yn cael ei roi i ddarparwyr gofal plant ar gyfer gwella eu darpariaeth Gymraeg.

Mae'r buddsoddiad yn rhan o gynllun graddol i ehangu darpariaeth blynyddoedd cynnar i bob plentyn dwy oed yng Nghymru, gyda phwyslais penodol ar gryfhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg, sydd yn ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan ac Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Siân Gwenllian y cyllid wrth ymweld â meithrinfa Cylch Meithrin yn Abergele.

Disgrifiad o’r llun,

Ceri Bailey: 'Y cynllun yn rhoi dechrau da i blant'

Dywed Ceri Bailey o Abergele bod ei thri phlentyn wedi cael addysg feithrin Gymraeg drwy Dechrau'n Deg ac na fyddai hynny wedi digwydd heb y cynllun.

"Mae sicrhau llefydd fel hyn yn gwbl allweddol," meddai, "ac mae'n rhoi dechrau da i blant."

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig y byddai'n well cael trefn rhoi taleb i bob teulu sy'n derbyn Credyd Cynhwysol.

"Ar hyn o bryd mae loteri cod post yn golygu bod rhai teuluoedd cefnog yn elwa ar y cynllun tra bod rhai teuluoedd difreintiedig yng Nghymru ddim yn gymwys," meddai.

Dechrau'n Deg

Mae Dechrau'n Deg yn helpu teuluoedd sydd â phlant ifanc yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru ac mae'n cynnwys gofal plant safonol rhan-amser am ddim i blant rhwng dwy a thair oed sy'n byw yn yr ardaloedd hynny.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r buddsoddiad yn rhan o gynllun graddol i ehangu darpariaeth blynyddoedd cynnar i bob plentyn dwy oed yng Nghymru

Fis Ebrill cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai hyd at 2,500 yn fwy o blant yn gymwys ar gyfer gwasanaethau Dechrau'n Deg ar draws Cymru. Dechreuodd cam cyntaf y rhaglen ym mis Medi.

Bydd ail gam yr ehangu yn gwneud mwy na 3,000 yn fwy o blant dwy oed yn gymwys ar gyfer gofal plant Dechrau'n Deg o fis Ebrill 2023, gyda £11.65m wedi ei ddyrannu ar gyfer 2023/24 a £14.3m ar gyfer 2024/25.

Ar hyn o bryd mae awdurdodau lleol yn ystyried pa ardaloedd fydd yn cael eu cynnwys fel rhan o gam dau, a bydd teuluoedd cymwys yn cael gwybod am hynny yn y flwyddyn newydd.

Mae'r £70m ar gyfer gwelliannau i gyfleusterau a gwaith cynnal a chadw ar gael i bob lleoliad gofal plant cofrestredig, a gallant ymgeisio drwy eu hawdurdod lleol. Bydd ceisiadau yn amrywio o wneud mân waith diweddaru i ofodau awyr agored i adeiladu cyfleusterau newydd.

Mae'r gefnogaeth o £3.8m ar gyfer darpariaeth Gymraeg yn cynnwys cynyddu nifer y clybiau ar ôl ysgol cyfrwng Cymraeg cofrestredig yn ogystal â hyfforddi a chynorthwyo ymarferwyr i wella eu Cymraeg a throsglwyddo hynny i'r plant yn eu lleoliadau.

'Darparu cyfleusterau rhagorol'

Dywedodd Julie Morgan: "Mae ein buddsoddiad parhaus yn y sector gofal plant yn helpu i ddarparu cyfleusterau rhagorol i blant ar draws Cymru yn ogystal â chefnogi effeithiau cadarnhaol hirdymor ar fywydau plant a theuluoedd drwy'r rhaglen Dechrau'n Deg.

"Mae'n amlwg bod darpariaeth o safon uchel yn ystod y blynyddoedd cynnar yn cefnogi datblygiad y plentyn ac yn chwarae rôl bwysig o safbwynt sicrhau bod gan bob plentyn y dechrau gorau mewn bywyd a bod pob plentyn yn mwynhau dysgu, yn ehangu ei wybodaeth ac yn gwireddu ei botensial.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaed y cyhoeddiad gan Julie Morgan a Sian Gwenllian, fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru

"Rwy'n arbennig o falch o fuddsoddi mewn darpariaeth Gymraeg er mwyn cynyddu nifer y lleoliadau cyfrwng Cymraeg a nifer y siaradwyr Cymraeg o fewn y gweithlu."

Ychwanegodd Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Siân Gwenllian: "Mae tystiolaeth ryngwladol yn awgrymu mai sicrhau mynediad at ofal ac addysg blynyddoedd cynnar yw un o'r camau pwysicaf y gallwn eu cymryd i roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant.

"Drwy symud ymlaen ac ehangu darpariaeth gofal plant am ddim, a'i gyflwyno'n raddol i bob plentyn dwy oed, gallwn wneud gwir wahaniaeth i flynyddoedd ffurfiannol plant ledled Cymru.

"Mae plant yn dysgu ac yn elwa cymaint ar ddarpariaeth gofal plant safonol - mewn gwirionedd mae'r hyn sydd yn edrych fel chwarae syml yn brofiad addysgol pwysig lle mae plentyn yn dysgu ac yn cymdeithasu mewn amgylchedd cefnogol a gofalgar.

"Rydym yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio â Llywodraeth Cymru er mwyn darparu'r ymrwymiad pwysig hwn i'n holl gymunedau."

'Manteisio ar y cynnig'

Dr Gwenllian Lansdown Davies ydy Prif weithredwr y Mudiad Meithrin, ac mae hi wedi croesawu'r cyhoeddiad.

Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Mae ehangu'r cynllun Dechrau'n Deg a darpariaeth gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o brif amcanion y cynllun yma a'n gobaith ni felly ydi y bydd 'na genhedlaeth o blant a fyddai heb gael mynediad i ofal plant cyfrwng Cymraeg, o'r diwedd yn gallu manteisio ar hynny oherwydd fod y cynllun Dechrau'n Deg yn cael ei ehangu i bob plentyn dwy flwydd oed maes o law.

Disgrifiad o’r llun,

Dr Gwenllian Lansdown-Davies, Prif Weithredwr y Mudiad Meithrin

"Mae hynny'n bwysig oherwydd mae o'n galluogi rhieni na fyddai'n gallu fforddio yn draddodiadol i dalu ffioedd preifat i yrru plentyn i gylch meithrin yn ddwy oed, i gymryd mantais ar y cynnig yma.

"Felly mae'n arbennig o bwysig bod cylchoedd meithrin a meithrinfeydd dydd cyfrwng Cymraeg yn manteisio ar y cynnig yma i ehangu pan fydd y cynnig ar gael iddyn nhw yn eu hardal nhw."